This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK
Momentum Guidance in Welsh

Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin Momentwm

Rheolir Cronfa Gerddorol Momentwm gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Alban Greadigol a PPL gyda Spotify.

A ydych yn gymwys i ymgeisio am arian Momentwm?

Os yw’ch atebion yn gadarnhaol i’r cwestiynau isod, efallai y byddwch yn gymwys i gael arian y Gronfa a gellwch feddwl am ymgeisio.

  • A ydych yn artist/band sy’n seiliedig ym Mhrydain?
  • A ydych yn ysgrifennu neu berfformio eich cerddoriaeth eich hun?
  • A ydych wedi cael eich proffilio neu wedi cael sylw yn y wasg/y cyfryngau cenedlaethol a chael sylw mewn blogiau blaenllaw Prydain?
  • A ydych wedi perfformio neu wedi cael cais i berfformio sawl gwaith ar draws Prydain?
  • A oes gennych dystiolaeth o sylfaen gref o ffans yn genedlaethol ac yn rhanbarthol?

Pwy all ymgeisio?

Rhaid i ymgeiswyr o artistiaid/bandiau am y Gronfa fod ar drobwynt hollbwysig yn eu gyrfa, ac sy’n dangos eich dilyniant presennol a’ch twf artistig gyda’r potensial i ddatblygu eu gyrfa yn sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.

Noder: Nid yw artistiaid/bandiau sydd newydd ddechrau neu sy’n creu demos ac arddangos eu gwaith a chwarae eu gigs cyntaf yn gymwys i ymgeisio. Os ydych ar gam cynharach yn eich gyrfa, cliciwch yma ar gyfer opsiynau ariannu eraill, gan gynnwys y Gronfa Agored.

Gall artistiaid/bandiau ymgeisio’n uniongyrchol neu gall cynrychiolwyr ei wneud ar eu rhan. Dyma’r rhai a all ymgeisio ar eu rhan:

  • Rheolwyr
  • Labeli
  • Cyhoeddwyr
  • Asiantiaid archebu
  • Hyrwyddwyr/pobl sy’n delio â chysylltiadau cyhoeddus
  • Cyfreithwyr
  • Ymgynghorwyr sy’n agos atynt

Pryd y gallaf ymgeisio?

Rydym yn eich cynghori i ddechrau ar eich cais ar ôl sicrhau eich bod yn gymwys i ymgeisio ac unwaith bod gennych gynllun clir ar gyfer camau nesaf eich gyrfa.

Am faint y gallaf ymgeisio?

Gellwch ymgeisio am £5,000–£15,000 i gyfrannu at eich datblygu artistig. Argymhellwn ichi gyllidebu’n realistig i ddangos beth sydd arnoch ei angen. Ar gyfartaledd rhoddwn grantiau o tua £10,000 yr un.

Beth y gallwn ei ariannu?

  • Recordio – albwm/record estynedig/sengl newydd, ffioedd cynhyrchydd/peiriannydd/cymysgydd/cerddor sesiwn, llogi stiwdio ayb.
  • Teithio (Prydain yn unig) – teithio, llety, ffioedd cerddorion, dylunio/cynhyrchu set, rheoli teithiau, llogi offer ayb
  • Marchnata a hyrwyddo – cysylltiadau cyhoeddus ar-lein, hyrwyddwr radio, marchnata digidol, fideos cerddorol, cynhyrchu nwyddau ayb

Noder: Rhown flaenoriaeth i gyfrannu at wariant sy’n eich helpu chi/yr artist i ddatblygu’n broffesiynol a chreadigol.

Beth na ellwch ei ariannu?

  • Prynu car/fan
  • Teithio rhyngwladol
  • Cymorth ar gyfer grŵp o artistiaid – rhaid i bob cais ganolbwyntio ar un artist
  • Prosiect sy’n gofyn am arian a gaiff/gâi/y gallai gael ei dalu dan gytundeb yr artist/band gyda’r label, y cyhoeddwr, y cwmni rheoli neu berthynasau eraill (e.e. costau teithio)
  • Prosiectau cyfalaf (e.e. gwaith adeiladu)
  • Prynu offer
  • Adeiladu stiwdio

Cyllideb a chwestiynau cyffredin

  1. i) Cyllideb gytbwys:

Rhaid i bartneriaid Sefydliad PRS a Momentwm weld cyllideb gytbwys (h.y. cyllideb sy’n dangos y bydd grant Momentwm yn helpu eich prosiect i fod yn effeithiol a thalu costau).

Er enghraifft, a bwrw bod cyfanswm gwariant prosiect Momentwm yn £30,000. Os ydych, cyn ychwanegu swm cais gan Sefydliad PRS, yn rhagweld incwm prosiect o £20,000, byddech yn gofyn am £10,000 mewn cymorth gan Sefydliad PRS fel y bydd incwm yn cyfateb i wariant a balansau eich cyllideb.

  1. ii) Byddwch yn realistig:

Mae ymgynghorwyr Momentwm yn gweithio wrth dalcen caled datblygu artistig a deallant gostau ac amcanestyniadau incwm realistig. Felly sicrhewch fod eich costau’n realistig o ran lefel eich gyrfa a’ch sefyllfa ariannol a bod yr incwm rhagamcanol yn realistig a chyraeddadwy. Gall prosiectau a ariennir gan Fomentwm fod yn uchelgeisiol am y dymunwn i’n harian gael effaith sylweddol ar eich gyrfa, ond dylech lynu at lefelau gwario safonol y diwydiant neu’n agos atynt.

iii) Defnyddiwch y blwch ‘manylion’:

Mae templed cyllidebol Momentwm yn caniatáu ichi ychwanegu gwybodaeth yn y blwch ‘manylion’. Byddai’n well gan yr ymgynghorwyr weld dadansoddiadau cyffredinol o feysydd y gwariant. Yn hytrach na dim ond nodi y bydd ‘marchnata a hyrwyddo’ yn dod i £10,000, byddai’n well ichi ddefnyddio blwch ‘manylion’ i ddadansoddi hyn fel y gwelwn y symiau tebygol ar gyfer marchnata ac ar gyfer hyrwyddo [e.e. cysylltiadau cyhoeddus (£x); hyrwyddo (£x); marchnata digidol (£x)].

Am ragor o awgrymiadau cyllidebol, cliciwch yma i weld ein fideo ‘sut i ymgeisio’

Beth yw’r dyddiadau cau ymgeisio?

Mae gan y Gronfa 4 dyddiad cau’r flwyddyn. Y dyddiad cau nesaf yw 6pm ddydd Mercher 31 Ionawr 2024.  Bwriadwn roi gwybod ichi am ein penderfyniad am eich cais cyn pen 8 wythnos. Gwneir pob penderfyniad gan banel arbenigol.

Cysylltwch ag applications@prsfoundation.com am ragor o wybodaeth a chyda’ch cwestiynau am y ffurflen gais a’r broses ymgeisio.

Arian i reolwyr artistiaid

Rheolwyr artistiaid sy’n gwneud nifer o geisiadau ar ran bandiau ac artistiaid unigol. Gwnânt gyfraniad sylweddol o ran cynllunio, rheoli a gweithredu prosiectau Momentwm arfaethedig.

Ers dechrau Momentwm yn 2013, mae Sefydliad PRS wedi gweld bod rheolwyr artistiaid, mewn llawer o achosion, yn cyfrannu’n ariannol i sicrhau bod prosiect yn mynd rhagddo. Rydym yn disgwyl i’r duedd hon barhau a chynlluniwn ar ei chyfer, yn enwedig lle mae rheolwyr sefydledig a chwmnïau rheoli mawr yn y cwestiwn.

Yn y rhan fwyaf helaeth o achosion, cafodd arian Momentwm effaith sylweddol ar gynhyrchu incwm yn y tymor hir ar gyfer yr artist a’u tîm rheoli.

Ers Ebrill 2018, ac yn sgil cael cyngor gan Fforwm y Rheolwyr Cerddorol, cydnebydd Sefydliad PRS fod tueddiadau’r diwydiant yn cynnig sawl rhwystr sylweddol i reolwyr artistiaid o ran mynediad ac ansicrwydd incwm. O ganlyniad, gall rheolwyr artistiaid a all gyfiawnhau dyraniadau cost rheoli prosiect gynnwys swm teg dan ‘Gyfraniad rheoli prosiect gan reolwr yr artist’ yn Adran y Gwariant yng nghyllideb Momentwm.

Ystyrir ‘Cyfraniad rheoli prosiect gan reolwr yr artist’ gan ymgynghorwyr annibynnol a phartneriaid Momentwm ar y sail ganlynol:

  1. i) Rhoddwn flaenoriaeth i wariant sy’n effeithio’n uniongyrchol a sylweddol ar ddatblygiad gyrfa’r artist *
  2. ii) Gellir priodoli uchafswm o 15% o gyfanswm cais Momentwm i ‘Gyfraniad rheoli prosiect rheolwr yr artist’

iii) Rhaid cyfiawnhau unrhyw gyfraniad a wnaed i dalu am gostau rheoli prosiect yn y cais ac mewn cwestiwn arall ar wahân yn adran gyllidebol ffurflen gais Momentwm

  1. iv) Lle mae’n bosibl i reolwr yr artist neu’r cwmni reoli gyfrannu at gostau prosiect, disgwyliwn i’r cais gynnwys cyfraniad incwm oddi wrth y rheolwyr **
  2. v) Mae unrhyw gynigion grant a ddaw wedyn yn gytundebau rhwng Sefydliad PRS a’r artist a thelir arian y grant i’r artist. Os yw’r artist yn terfynu ei berthynas waith gyda rheolwr yr artist cyn neu yn ystod gweithgarwch y prosiect arfaethedig, adhawlir unrhyw arian a ddyrannwyd i ‘Gyfraniad rheoli prosiect rheolwr yr artist’ gan Sefydliad PRS ac ail-ddyrennir yr arian yn deg yn ôl disgresiwn Sefydliad PRS yn sgil ymgynghoriad gyda’r ddau barti

* Pwyswch effaith hirdymor bosibl cyfraniad eich rheolaeth o’r prosiect yn erbyn yr effaith bosibl ar ddatblygiad yr artist eich o wario’r grant rywle arall

** Caiff swm cynnig yr artist ei ostwng o bosibl os argymhella cynghorwyr arbenigol annibynnol y byddai’r rheolwyr yn cyfrannu’n ariannol at y prosiect arfaethedig neu y gallent ei wneud.

Anoga Sefydliad PRS hefyd reolwyr artistiaid i nodi gwerth mewn nwyddau o’u cymorth ar y prosiect yn y blwch ‘incwm mewn nwyddau’ dan y gyllideb.

Ymgeisio