This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > efydliad PRS yn cyhoeddi cymorth newydd trwy Sbardun Momentwm PPL ar gyfer artistiaid dawnus a gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru

Sefydliad PRS yn cyhoeddi cymorth newydd trwy Sbardun Momentwm PPL ar gyfer artistiaid dawnus a gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru

  • Grantiau Sbardun Momentwm PPL o hyd at £5,000 ar gael i saith artist wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer cymorth a datblygiad gyrfaol
  • Cymorth Sbardun Momentwm PPL o hyd at £2,000 ar gael i ddau ddarpar weithiwr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth wedi’u lleoli yng Nghymru
  • Dyddiad cau i ymgeisio: 22 Awst 2022 am 6:00pm

 

Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, yn cyhoeddi partneriaeth newydd heddiw gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ddod â chymorth targedig Sbardun Momentwm PPL i artistiaid dawnus a gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Bydd cronfa Sbardun Momentwm PPL Sefydliad PRS yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i saith artist dawnus yng Nghymru i gefnogi eu datblygiad gyrfaol. Bydd yr arian Sbardun Momentwm PPL yn darparu cymorth hollbwysig i artistiaid cyffrous â mwy a mwy o gefnogwyr, sy’n gweithio ar hyn o bryd i sefydlu tîm diwydiant cerddoriaeth.

Yn ogystal, mae cymorth o hyd at £2,000, a allai gynnwys micrograntiau, mentora neu gymorth cyfannol arall, ar gael i ddarpar weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.

Mae Sbardun Momentwm PPL yn dilyn llwyddiant diweddar mentrau Sbardun Momentwm PPL yn Rhanbarth Dinas Lerpwl ers 2019 a Swydd Efrog ers 2020, gan gynnwys English Teacher yn llofnodi gydag Island Records, cerddoriaeth Simeon Walker yn cael ei chwarae’n rheolaidd ar restr cerddoriaeth glasurol newydd Spotify ac wedi’i darlledu ar BBC Radio 3, NuTribe yn perfformio yng ngŵyl Great Escape ac albwm Harkin “Honeymoon Suite” yn cael clod gan adolygwyr yn y wasg gerddoriaeth fel Loud & Quiet a DIY.

Gall artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gael mwy o wybodaeth a gwneud cais am gymorth Sbardun Momentwm PPL trwy wefan Sefydliad PRS. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw: 22 Awst 2022 am 6:00pm.

Dywedodd Joe Frankland, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad PRS,

Ers i’r fenter Sbardun Momentwm PPL gyntaf gael ei threialu yn 2019, bu’n llwyddiannus iawn ar draws Rhanbarth Dinas Lerpwl a Swydd Efrog, ac mae’n wych ein bod yn gallu dod â’r cymorth targedig hwn i Gymru. Mae mor bwysig bod creawdwyr cerddoriaeth talentog yn cael y cyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd ni waeth ble maen nhw’n byw yn y Deyrnas Unedig, ac mae sicrhau bod gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn gallu datblygu ac y gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau seilwaith a llenwi bylchau yn y gronfa datblygu talent gyda’n gilydd yn uniongyrchol gysylltiedig â hyn. Mae cyfoeth enfawr o greawdwyr cerddoriaeth talentog ledled Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld pwy sy’n gwneud cais ac yn derbyn y cymorth hollbwysig hwn yn ystod y misoedd i ddod.”

Dywedodd Becci Scotcher, Uwch Reolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS,

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’n ffrindiau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru i gynnig cymorth Sbardun Momentwm PPL i greawdwyr cerddoriaeth talentog a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ledled Cymru. Bydd y cyfle hwn yn galluogi artistiaid yng Nghymru sydd ar y ffordd tuag at greu eu timau a chyfnerthu eu lle yn y diwydiant cerddoriaeth – yn ogystal ag unigolion sy’n ffurfio a datblygu’r diwydiant yng Nghymru – i gael chwistrelliad hollbwysig ac amserol o arian i symud eu gyrfaoedd ymlaen.”

 

Dywedodd Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru,

Rydym yn falch o fod yn ymestyn ein cydweithrediad â Sefydliad PRS a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â bwlch allweddol mewn datblygiad ar gyfer artistiaid yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gweithio mewn rolau cefnogol. Gobeithiwn y bydd hyn yn pontio’r cymorth sydd ar gael trwy Lansio Gorwelion a Momentwm PPL i ganiatáu i bobl greadigol ddawnus gael gafael ar yr hyn y mae arnynt ei angen i ffynnu.”

 

Dywedodd Kate Reilly, Prif Swyddog Aelodaeth a Phobl yn PPL,

Rydym yn gyffrous i gefnogi lansio Sbardun Momentwm PPL ar gyfer Cymru. Mae’r wlad eisoes yn gartref i amrywiaeth o artistiaid a gweithwyr proffesiynol gwych yn y diwydiant cerddoriaeth, ac mae cymunedau yn ei threfi a’i dinasoedd yn prysur ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent Gymreig arbennig. Bydd yr arian sbardun hwn, yn ogystal â’r grantiau sydd eisoes ar gael trwy Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i’r creawdwyr cerddoriaeth cam cyntaf hyn a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi, gan eu helpu i fanteisio ar eu llwyddiant a pharhau i ddatblygu eu gyrfaoedd.

 

Dywedodd Bryan Johnson, Pennaeth Partneriaethau Artist a Diwydiant, Spotify,

Mae gan gerddoriaeth Gymreig hanes hir a chyfoethog, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Cymru i lansio Sbardun Momentwm PPL a helpu i fireinio’r artistiaid talentog a’r bobl greadigol yn y diwydiant sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r gronfa’n gwneud gwaith hollbwysig i helpu artistiaid a gweithwyr proffesiynol gymryd y cam nesaf o’u gyrfaoedd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau i gynhyrchu cerddoriaeth ryfeddol.”

 

Yn ogystal, mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ar gael ar draws y Deyrnas Unedig i’r artistiaid hynny sydd eisoes â thîm ar waith ac sydd wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, yn barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r rhai sydd wedi cael grant Momentwm PPL yn ddiweddar yng Nghymru yn cynnwys Adwaith, Buzzard Buzzard Buzzard, Cate Le Bon, Juice Menace a Magugu, Y dyddiad cau nesaf ar gyfer cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL fydd 22 Awst 2022 am 6:00pm hefyd. Dysgwch fwy ar wefan Sefydliad PRS.

Mae’r fenter Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau o £5,000-£15,000 gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL, Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon ac Invest Northern Ireland. Mae Spotify, y partner digidol swyddogol yn y gronfa, yn cyfrannu arian ychwanegol a phecyn gwobrwyo sy’n cynnwys cyfleoedd hyrwyddol cyffrous a pherthynas waith agos rhwng artistiaid Momentwm a thîm Spotify.

O fis Ebrill 2013 tan fis Mawrth 2020 (Blynyddoedd 1-7), cefnogodd Fomentwm 390 o artistiaid a buddsoddodd fwy na £3.74m mewn cerddoriaeth newydd. Yn seiliedig ar yr Adroddiad 5 Mlynedd o Fomentwm (2013-18), mae hyn yn golygu bod Momentwm wedi:

  • Cefnogi mwy na 225 o albymau
  • Dros 260 o deithiau yn y Deyrnas Unedig a dros 1,400 o berfformiadau byw
  • Cynhyrchu dros £18m ar gyfer diwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig ac economi’r Deyrnas Unedig.

 

Cychwynnodd Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Lloegr Gronfa Gerddoriaeth Momentwm yn 2013. Sefydlodd Cyngor Celfyddydau Lloegr yr angen am y gronfa benodol hon yn wreiddiol a chefnogodd y rhaglen o 2013-18.

Ar gyfer rhestr lawn o’r holl artistiaid a gefnogwyd hyd yma, gweler: https://prsfoundation.com/funding/momentum-music-fund/momentum-artists.

 

Gwrandewch ar yr artistiaid diweddaraf a gefnogwyd gan Fomentwm ar restr chwarae Momentwm Spotify yma.