This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > Cyhoeddi derbynyddion grantiau diweddaraf Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL a Sbardun Momentwm PPL

Cyhoeddi derbynyddion grantiau diweddaraf Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL a Sbardun Momentwm PPL

  • Mae 10 artist dawnus o’r Deyrnas Unedig mewn genres gan gynnwys pop, canu gwerin, R&B, jazz a roc yn cael cymorth Cerddoriaeth Momentwm PPL
  • Mae’r derbynyddion grantiau hyn a ddewiswyd yn cynrychioli 50fed rownd y gronfa bwysig, sydd wedi cefnogi 623 o artistiaid ar adeg dyngedfennol o’u gyrfa ers ei lansio yn 2013
  • Mae 4 artist cyffrous o Gymru ac 1 darpar weithiwr proffesiynol y diwydiant wedi’u dewis ar gyfer rownd ddiweddaraf cymorth Sbardun Momentwm PPL yn y Wlad

Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, ynghyd â PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yn datgelu’r artistiaid diweddaraf a fydd yn cael cymorth gan y Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL arloesol a, chyda Chyngor Celfyddydau Cymru, y cymorth Sbardun Momentwm PPL diweddaraf.

Dyma’r artistiaid a ddewiswyd gan rwydwaith o arbenigwyr y diwydiant i gael cyllid Cerddoriaeth Momentwm PPL:

  • CARI (R&B Amgen) – Datblygu a hyrwyddo cerddoriaeth newydd sbon trwy ddelweddau, cysylltiadau cyhoeddus, cefnogaeth radio a pherfformiadau ym Manceinion a Llundain
  • Charlotte OC (Cantores-Gyfansoddwr) – Recordio, cynhyrchu, a chymysgu albwm
  • Esme Emerson (Indie Pop Amgen) – Cymorth teithio
  • 4.t (Indie Amgen) – Cymorth teithio, gan gynnwys gweithio gyda pheiriannydd sain
  • Kwaku Asante (R&B dwys) – Marchnata, datblygu perfformiad byw, ac adrodd straeon yn weledol trwy gynnwys ffurf hir a ffurf fer
  • Rianne Downey (Gwledig, Gwerin) – Teithio a hyrwyddo albwm
  • Rhumba Club (Synth alt-pop) – Cysylltiadau cyhoeddus ac ymgyrch hyrwyddo ar y radio ar gyfer albwm newydd a senglau
  • TC & the Groove Family (Cyfuniad Jazz) – Cyfansoddi a recordio albwm newydd
  • Tony Bontana (Grime, Roc Seicadelig, Emo) – Hyrwyddo, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo ar y radio
  • Wynona Bleach (Crunchy Bubble-Grunge) – Rhyddhau ail albwm

 

Dywedodd Wynona Bleach, sy’n cael cymorth gan Gerddoriaeth Momentwm PPL,

“Mae’r gronfa hon wedi newid trywydd gyrfa’r band yn llwyr. Mae wedi rhoi hwb anferth i ni wrth i ni baratoi ar gyfer rhyddhau ein halbwm newydd! Rydyn ni’n falch o fod yn y 50fed rownd ac ymuno â chymaint o artistiaid rhyfeddol sydd wedi dod trwy’r gronfa.”

 

Mae’r artistiaid a gyhoeddwyd heddiw, o ddyddiad cau mis Gorffennaf 2025, yn ffurfio 50fed rownd Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ers iddi gael ei lansio yn 2013. Ers hynny, mae’r gronfa bwysig hon wedi cefnogi 623 o artistiaid, sy’n cynnwys enillwyr diweddar Gwobr Mercury Sam Fender (2025), Ezra Collective (2023) a Little Simz (2022), yn ogystal â llawer o enwebeion ac enillwyr Gwobr MOBO ac enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gogledd Iwerddon, Gwobr Gerddoriaeth Cymru a Gwobr SAY.

Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yw’r cymorth arloesol i artistiaid sydd wedi cyrraedd cam  tyngedfennol, sydd eisoes â thîm ar waith ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau o £5,000-£15,000 gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.

Mae Sbardun Momentwm PPL Sefydliad PRS yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i artistiaid dawnus mewn rhanbarthau wedi’u targedu o’r Deyrnas Unedig sy’n denu mwy a mwy o gefnogwyr ac sydd wrthi’n gweithio i sefydlu tîm yn y diwydiant cerddoriaeth. Dyma’r creawdwyr cerddoriaeth diweddaraf o Gymru sy’n derbyn cymorth Sbardun Momentwm PPL mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru:

  • LUVLY (R&B, Canu’r Enaid) – Cynyddu graddfa prosiectau “LoudAnd” a “Clear”
  • Will Barnes Quartet (Jazz) – Teithio a marchnata
  • Josh Hicks (Canu’r Enaid, Pop, R&B) – Cyfansoddi, recordio ac arddangos EP sydd i ddod
  • Half Happy (Roc Indie, Amgen) – Recordio, cymysgu a meistroli corff nesaf o waith y band

 

Yn ogystal, mae cymorth Sbardun Momentwm PPL o hyd at £2,000, sy’n gallu cynnwys micrograntiau, mentora neu gymorth arall cyfannol, yn cael ei gynnig i ddarpar weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd. Dyma’r gweithiwr proffesiynol y diwydiant wedi’i leoli yng Nghymru sy’n cael cymorth yn ystod y rownd hon:

  • Andrew Gordon – Cefnogi gweithgareddau SLUSH (cwmni buddiant cymunedol nid er elw sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cerddoriaeth sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru) trwy ariannu hunanliwtwyr sy’n gweithio ar draws cyfres o gigiau llawr gwlad, gan alluogi SLUSH i barhau i hyrwyddo’r dalent orau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu Andrew i ddatblygu ei waith yn y sector gwyliau.

 

Dywedodd Andrew Gordon, sy’n cael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL,

Rwy’n falch o gael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL. Ar ôl gweithio’n galed i ddatblygu’r sîn cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru – trwy SLUSH a thrwy fy ngwaith ar Stiwdios CWRW, y label BWGiBWGAN a gŵyl BOIA – bydd y cymorth hwn yn fy helpu i barhau a datblygu fy ngwaith i’r lefel nesaf.

Rwy’n frwd ynglŷn â thalent sy’n dod i’r amlwg a lleoliadau llawr gwlad – dwy ran o seilwaith ein sîn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf ond sydd hefyd yn llawn ansicrwydd ariannol. Bydd cymorth ariannol y cynllun hwn yn fy ngalluogi i barhau i ganolbwyntio ar dalent newydd a mynd i’r afael â’r heriau hynny. Bydd hefyd yn fy nghynorthwyo i weithio gyda’r hunanliwtwyr gwych sy’n fy helpu i gyflwyno gigiau, a datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent oddi ar y llwyfan.”

 

 

Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn allweddol i yrfaoedd creawdwyr cerddoriaeth a’r diwydiant ehangach, fel y canfu’r Adroddiad 10 Mlynedd o Fomentwm (2013-23). Hyd yma, mae’r gronfa wedi bod yn drawsnewidiol trwy ddyfarnu dros £5.2 miliwn i artistiaid ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan arwain at:

  • Helpu i gynhyrchu £22 miliwn ar gyfer diwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig
  • Dyfarnu cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL i fwy na 600 o artistiaid
  • Creu mwy na 275 o albymau (gan gynnwys albymau a enwebwyd am Wobr Mercury a dwsinau o rai a gyrhaeddodd yr ugain uchaf yn y siartiau)
  • Cefnogi dros 300 o deithiau yn y Deyrnas Unedig a dros 1,600 o berfformiadau byw
  • Derbyn mwy na 7,300 o geisiadau dros 40 o rowndiau cyllido gyda chyfradd lwyddo 7% o ran dyfarnu arian

Yn dilyn rhyddhau’r adroddiad yn 2023, mae artistiaid diweddar Cerddoriaeth Momentwm PPL yn parhau i greu argraff a datblygu eu gyrfaoedd. Dyfarnwyd Gwobr Mercury 2025 i Sam Fender (y trydydd derbynnydd grant Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn olynol i gyflawni hynny yn dilyn Ezra Collective a Little Simz), rhyddhaodd Jordan Adetunji un o ganeuon mwyaf feirol y 12 mis diwethaf, sef ‘Kehlani’, ac enillodd Dry Cleaning Wobr Grammy yn 2024.

Trwy werthusiad o Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL a thystiolaeth o filoedd o geisiadau y mae Sefydliad PRS yn eu derbyn bob blwyddyn, amlygwyd bylchau yn y llif talent ledled y Deyrnas Unedig. Mae llawer o greawdwyr cerddoriaeth yn dangos potensial cerddorol cryf ond nid ydynt yn gallu manteisio arno oherwydd rhwystrau ariannol, bylchau mewn seilwaith rhanbarthol, gwybodaeth, cyngor, a mynediad at lwyfannau’r diwydiant.

Wedi hynny, lansiwyd Sbardun Momentwm PPL fel cynllun wedi’i dargedu i gefnogi datblygiad artistiaid a bandiau rhagorol sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa, y tu allan i Lundain sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cyrraedd pwynt tyngedfennol yn eu gyrfa oherwydd eu lleoliad.

Ers ei lansio, mae 5 artist wedi datblygu eu gyrfaoedd i bwynt tyngedfennol a bod yn gymwys i wneud cais am a derbyn arian gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ar ôl cael cymorth Sbardun Momentwm PPL i ddechrau. Cafodd Lucas Alexander a’i gyd-artistiaid o Gymru LEMFRECK a Luke RV, yn ogystal â Downtown Kayoto a Chiedu Oraka o Swydd Efrog, gymorth Sbardun Momentwm PPL yn gynnar yn eu gyrfaoedd cyn llwyddo i dderbyn cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL. Mae llwyddiannau diweddar eraill Sbardun yn cynnwys English Teacher yn ennill Gwobr Mercury y llynedd a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer Sound of 2025 y BBC eleni.

 

Daeth PPL yn brif noddwyr Cronfa Gerddoriaeth Momentwm ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae 247 o greawdwyr cerddoriaeth dawnus ar gamau tyngedfennol o’u gyrfaoedd wedi derbyn y cymorth hollbwysig hwn i dorri trwodd i’r lefel nesaf.

Cychwynnodd Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Lloegr Gronfa Gerddoriaeth Momentwm yn 2013. Sefydlodd Cyngor Celfyddydau Lloegr yr angen am y gronfa benodol hon yn wreiddiol a chefnogodd y rhaglen o 2013-18.

 

Find out more about PPL Momentum Music Fund

 

Find out more about PPL Momentum Accelerator