Cyhoeddi derbynyddion grantiau diweddaraf Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL ledled y Deyrnas Unedig a Sbardun Momentwm PPL yng Nghymru
- 10 artist dawnus o’r Deyrnas Unedig yn cael cymorth gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL
- 5 artist cyffrous a 3 darpar weithiwr proffesiynol y diwydiant yng Nghymru wedi’u dewis ar gyfer cymorth Sbardun Momentwm PPL wedi’i dargedu
Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, ynghyd â PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yn datgelu’r artistiaid diweddaraf a fydd yn cael cymorth gan y Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL arloesol ac, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, y cymorth diweddaraf wedi’i dargedu gan Sbardun Momentwm PPL yng Nghymru.
Dyma’r artistiaid a ddewiswyd gan rwydwaith o arbenigwyr y diwydiant i gael cyllid Cerddoriaeth Momentwm PPL:
- Brown Horse – Ymgyrch albwm a sioeau byw
- Burner – Recordio, hyrwyddo a theithio ail albwm
- Gwenno – Taith ledled y Deyrnas Unedig
- Hyphen – Recordio mewn stiwdio, cynnwys gweledol, a theithio
- Loraine James – Marchnata a theithio pumed albwm
- Mia Koden – Datblygu prosiect byw newydd
- Namesbliss – Rhyddhau a theithio albwm newydd
- Olive Jones – Taith prif artist ledled y Deyrnas Unedig i gefnogi ei halbwm cyntaf
- TYLER LEWIS – Rhyddhau a marchnata cerddoriaeth newydd
- Wings of Desire – Rhyddhau albwm newydd
Mae’r rownd ddiweddaraf hon yn cynnwys artistiaid sy’n ennill cydnabyddiaeth a chlod gan feirniaid ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Loraine James, y cafodd ei halbwm ‘Detached From The Rest Of You’ adolygiad cadarnhaol yn The Quietus; Gwenno, y cafodd ei halbwm diweddar ‘Utopia’ bedair seren gan The Line of Best Fit; a Brown Horse, y rhoddwyd 9/10 i’w halbwm ‘Reservoir’ gan Americana UK.
Dywedodd Gwenno, sy’n cael ei chefnogi gan Gerddoriaeth Momentwm PPL,
“Rwy’n ddiolchgar i Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL am gefnogi’r daith hon, a’i galluogi i ddigwydd yn gynaliadwy ar yr un pryd â chreu lle i ddatblygu cerddoriaeth newydd.”
Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yw’r cymorth arloesol i artistiaid sydd wedi cyrraedd cam tyngedfennol, sydd eisoes â thîm ar waith ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau o £5,000-£15,000 gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.
PPL Momentum Music Fund
Mae Sbardun Momentwm PPL Sefydliad PRS yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i artistiaid dawnus mewn rhanbarthau wedi’u targedu o’r Deyrnas Unedig sy’n denu mwy a mwy o gefnogwyr ac sydd wrthi’n gweithio i sefydlu tîm yn y diwydiant cerddoriaeth.
Dyma’r 5 creawdwr cerddoriaeth wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n derbyn cymorth Sbardun Momentwm PPL, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru:
- Adjua – Rhyddhau albwm cyntaf
- Mared – Teithio EP
- MORN – Teithio, recordio a marchnata
- Papaya Noon – Recordio, cymysgu a meistroli ail EP
- Slate – Cynhyrchu ar EP newydd
Yn ogystal, mae hyd at £2,000 o gymorth gan Sbardun Momentwm PPL, sy’n gallu cynnwys micrograntiau, mentora neu gymorth cyfannol arall, yn cael ei gynnig i ddarpar weithwyr proffesiynol y diwydiant i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd. Dyma’r 3 gweithiwr proffesiynol y diwydiant yng Nghymru sy’n cael cymorth yn y rownd hon:
- Owain Williams – Cynyddu gweithgarwch y platfform dwyieithog annibynnol Klust a lansio brand newydd ar y cyd â chwaer-label Recordiadau Sain, sef Sain69.
- Hedydd Ioan – Cymryd rhan mewn sesiynau mentora a mynychu cynadleddau i ddatblygu rhwydwaith a sgiliau.
- Nico Dafydd – Creu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant a chael ei fentora gan arbenigwyr yn y maes i’w fwydo’n ôl i’w label Fflach Cymunedol.
Ers i Sbardun Momentwm PPL gael ei lansio, mae 5 artist wedi datblygu eu gyrfaoedd i adeg dyngedfennol a dod yn gymwys i wneud cais am gymorth gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, a’i dderbyn, ar ôl cael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL i ddechrau. Cafodd Lucas Alexander a’i gyd-artistiaid o Gymru LEMFRECK a Luke RV, yn ogystal â Downtown Kayoto a Chiedu Oraka o Swydd Efrog, gymorth Sbardun Momentwm PPL yn gynnar yn eu gyrfaoedd cyn llwyddo i dderbyn cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL. Mae llwyddiannau diweddar eraill Sbardun yn cynnwys English Teacher yn ennill Gwobr Mercury 2024 ac Abby Meysenburg, gweithiwr proffesiynol y diwydiant o Lerpwl, yn cael ei chynnwys yn nhîm rheoli Jacob Alon, a enillodd wobr Dewis y Beirniaid yn y BRITs 2026.
PPL Momentum Sbardun
Daeth PPL yn brif noddwyr Cronfa Gerddoriaeth Momentwm ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae 265 o greawdwyr cerddoriaeth dawnus ar gamau tyngedfennol o’u gyrfaoedd wedi derbyn y cymorth hollbwysig hwn i dorri trwodd i’r lefel nesaf.
Mae 50 rownd gyntaf Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL wedi helpu i wneud y canlynol:
- Creu 329 o albymau (gan gynnwys dwsinau sydd wedi cyrraedd yr ugain uchaf yn y siartiau)
- Cefnogi dros 300 o deithiau yn y Deyrnas Unedig a dros 1,600 o berfformiadau byw
- Mae artistiaid sydd wedi derbyn cymorth gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL wedi mynd ymlaen i ennill 7 Gwobr Mercury, 13 Gwobr MOBO a 6 Gwobr Brit
Cychwynnodd Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Lloegr Gronfa Gerddoriaeth Momentwm yn 2013. Sefydlodd Cyngor Celfyddydau Lloegr yr angen am y gronfa benodol hon yn wreiddiol a chefnogodd y rhaglen o 2013-18.
