This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > Cyhoeddi prosiectau cerddoriaeth newydd cyffrous a gefnogir i deithio ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon trwy raglen Beyond Borders Sefydliad PRS

Cyhoeddi prosiectau cerddoriaeth newydd cyffrous a gefnogir i deithio ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon trwy raglen Beyond Borders Sefydliad PRS

Mae Sefydliad PRS, ynghyd â’r Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Iwerddon, yn cyhoeddi’r sefydliadau, y grwpiau cerddoriaeth a’r cyfansoddwyr sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon a fydd yn derbyn cyllid trwy’r rhaglen gydgomisiynu a theithio Beyond Borders. Dyma’r 6 phrosiect trawsffiniol cydweithredol cyffrous:

  • Comisiynwyd Uri Agnon (y Deyrnas Unedig) gan Contemporary Music for All (CoMA) (Lloegr), mewn partneriaeth â FOCUS Wales (Cymru), sound festival (yr Alban) a Phrifysgol Newcastle (Lloegr), i gyflwyno tri pherfformiad o “MARCH”, sef gwaith hyblyg ar gyfer actor ac ensemble cymunedol sy’n symud trwy fonolog personol, protest dorfol a sioe gêm abswrd, gan ddwyn ynghyd 25-100 o greawdwyr cerddoriaeth lleol ym mhob lleoliad ac adeiladu ar y comisiwn a grëwyd gyntaf ar gyfer Gŵyl CoMA 2024.
  • Comisiynwyd Maya Youssef (Lloegr) gan Ŵyl Celfyddydau Arabaidd Lerpwl (Lloegr), gyda chymorth gan Sefydliad Bagri (y Deyrnas Unedig) a phartneriaid cyflwyno ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i greu a theithio “New Paths to Old Worlds”, sef gwaith newydd ar gyfer y qanun ac ensemble sy’n archwilio perthyn ar draws traddodiadau llên gwerin Syriaidd a threftadaeth gerddorol Eingl-Geltaidd, gyda pherfformiad cyntaf a thaith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon cyn perfformiad a gynlluniwyd yn Celtic Connections yn yr Alban.
  • Comisiynwyd Dave Milligan a Fergus McCreadie (yr Alban) gan Gerddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban (yr Alban) ar y cyd â Breabach (yr Alban), i greu rhaglen cyngerdd ensemble ar raddfa fawr, gyda pherfformiadau ar draws yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
  • Áilís Ní Ríain (Gweriniaeth Iwerddon) a gyflwynir gan Sefydliad Corfforedig Elusennol United Strings of Europe (Lloegr) yn rhan o “send back the works”, i archwilio byddardod, cyfathrebu a ffyrdd gwahanol o wrando trwy gerddoriaeth, iaith arwyddion a disgrifiad byw wedi’i arwyddo, gan deithio i leoliadau yn Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon.
  • Comisiynwyd David Fennessy (Gweriniaeth Iwerddon) gan Ŵyl Cerddoriaeth Siambr Ryngwladol Dulyn (Gweriniaeth Iwerddon), Gŵyl Gerddoriaeth y Bont-faen (Cymru) a Kings Place (Lloegr) ar gyfer The Hermes Experiment, i greu gwaith 10-12 munud newydd ar gyfer y delyn, y clarinét, y llais a’r bas dwbl, gyda pherfformiad cyntaf yn Nulyn ym mis Mehefin 2027 cyn perfformiadau yng Nghymru a Lloegr, gyda gobeithion am berfformiadau eraill, recordiadau a darllediadau.
  • Comisiynwyd Ben Lunn (Lloegr) a phedwar cyfansoddwr B/byddar, niwrowahanol ac anabl o Gymru, yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr gan Dŷ Cerdd | Music Wales (Cymru) mewn partneriaeth â Drake Music Scotland (yr Alban), gan weithio gyda Deuawd Zöllner-Roche a’r mentoriaid Ben Lunn a Sarah Lianne-Lewis, i greu gweithiau newydd i’r clarinét a’r acordion ar gyfer tywynu | leoma | afterglow, i’w berfformio yng Nghaerdydd, Gateshead ac Aberdeen ochr yn ochr â cherddoriaeth ddiweddar gan gyfansoddwyr anabl o’r Alban, ac a recordiwyd trwy broses hygyrch sy’n galluogi mewnbwn creadigol o bell.

 

Dywedodd Elizabeth Sills, Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS,

“Mae Beyond Borders wedi cael effaith sylweddol a pharhaus dros yr 16 mlynedd diwethaf trwy ddod â sefydliadau a chyfansoddwyr ynghyd, buddsoddi mewn cerddoriaeth a pherfformiadau newydd uchelgeisiol, a chysylltu cymunedau a chynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Rydyn ni’n falch o groesawu’r 6 darn a ddewiswyd sy’n cael eu cefnogi eleni. Edrychwn ymlaen at weld pob un yn ychwanegu at etifeddiaeth wych y rhaglen o ddarnau eithriadol ac arobryn, a hyrwyddo’r dalent a’r cydweithrediad o bob gwlad.

Diolchwn o galon i’n partneriaid yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Iwerddon, y mae eu cefnogaeth hollbwysig yn parhau i wneud y fenter ddylanwadol hon yn bosibl.”

 

Sefydlwyd Beyond Borders yn 2010 i gefnogi cydgomisiynau a theithiau o ansawdd uchel, gan ysgogi cydweithio rhwng cyfansoddwyr, grwpiau perfformio a sefydliadau cerddoriaeth ledled pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac, ers 2014, Gweriniaeth Iwerddon.

Mae llwyddiannau Beyond Borders wedi cynnwys Songs of Separation, sef casgliad o 10 o gerddorion gwerin o Loegr a’r Alban yr enillodd eu halbwm y wobr ‘Albwm Gorau’ yng Ngwobrau Canu Gwerin 2017 BBC Radio 2. Roedd ‘Flit’ gan Martin Green, a gyfunodd gerddoriaeth fyw ac animeiddio gan fyfyrio ar hanesion mudo o lygad y ffynnon, ac a ariannwyd trwy Beyond Borders, wedi cyfareddu cynulleidfaoedd a beirniaid ar draws y wlad yn 2016, hefyd. Roedd gwaith llwyfan Stuart Macrae, sef ‘Ghost Patrol’, a gydgomisiynwyd gan Music Theatre Wales ac Opera yr Alban, yn fuddugol yn y categori Opera yng Ngwobrau Celfyddydau Southbank Sky Arts ym mis Mawrth 2013.

I gael gwybod mwy am y rhaglen, ewch i