This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK
Cronfa Arddangos Rhyngwladol

Cronfa Arddangos Rhyngwladol

Mae’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn cynnig cymorth hanfodol i artistiaid a bandiau sydd wedi cael eu gwahodd i chwarae mewn gŵyl arddangos ryngwladol neu gynhadledd.

Bydd y Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn derbyn ceisiadau gan artistiaid a leolir yng Nghymru a Lloegr, gyda chefnogaeth gan bartneriaid y gronfa a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Cliciwch yma ar gyfer hafan y Gronfa Arddangos Rhyngwladol.

Mae Sefydliad y PRS yn cynnig hyd at £5,000 i gyfrannu at:

  • Teithio
  • Fisâu
  • Llety
  • Lwfansau beunyddiol

Rydym yn cynnig hyd at 75% tuag at eich costau teithio. Dylai’r 25% sy’n weddill gael ei dalu gan yr artist, y label, y rheolwr, y cyhoeddwr ac ati.

Rydym yn argymell y dylech wneud cais cyn gynted ag y maent yn derbyn gwahoddiad swyddogol gan yr ŵyl.

DYDDIADAU CAU: Nid oes dyddiad cau gan ei bod yn rhaglen dreigl – ond dylech ystyried ymgeisio unwaith yr ydych wedi derbyn gwahoddiad swyddogol i berfformio yn yr ŵyl arddangos.

CLICIWCH YMA I WNEUD CAIS

Mae’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn bartneriaeth rhwng PRS for Music Foundation, Masnach a Buddsoddi y DU, British Underground, Cyngor Celfyddydau Lloegr,Undeb y Cerddorion, Alban Greadigol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth grant, mae partneriaid yn cynnig cyngor, arweiniad a gweithdai ar gyfer rhai digwyddiadau.

Beth yw allforio cerddoriaeth?

Felly, rydych chi neu eich band ar eich ffordd i lwyddiant yn y DU. Rydych chi wedi cael rhai llwyddiannau gyda’ch recordiadau, wedi gwneud taith o amgylch y wlad, a bellach yn ystyried tiriogaethau y tu hwnt i’n glannau i ddatblygu eich gyrfa. Yn gryno, rydych yn barod i allforio eich cerddoriaeth. Mae’r DU yn un o allforwyr cerddoriaeth newydd mwyaf y byd.

Bob blwyddyn, gwahoddir ein talent newydd mwyaf addawol i wyliau cerddorol allweddol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant a digwyddiadau sioeau arddangos i berfformio i labeli, hyrwyddwyr, asiantau a chyhoeddwyr rhyngwladol sydd â diddordeb. r ei fod yn hanfodol i berfformwyr ddenu a sicrhau cytundebau mewn tiriogaethau y tu allan i’r DU, gall y cyrchau tramor blaenorol hyn fod yn ddrud.

Diben y Gronfa Arddangos Rhyngwladol yw helpu i gyfrannu at y costau ar gyfer y teithiau hyn, a galluogi artistiaid i gysylltu â ac arddangos eu gwaith i’r label, hyrwyddwr neu oruchwyliwr cerddoriaeth nesaf posib.

Pa wyliau arddangos sy’n ddilys ar gyfer y gronfa?

Y mathau o ddigwyddiadau a gwyliau sy’n ddilys ar gyfer y gronfa yw’r rhai sy’n denu cynulleidfa neu ddirprwyaeth o’r diwydiant cerddorol yn bennaf. Ni all y gronfa gefnogi artistiaid i chwarae mewn gwyliau ar gyfer y cyhoedd.

Enghreifftiau o wyliau arddangos:

SXSW yn Austin, UDA
Wythnos Gerddoriaeth Tallinn, Tallinn, Estonia
JazzAhead, Bremen, yr Almaen
Mondo yn Efrog Newydd, UDA
Folk Alliance International, Dinas Kansas, UDA
Eurosonic, Groningen, yr Iseldiroedd
Gŵyl yr Americana Music Association, Nashville, UDA
NXNE, Toronto, Canada
Gŵyl Hip Hop A3C, Atlanta, UDA
WOMEX
Iceland Airwaves, Reykjavik, Gwlad yr Iâ
Classical Next, Fienna, Awstria
Midem, Cannes, Ffrainc
Gŵyl Jazz Rochester, Efrog Newydd, UDA

Mae dros 50 o ddigwyddiadau sy’n gymwys bob blwyddyn.

Cliciwch yma i gael rhestr fwy cyflawn.

Os ydych chi wedi cael gwahoddiad i chwarae mewn digwyddiad ond rydych yn ansicr p’un a yw’n addas neu beidio, anfonwch e-bost at bhavesh@prsformusicfoundation.com.

Mae’r Gronfa Arddangos Rhyngwladol yn cynnig cymorth ariannol i artistiaid a leolir yng Nghymru,Lloegr a’r Alban.

Mae grantiau hyd at £5,000 yn helpu i gyfrannu at gostau teithio, fisâu a llety.

A ydw i’n gymwys i dderbyn cymorth gan y Gronfa Arddangos Rhyngwladol?

  • A ydych chi’n fand/artist a leolir yng Nghymru, yr Albanneu Loegr?
  • A ydych chi’n ysgrifennu ac yn perfformio eich cerddoriaeth eich hun sy’n rhagorol?
  • A ydych chi wedi cael gwahoddiad i chwarae mewn digwyddiad rhyngwladol, sydd ag elfen gynhadledd, ac sydd wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yn hytrach na’r cyhoedd?
  • A oes gennych chi enw da yn y DU (e.e. wedi bod yn y cyfryngau cenedlaethol/wedi bod ar y radio cenedlaethol/wedi rhyddhau record annibynnol llwyddiannus)?
  • A oes gennych restr o gyfarfodydd â gweithredwyr o’r diwydiant cerddoriaeth (e.e. cyhoeddwyr, labeli, asiantaethau, ac ati) wedi’u cadarnhau ar gyfer yr adeg pan fyddwch yn eich arddangosfa ddewisol?
  • A oes gennych achos busnes gryf o blaid mynychu’r arddangosfa arbennig hon (h.y. ydych chi’n adeiladu ar lwyddiant blaenorol yno, neu’n mynd ar drywydd sibrydion arwyddocaol ynglŷn â’ch band yn y wlad benodol honno)?

Os mai ie yw eich ateb i bob un o’r cwestiynau isod, yna rydych yn gymwys i wneud cais.

Os nad oes unrhyw un o’r uchod yn berthnasol i chi, gallech ddal fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer un o’n dewisiadau cyllid eraill.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac am gael gwybod ynglŷn â dewisiadau eraill ar gyfer cyllid rhyngwladol, cliciwch yma.

Cofiwch, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr newydd ac artistiaid nad ydynt yn cael eu hariannu eisoes.

Caiff yr holl benderfyniadau ynglŷn â chyllid eu gwneud gan bartneriaid y Gronfa Arddangos Rhyngwladol.

O ran digwyddiadau arddangos y mae galw mawr amdanynt megis SXSW, bydd panel o arbenigwyr annibynnol o’r diwydiant cerddoriaeth yn cwrdd i bennu’r artistiaid.

Gwneir penderfyniadau ar sail y meini prawf a nodir ar ein Tudalennau Cyfarwyddyd.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus, ac nad ydych yn hapus o ran y penderfyniad i beidio â chynnig cyllid, ac nad ydych yn credu y dilynwyd y weithdrefn gywir, gweler ein dogfen Gweithdrefn Gwyno.

Mae penderfyniadau ein partneriaid ynglŷn â chyllid yn derfynol.