Canllawiau a Chwestiynau Cyffredin Momentwm
Rheolir Cronfa Gerddorol Momentwm gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Alban Greadigol a PPL.
A ydych yn gymwys i ymgeisio am arian Momentwm?
Os yw’ch atebion yn gadarnhaol i’r cwestiynau isod, efallai y byddwch yn gymwys i gael arian y Gronfa a gellwch feddwl am ymgeisio.
- A ydych yn artist/band sy’n seiliedig ym Mhrydain?
- A ydych yn ysgrifennu neu berfformio eich cerddoriaeth eich hun?
- A ydych wedi cael eich proffilio neu wedi cael sylw yn y wasg/y cyfryngau cenedlaethol a chael sylw mewn blogiau blaenllaw Prydain?
- A ydych wedi perfformio neu wedi cael cais i berfformio sawl gwaith ar draws Prydain?
- A oes gennych dystiolaeth o sylfaen gref o ffans yn genedlaethol ac yn rhanbarthol?
Pwy all ymgeisio?
Rhaid i ymgeiswyr o artistiaid/bandiau am y Gronfa fod ar drobwynt hollbwysig yn eu gyrfa, ac sy’n dangos eich dilyniant presennol a’ch twf artistig gyda’r potensial i ddatblygu eu gyrfa yn sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.
Noder: Nid yw artistiaid/bandiau sydd newydd ddechrau neu sy’n creu demos ac arddangos eu gwaith a chwarae eu gigs cyntaf yn gymwys i ymgeisio. Os ydych ar gam cynharach yn eich gyrfa, cliciwch yma ar gyfer opsiynau ariannu eraill, gan gynnwys y Gronfa Agored.
Gall artistiaid/bandiau ymgeisio’n uniongyrchol neu gall cynrychiolwyr ei wneud ar eu rhan. Dyma’r rhai a all ymgeisio ar eu rhan:
- Rheolwyr
- Labeli
- Cyhoeddwyr
- Asiantiaid archebu
- Hyrwyddwyr/pobl sy’n delio â chysylltiadau cyhoeddus
- Cyfreithwyr
- Ymgynghorwyr sy’n agos atynt
Pryd y gallaf ymgeisio?
Rydym yn eich cynghori i ddechrau ar eich cais ar ôl sicrhau eich bod yn gymwys i ymgeisio ac unwaith bod gennych gynllun clir ar gyfer camau nesaf eich gyrfa.
Am faint y gallaf ymgeisio?
Gellwch ymgeisio am £5,000–£15,000 i gyfrannu at eich datblygu artistig. Argymhellwn ichi gyllidebu’n realistig i ddangos beth sydd arnoch ei angen. Ar gyfartaledd rhoddwn grantiau o tua £10,000 yr un.
Beth y gallwn ei ariannu?
- Recordio – albwm/record estynedig/sengl newydd, ffioedd cynhyrchydd/peiriannydd/cymysgydd/cerddor sesiwn, llogi stiwdio ayb.
- Teithio (Prydain yn unig) – teithio, llety, ffioedd cerddorion, dylunio/cynhyrchu set, rheoli teithiau, llogi offer ayb
- Marchnata a hyrwyddo – cysylltiadau cyhoeddus ar-lein, hyrwyddwr radio, marchnata digidol, fideos cerddorol, cynhyrchu nwyddau ayb
Noder: Rhown flaenoriaeth i gyfrannu at wariant sy’n eich helpu chi/yr artist i ddatblygu’n broffesiynol a chreadigol.
Beth na ellwch ei ariannu?
- Prynu car/fan
- Teithio rhyngwladol
- Cymorth ar gyfer grŵp o artistiaid – rhaid i bob cais ganolbwyntio ar un artist
- Prosiect sy’n gofyn am arian a gaiff/gâi/y gallai gael ei dalu dan gytundeb yr artist/band gyda’r label, y cyhoeddwr, y cwmni rheoli neu berthynasau eraill (e.e. costau teithio)
- Prosiectau cyfalaf (e.e. gwaith adeiladu)
- Prynu offer
- Adeiladu stiwdio
Cyllideb a chwestiynau cyffredin
- i) Cyllideb gytbwys:
Rhaid i bartneriaid Sefydliad PRS a Momentwm weld cyllideb gytbwys (h.y. cyllideb sy’n dangos y bydd grant Momentwm yn helpu eich prosiect i fod yn effeithiol a thalu costau).
Er enghraifft, a bwrw bod cyfanswm gwariant prosiect Momentwm yn £30,000. Os ydych, cyn ychwanegu swm cais gan Sefydliad PRS, yn rhagweld incwm prosiect o £20,000, byddech yn gofyn am £10,000 mewn cymorth gan Sefydliad PRS fel y bydd incwm yn cyfateb i wariant a balansau eich cyllideb.
- ii) Byddwch yn realistig:
Mae ymgynghorwyr Momentwm yn gweithio wrth dalcen caled datblygu artistig a deallant gostau ac amcanestyniadau incwm realistig. Felly sicrhewch fod eich costau’n realistig o ran lefel eich gyrfa a’ch sefyllfa ariannol a bod yr incwm rhagamcanol yn realistig a chyraeddadwy. Gall prosiectau a ariennir gan Fomentwm fod yn uchelgeisiol am y dymunwn i’n harian gael effaith sylweddol ar eich gyrfa, ond dylech lynu at lefelau gwario safonol y diwydiant neu’n agos atynt.
iii) Defnyddiwch y blwch ‘manylion’:
Mae templed cyllidebol Momentwm yn caniatáu ichi ychwanegu gwybodaeth yn y blwch ‘manylion’. Byddai’n well gan yr ymgynghorwyr weld dadansoddiadau cyffredinol o feysydd y gwariant. Yn hytrach na dim ond nodi y bydd ‘marchnata a hyrwyddo’ yn dod i £10,000, byddai’n well ichi ddefnyddio blwch ‘manylion’ i ddadansoddi hyn fel y gwelwn y symiau tebygol ar gyfer marchnata ac ar gyfer hyrwyddo [e.e. cysylltiadau cyhoeddus (£x); hyrwyddo (£x); marchnata digidol (£x)].
Am ragor o awgrymiadau cyllidebol, cliciwch yma i weld ein fideo ‘sut i ymgeisio’
Beth yw’r dyddiadau cau ymgeisio?
Mae gan y Gronfa 4 dyddiad cau’r flwyddyn. Y dyddiad cau nesaf yw. Bwriadwn roi gwybod ichi am ein penderfyniad am eich cais cyn pen 8 wythnos. Gwneir pob penderfyniad gan banel arbenigol.
Cysylltwch ag applications@prsfoundation.com am ragor o wybodaeth a chyda’ch cwestiynau am y ffurflen gais a’r broses ymgeisio.
Arian i reolwyr artistiaid
Rheolwyr artistiaid sy’n gwneud nifer o geisiadau ar ran bandiau ac artistiaid unigol. Gwnânt gyfraniad sylweddol o ran cynllunio, rheoli a gweithredu prosiectau Momentwm arfaethedig.
Ers dechrau Momentwm yn 2013, mae Sefydliad PRS wedi gweld bod rheolwyr artistiaid, mewn llawer o achosion, yn cyfrannu’n ariannol i sicrhau bod prosiect yn mynd rhagddo. Rydym yn disgwyl i’r duedd hon barhau a chynlluniwn ar ei chyfer, yn enwedig lle mae rheolwyr sefydledig a chwmnïau rheoli mawr yn y cwestiwn.
Yn y rhan fwyaf helaeth o achosion, cafodd arian Momentwm effaith sylweddol ar gynhyrchu incwm yn y tymor hir ar gyfer yr artist a’u tîm rheoli.
Ers Ebrill 2018, ac yn sgil cael cyngor gan Fforwm y Rheolwyr Cerddorol, cydnebydd Sefydliad PRS fod tueddiadau’r diwydiant yn cynnig sawl rhwystr sylweddol i reolwyr artistiaid o ran mynediad ac ansicrwydd incwm. O ganlyniad, gall rheolwyr artistiaid a all gyfiawnhau dyraniadau cost rheoli prosiect gynnwys swm teg dan ‘Gyfraniad rheoli prosiect gan reolwr yr artist’ yn Adran y Gwariant yng nghyllideb Momentwm.
Ystyrir ‘Cyfraniad rheoli prosiect gan reolwr yr artist’ gan ymgynghorwyr annibynnol a phartneriaid Momentwm ar y sail ganlynol:
- i) Rhoddwn flaenoriaeth i wariant sy’n effeithio’n uniongyrchol a sylweddol ar ddatblygiad gyrfa’r artist *
- ii) Gellir priodoli uchafswm o 15% o gyfanswm cais Momentwm i ‘Gyfraniad rheoli prosiect rheolwr yr artist’
iii) Rhaid cyfiawnhau unrhyw gyfraniad a wnaed i dalu am gostau rheoli prosiect yn y cais ac mewn cwestiwn arall ar wahân yn adran gyllidebol ffurflen gais Momentwm
- iv) Lle mae’n bosibl i reolwr yr artist neu’r cwmni reoli gyfrannu at gostau prosiect, disgwyliwn i’r cais gynnwys cyfraniad incwm oddi wrth y rheolwyr **
- v) Mae unrhyw gynigion grant a ddaw wedyn yn gytundebau rhwng Sefydliad PRS a’r artist a thelir arian y grant i’r artist. Os yw’r artist yn terfynu ei berthynas waith gyda rheolwr yr artist cyn neu yn ystod gweithgarwch y prosiect arfaethedig, adhawlir unrhyw arian a ddyrannwyd i ‘Gyfraniad rheoli prosiect rheolwr yr artist’ gan Sefydliad PRS ac ail-ddyrennir yr arian yn deg yn ôl disgresiwn Sefydliad PRS yn sgil ymgynghoriad gyda’r ddau barti
* Pwyswch effaith hirdymor bosibl cyfraniad eich rheolaeth o’r prosiect yn erbyn yr effaith bosibl ar ddatblygiad yr artist eich o wario’r grant rywle arall
** Caiff swm cynnig yr artist ei ostwng o bosibl os argymhella cynghorwyr arbenigol annibynnol y byddai’r rheolwyr yn cyfrannu’n ariannol at y prosiect arfaethedig neu y gallent ei wneud.
Anoga Sefydliad PRS hefyd reolwyr artistiaid i nodi gwerth mewn nwyddau o’u cymorth ar y prosiect yn y blwch ‘incwm mewn nwyddau’ dan y gyllideb.