This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Sbardun Gerddoriaeth PPL

Cynllun wedi’i dargedu ydy Sbardun Gerddoriaeth PPL i gefnogi datblygiad artistiaid a bandiau eithriadol sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant y tu allan i Lundain ac sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol o ran ceisio cyrraedd pwynt allweddol yn eu gyrfaoedd, a hynny‘n seiliedig ar leoliad.

Trwy werthusiad ein Cronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL a thystiolaeth miloedd o geisiadau mae Sefydliad PRS yn ei dderbyn pob blwyddyn, fe ddaethon ni i adnbaod bylchau yn y bibell ddoniau ledled y DU. Mae sawl lluniwr cerddoriaeth yn dangos potensial cerddorol cryf ond yn analluog i fanteisio ar yn oherwydd rhwystrau ariannol, bylchau yn isadeiledd rhanbarthol, gwybodaeth, cyngor, a mynediad at lwyfannau’r diwydiant.

Mae dull hirdymor Sbardun Gerddoriaeth PPL yn cefnogi datblygiad yr artistiaid a’r bandiau eithriadol hyn y tu allan i Lundain, gyda phartneriaid yn cynnig cymorth i nifer o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn y dyfodol megis rheolwyr, hyrwyddwyr, labeli recordiau, cyhoeddwyr cerddoriaeth, asiantwyr bwcio, i roi hwb i’r sefyllfaoedd rhanbarthol ar draws y DU.

Mae Sbardun Gerddoriaeth PPL, a lansiwyd fel peilot yn Lerpwl yn 2019, yn rhedeg yn Swydd Efrog, Dinas-ranbarth Lerpwl a Chymru.

Dyddiadau cau: cliciwch yma

Mae Sbardun Gerddoriaeth PPL mewn partneriaeth â Bwrdd Cerdd Dinas-ranbarth Lerpwl, Culture Liverpool a Chydawdurdod Dinas-ranbarth Lerpwl

Mae Sbardun Gerddoriaeth PPL mewn partneriaeth â Launchpad, a gyflenwir Music:Leeds / Music Local ac yn defnyddio cyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Rheolir Cronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru PPL a Spotify.

 

Gall y rhaglen gefnogi prosiectau gan gyfansoddwyr caneuon, artistiaid, bandiau, a pherfformwyr sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain ag sydd wedi’u lleoli yn Swydd Efrog, Dinas Lerpwl a Chymru, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y dyfodol sydd wedi’u lleoli yn Ninas-ranbarth Lerpwl a Chymru.

Amcanion Sbardun Gerddoriaeth PPL ydy:

  • I ddarparu cefnogaeth ariannol hanfodol ac amserol o hyd at £5mil a fydd yn gymorth i artistiaid, bandiau a Gweithwyr Proffesiynol y diwydiant y tu allan i Lundain i gyrraedd neu fynd heibio pwyntiau allweddol gyrfa gynnar
  • I alluogi artistiaid a bandiau i fod yn fwy parod ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol
  • I gefnogi isadeiledd y diwydiant yn rhanbarthol a mynediad i aelodau’r tîm fel nad oes raid i artistiaid, bandiau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant adael eu rhanbarth i symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd
  • Darparu mynediad at lwyfannau‘r diwydiant (e.e. llwyfannau byw, mynediad i radio a DPS, diddordeb y diwydiant)
  • Darprau gwybodaeth a chyngor i alluogi llunwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant i gynhyrchu incwm. adeiladu cynulleidfaoedd a chynnal gyrfaoedd
  • Cefnogi ystod amrywiol o lunwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ledled y DU
  • Cefnogi sefyllfaoedd rhanbarthol cynaliadwy, gyda’r incwm a gynhyrchir yn aros yn yr ardal

 

Arweiniad a Chwestiynau Cyffredin

A ydw i’n gymwys?
Beth ydy Sbardun Gerddoriaeth PPL?
Pwy ddylai wneud cais?
Pwy na ddylai wneud cais?
Am faint o arian fedra i wneud cais?
Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys dan grant Sbardun Gerddoriaeth PPL?
Fe wnaethon ni dderbyn grant eisoes trwy Sbardun Gerddoriaeth PPL. Pryd gawn ni wneud cais eto?
Pryd mae’r dyddiadau cau?

A ydw i’n gymwys?

Os medrwch ateb IE i’r cwestiynau isod, maed’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth Sbardun Gerddoriaeth PPL ac fe ddylech ystyried gwneud cais.

I Lunwyr Cerddoriaeth (Artistiaid a Bandiau):

  • A ydych chi’n artist/band sydd wedi’ch lleoli mewn rhanbarth Sbardun (Swydd Efrog*, Dinas-ranbarth Lerpwl** neu Gymru)?
  • A ydych chi’n cyfansoddi/sgwennu ac/neu’n perfformio eich cerddoriaeth eich hun?
  • A ydych chi wedi cael eich portreadu/wedi derbyn sylw yn y wasg ranbarthol neu genedlaethol ac wedi derbyn sylw mewn blogiau fel artist/band?
  • A ydych chi wedi chwarae mewn sioeau neu wedi cael cais i chwarae mewn sawl sioe ledled eich rhanbarth?
  • A oes ganddoch chi dystiolaeth o gefnogaeth gref o ddilynwyr yn rhanbarthol? A ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf i geisio ennyn diddordeb yn genedlaethol neu eisoes yn ennill sylw cenedlaethol?
  • A ydych chi wedi gweld arwyddion cynnar o ddiddordeb a/neu weithio’n anffurfiol gyda gweithwyr proffesiynol neu fudiadau cerddoriaeth? (e.e.  rheolwyr, label recoriau, asiant bwcio, y wasg)?

    I Weithwyr Proffesiynol y Diwydiant

‘Gweithiwr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ ydy rhywun sy’n gweithio yn y cefndir (h.y. ar ochr y diwydiant) i gefnogi cerddorion a llunwyr cerddoriaeth yn un ai Dinas-ranbarth Lerpwl (RhDL) neu Gymru.  Rydyn ni’n disgwyl:

  • A ydych chi wedi’ch lleoli yn Ninas-ranbarth Lerpwl neu yng Nghymru?
  • A ydych chi’n sefydlu eich hunan o fewn y Ddinas-ranbarth neu Gymru, yn dangos ymrwymiad cryf i ddoniau o fewn yr ardaloedd hyn?
  • A oes ganddoch chi hanes blaenorol da/ sy’n datblygu ac yn barod i ddatblygu sgiliau ymhellach a chynyddu’r effaith bydd eich gwaith yn cael ar y sîn?
  • A fuoch chi’n gweithio gyda neu ynghlwm â cherddoriaeth am fwy na 18 mis, a llai na 10 mlynedd?
  • Fe ddylech chi fod yn dangos potensial, a gyda chefnogaeth yn gallu naddu gyrfa lawn-amser yn y diwydiant cerddoriaeth.

*Diffinnir Swydd Efrog ganddon ni fel yr ardaloedd sy’n cynnwys Parneriaethau Menter Lleol Dinas-ranbarth Leeds City (Gorllewin Swydd Efrog), Dinas-ranbarth Sheffield (De Swydd Efrog), Caerefrog a Gogledd Swyd Efrog (yn cynnwys Craven, Hambleton, Harrogate, Richmondshire, Ryedale, Scarborough a Selby), ynghyd ag awdurdodau lleol Dwyrain Riding Swydd Efrog a Kingston upon Hull.  Fodd bynnag, mae Sbardun Gerddoriaeth PPL yn parhau’n agored i geisiadau gan lunwyr cerddoriaeth cymwys o bob man yn y DU.  Ceir fwy o wybodaeth am ein holl cyfleoedd cyllido yma.

**Diffinnir Dinas-ranbarth Lerpwl ganddon ni fel y Cydawdurdod sy’n cynnwys chwe awdurdod lleol Dinas-ranbarth Lerpwl – Halton, Knowsley, Lerpwl, Sefton, St Helens  Chilgwri. Fodd bynnag, mae Sbardun Gerddoriaeth PPL yn parhau’n agored i geisiadau gan lunwyr cerddoriaeth cymwys o bob man yn y DU.  Ceir fwy o wybodaeth am ein holl cyfleoedd cyllido yma.

Beth ydy Sbardun Gerddoriaeth PPL?

Cynllun wedi dargedu ydy Sbardun Gerddoriaeth PPL i gefnogi datblygiad artistiaid a bandiau eithriadol sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain y tu allan i Lundain ac sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gyrraedd man allweddol yn eu gyrfa.

Mae Sbardun Gerddoriaeth PPL ar gael ar yn o bryd ar gael i lunwyr cerddoriaeth a leolir yn Swydd Efrog, Dinas-ranbarth Lerpwl a Chymru, a gweithwyr proffesiynl y diwydiant yn Ninas-ranbarth Lerpwl a Chymru

Yn Swydd Efrog:

Cyflenwir Sbardun Gerddoriaeth PPL mewn partneriaeth â Music: Leeds’ Launchpad, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, PPL a Spotify.
Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  1. Bydd o leiaf 4 artist sydd wedi’u lleoli yn Swydd Efrog yn derbyn grantiau Sbardun Gerddoriaeth PPL o hyd at £5,000, ynghyd â chyngor a chefnogaeth i’r artist a’u timau cynyddol i’w helpu i gyrraedd pwynt allweddol a dod yn fwy parod i fuddsoddi ynddyn nhw yn y dyfodol. Ceir dau ddyddiad cau pob blwyddyn.
  2. Cefnogaeth Cronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL wedi’i glustnodi i sicrhau fod o leiaf 2 artist y flwyddyn sydd wedi’i lleoli yn Swydd Efrog yn derbyn cyllid o hyd at £15,000.

Yn Ninas-ranbarth Lerpwl:

Rheolir Cronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Culture Liverpool, PPL a Spotify, a’i ariannu gan Gronfa Fuddsoddi Strategol Cydawdurdod Dinas-ranbarth Lerwpl.

Trwy’r bartneriaeth hon, fe wnawn ni gefnogi:

  • 4 x grantî artist Sbardun Gerddoriaeth PPL gyda chymorth o £5,000 yr un. Bydd artistiaid neu eu cynrychiolwyr yn gwneud cais trwy alwad agored a chaiff grantïon eu dewis gan banel o gynghorwyr arbenigol, annibynnol. Fe fydd un dyddiad cau y flwyddyn.
  • 1 x grantî artist Sbardun Gerddoriaeth PPL llawn gyda chymorth o hyd at £15,000. Bydd artistiaid neu eu cynrychiolwyr yn gwneud cais erbyn dyddiad cau Sbardun Gerddoriaeth PPL a’u dewis trwy’r broses Cronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL safonol.
  • Bydd 5 x grantî ‘Gweithiwr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ Sbardun Gerddoriaeth PPL yn derbyn gwerth £1,000 o gefnogaeth a all gynnwys micro-grant, mentora neu gefnogaeth holistaidd arall. Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol yn cael eu dewis mewn partneriaeth â Bwrdd Cerdd Dinas-ranbarth Lerpwl.

 

Yng Nghymru:

Rheolir Cronfa Sbardun Gerddoriaeth imewn partneriaeth â chyngor Celfyddydau Cymru, PPL a Spotify.

Trwy’r bartneriaeth hon, fe wnawn ni gefnogi:

  • 7 x grantî artist Sbardun Gerddoriaeth PPL gyda chymorth o £5,000 yr un. Bydd artistiaid neu eu cynrychiolwyr yn gwneud cais trwy alwad agored a chaiff grantïon eu dewis gan banel o gynghorwyr arbenigol, annibynnol.
  • Bydd 2 x grantî ‘Gweithiwr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ Sbardun Gerddoriaeth PPL yn derbyn gwerth £2,000 o gefnogaeth a all gynnwys micro-grant, mentora neu gefnogaeth holistaidd arall.
  • Fe fydd 2 ddydiad cau pob blwyddyn i Lunwyr Cerddoriaeth a Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant a leolir yng Nghymru.

 

Bydd unrhyw artistiaid a ddewisir ar gyfer Sbardun Gerddoriaeth PPL yn gymwys i geisio adeg dyddiadau cau yn y dyfodol i Gronfa Sbardun Gerddoriaeth PPL ac felly, rydyn ni’n annog y rhan fwyaf o artistiaid a bandiau a leolir yn Swydd Efrog, Dinas-ranbarth Lerpwl a Chymru i wneud cais i’r dyddiad cau Sbardun.

 

  Lluniwr Cerddoriaeth Faint o grantaia y flwyddyn? Gweithiwr Proffesiynol y Diwydiant Faint o grantiau y flwyddyn? Faint o ddyddiadau cau y flwyddyn?
Rhanbarth
Lerpwl Hyd at £5,000 4 Hyd at £1,000 5 1
Swydd Efrog Hyd at £5,000 4 Launchpad sy’n delio â hyn 0 2
Cymru Hyd at £5,000 7 Hyd at £2,000 2 2

 

Gweler dadansoddiadau rhanbarthau unigol uchod am wybodaeth bellach a noder, mae’r holl wybodaeth yn destun newid.

Pwy ddylai wneud cais?

Llunwyr Cerddoriaeth (artistiaid/bandiau)

Mae’n rhaid i artistiad/bandiau sy’n gwneud cais i Sbardun Gerddoriaeth PPL ddangos potensial cerddorol cryf ond yn wynebu rhwystrau i gyrraedd neu fynd heibio pwyntiau allweddol gyrfa gynnar, gydag arwyddion diddordeb a/neu weithio gyda gweithwyr proffesiynol neu fudiadau eraill yn y diwydiant. Fe ddylai ymgeiswyr ddangos cynnydd a thwf rhanbarthol fel artist gyda’r potensial i garlamu i gyrraedd pwynt allweddol yn genedlaethol yn y 6 mis nesaf – a chynllun i gefnogi hynny. Rhaid i’r gweithgaredd y byddai’r cyllido yn ei gefnogi ddigwydd yn y DU.

 

Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant
Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant say’n gwneud cais i Sbardun Gerddoriaeth PPL yn gallu arddangos hanes blaenorol da neu gynyddol o weithio yn y cyefndir yn Ninas-ranbarth Lerpwl neu yng Nghymru, i gefnogi llunwyr cerddoriaeth yn y meysydd hynny ond sy’n profi rhwystrau i gyrraedd neu fynd y tu hwnt i bwyntiau allweddol gyrfa gynnar. Fe fydd gfofyn ichi arddangos yr angen am gyllid a/neu gymorth adeiladu capasiti i’ch cefnogi chi wrth gymryd y camau nesaf hynny a chynllun yn dangos sut wnewch chi fynd ati gyda chefnogaeth Sbardun Gerddoriaeth PPL.

Pwy na ddylai wneud cais ac at bwy ddylen nhw fynd fel arall?

  • Artist/band sydd ddim wedi’u lleoli yn un o’r rhanbarthau Sbardun (sef Swydd Efrog, Dinas-ranbarth Lerpwl neu Gymru)
  • Dydy’r cais hwn ddim ar gyfer artistiaid/bandiau sydd wrthi’n dechrau, gwneud demos neu chwarae eu gigiau cyntaf. Os ydych chi ar gam cynharach yn eich gyrfa, cliciwch yma am opsiynau cyllido eraill, gan gynnwys The Open Fund neu Launchpad os wedi’ch lleoli yn Swydd Efrog.
  • Dydy’r cais ddim ar gyfer y rhai hynny sydd wrthi’n dechrau yn y diwydiant cerddoriaeth.
  • Ni all y rhai hynny a dderbyniodd eioes o Gronfa Sbardun PPL, Cronfa Hitmaker neu Cronfa’r Cyfansoddwyr wneud cais i Sbardun Gerddoriaeth PPL.

Am faint o arian fedra i wneud cais?

Mae Sbardun Gerddoriaeth PPL yn cynnig grantiau i artistiaid a bandiau o hyd at £5,000 i gefnogi prosiectau cerddoriaeth a all gynnwys:

  • Recordio a rhyddhau
  • Perfformio’n Fyw / Teithio^
  • Darllediad neu gynnwys ar-lein a recordiwyd ymlaen llaw, sy’n arloesol ac o ansawdd uchel ^^
  • Hyrwyddo a marchnata
  • Creu cerddoriaeth newydd / amser i greu
  • Ffioedd cydweithwyr creadigol
  • Addysg / Hyfforddiant
  • Comisiynu
  • Cyfarpar (hyd at 20% o’r gyllideb)^^^
  • Cyfuniad o’r uchod

Ni allwn gyllido marchnata/hyrwyddo cerddorfiaeth newydd heb hefyd gyllido elfen o greu neu berfformio.

Cymorth Ychwanegol ar gyfer grantïon a leolir yn Swydd Efrog

Mewn cydweithrediad â’r partneriaid rhanbarthol Music:Leeds a Launchpad ar ben cymorth grantiau, mae Sbardun Gerddoriaeth PPL yn cynnig y gefnogaeth ychwanegol canlynol i grantïon:

Mae grantïon yn derbyn cyngor a mentora unigol, ac mae’r rhaglen yn datblygu aelodau tîm (y tîm presennol, ynghyd â pharu â gweithwyr proffesiynol rhanbarthol y diwydiant)

Cefnogaeth Arddangos: bydd artistiaid yn chwarae mewn prif ddigwyddiadau arddangos rhanbarthol a chenedlaethol (e.e. The Great Escape, Sound City, Tramlines, Live At Leeds)

^ Gan gadw at reolau pellter cymdeithasol ac o fewn canllawiau’r Llywodraeth ar y pryd.

^^ Gan gadw at reolau pellter cymdeithasol ac o fewn canllawiau’r Llywodraeth ar y pryd a gwnewch yn siwr eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau trwyddedu’n ymwneud â ffrydiau byw a chynnwys a recordiwyd ymlaen llaw. Fe ddylai llunwyr cerddoriaeth sydd wedi’u harwyddo ymgynghori â chontractau a chysylltu â chwmnïau recordio a chyhoeddwyr cerddoriaeth os oes angen sicrhau fod y cynnwys wedi’i basio i’w ddefnyddio ac ar gyfer manteisio arno.  

^^^ gall ymgeiswyr wneud cais am gostau cyfarpar neu feddalwedd sy’n galluogi creu neu fathau newydd o berfformiadau lle bo costau’n cynrychioli hyd at 20% o gyfanswm cyllideb y prosiect.


Cymorth Ychwanegol ar gyfer ‘Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ yn Ninas-ranbarth Lerpwl 

Mewn cydweithrediad â’r partneriaid rhanbarthol Culture Liverpool a Bwrdd Cerdd Dinas-ranbarth Lerpwl, bydd Sbardun Gerddoriaeth PPL hefyd yn cynnig cefnogi 5 ‘Gweithiwr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ a leolir yn Ninas-ranbarth Lerpwl. Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol sy’n llwyddiannus yn derbyn gwerth hyd at £1,000 o gymorth a all fod yn gyfuniad o fentora, cyngor ar y diwydiant, micro-grantiau a datblygiad proffesiynol. Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol yn cael eu dewis trwy broses enwebu mewn cydweithrediad â Culture Liverpool a Bwrdd Cerdd Dinas-ranbarth Lerpwl.

 

Cymorth Ychwanegol ar gyfer ‘Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ yng Nghymru

 Mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru, fel peilot, bydd y cynllun Sbardun Gerddoriaeth PPL hefyd yn cynnig cefnogaeth i 2 ‘Weithiwr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol’ a leolir yng Nghymru. Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol sy’n llwyddiannus yn derbyn gwerth hyd at £2,000 o gymorth a all fod yn gyfuniad o fentora, cyngor ar y diwydiant, micro-grantiau a datblygiad proffesiynol. Bydd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant yn y Dyfodol yn cael eu dewis trwy ein proses gais arferol.

Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys dan grant Sbardun Gerddoriaeth PPL?

  • Prynu fan/cerbyd
  • Teithio’n rhyngwladol
  • Cymorth ar gyfer rhestr o artistiaid – mae’n rhaid i bob cais lluniwr cerddoriaeth ffocysu ar un artist
  • Prosiectau’n gofyn am gyllid a fyddai, sydd neu a all fod wedi’i gynnwys yn y cytundeb sydd gan yr artist/band gyda label, cyhoeddwr, cwmni rheoli neu gysylltiadau eraill.
  • Prosiectau cyfalaf (e.e. gwaith adeiladu)
  • Adeiladu stiwdio
  • Costau cyflog neu gostau byw

Fe wnaethon ni dderbyn grant eisoes trwy Sbardun Gerddoriaeth PPL. Pryd gawn ni wneud cais eto?

Fel arfer, mae’n well ganddon ni i ymgeiswyr aros hyd nes bod eu prosiect a ariannwyd yn flaenorol wedi’i gwblhau cyn gwneud cais am gynlluniau cyllido eraill.

Ymhellach, ni chaiff grantïon Sbardun Gerddoriaeth PPL ailymgeisio i’r Sbardun ac, yn lle hynny, rhaid gwneud cais i PPL Momentum ar gyfer prosiectau addas – rhywbeth sy’n cael ei annog yn frwd o leiaf 12 mis wedi i gymorth grant Sbardun gael ei gynnig.

Pryd mae’r dyddiadau cau?

Mae’r dyddiadau cau ar gyfer 2024 fel a ganlyn:

Swydd Efrog

  • i’w cadarnhau

Dinas-ranbarth Lerpwl

  • Dydd Mercher 31 Ionawr 2024

Cymru

  • Dydd Mercher 14 Chwefror 2024

Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 6yp ar y dyddiad cau.

Wrth wneud cais, cofiwch, fedrwn ni ddim ond cynig cefnogaeth i weithgareddau sy’n digwydd ar ôl y dyddiad penderfynu ar eich cais – mae hyn yn golygu fod yn rhaid i’ch gweithgaredd fod o leiaf 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.