This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > Power Up > POWER UP arweiniad Cymreig

Arweiniad Cymreig

Menter uchelgeisiol, hirdymor ydy POWER UP, sy’n cefnogi crewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol a gweithredwyr y diwydiant sy’n Ddu, yn ogystal â mynd i’r afael â hiliaeth ac anghyfartaledd hiliol gwrth-Ddu yn y sector gerddoriaeth.

Wedi’i sefydlu a’i reoli gan Sefydliad PRS, mewn partneriaeth ag YouTube Music, Beggars Group a’r Black Music Coalition, mae’r fenter yn dod â sawl partner yn y diwydiant cerddoriaeth ynghyd ac yn mynd yn bellach na dangos cefnogaeth ac undod, gyda dulliau newydd sy’n meithrin newid ystyrlon. Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys Creative Scotland, Believe, Simkins, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol, Sefydliad Paul Hamlyn plus AIM, BPI, FAC, The Ivors Academy, MMF, MPA, MPG, Undeb y Cerddorion, PPL, PRS for Music a Chronfa Aelodau PRS sydd i gyd yn eu tro yn ychwanegu gwerth at y gefnogaeth i nerthu a galluogi cyfranogwyr yn ogystal â Phartner Cyswllt Daft Springer.

Trwy Raglen Cyfranogwyr POWER UP gyfannol a’r Mudiad POWER UP, fe wnawn ni ddymchwel y rhwystrau i greu:

  • Diwydiant cerddoriaeth tecach, mwy cyfiawn i grewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n Ddu
  • Gwell cynrychiolaeth ym mhob sector y diwydiant cerddoriaeth yn y DU
  • I gefnogi doniau Du arloesol a chyffrous i greu cerddoriaeth newydd eithriadol ym mhob genre ac ar bob lefel gyrfa
  • I ehangu gwaith crewyr a gweithwyr proffesiynol Du yn y diwydiant a phrysuro newid

Mae’r Rhaglen i Gyfranogwyr POWER UP wedi’i llunio i ddyrchafu crewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol cyffrous y diwydiant sy’n Ddu a mynd i’r afael â rhwystrau i’r rhai hynny sydd ar gamau allweddol yn eu gyrfaoedd.

Gan greu rhwydwaith hirdymor ledled y DU, o flwyddyn i flwyddyn bydd y Rhaglen i Gyfranogwyr yn cefnogi:

  • 20 x Crewyr cerddoriaeth Du
    artistiaid, cyfansoddwyr caneuon a cherddoriaeth, a chynhyrchwyr sy’n ymwneud â’r broses greadigol ac a all fod yn gweithio mewn unrhyw genre, wedi’u lleoli unrhyw le yn y DU
  • 20 x Gweithredwyr a gweithwyr proffesiynol Du yn y diwydiant
    gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn gweithio mewn unrhyw sector o’r diwydiant cerddoriaeth, unrhyw le yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cyflogeion ac entrepreneuriaid, rhai’n gweithio ar eu liwt eu hunain a gweithwyr proffesiynol hunangyflogedig

Hyd yma, mae 120 o gyfranogwyr wedi cael cymorth holistaidd ym Mlynyddoedd 1 – 3 a bydd carfan newydd Blwyddyn 4 yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024.

  • Cymorth grant o hyd at £15,000
  • Meithrin gallu a mentora
  • Mynediad at bartneriaid
  • Cymorth gyda marchnata
  • Cymryd rhan yn y rhwydwaith POWER UP hirdymor

 

A ddylwn i wneud cais?

Pa gymorth sy’n cael ei gynnig?

Beth ydych chi’n ei feddwl wrth ‘rhwydwaith cyfranogwyr’?

Beth ydych chi’n disgwyl gan yr holl gyfranogwyr?

Am beth ydych chi’n chwilio mewn cyfranogwr creu cerddoriaeth?

Pa genres ydych chi am gefnogi?

A gaiff band wneud cais?

Ar beth y gall y crewyr cerddoriaeth sy’n gwneud cais wario eu cymorth grant?

Pa bethau na ellir eu cefnogi’n ariannol?

Am beth rydych chi’n chwilio mewn cyfranogwyr sy’n weithredwyr/gweithwyr proffesiynol y diwydiant?

Ar beth y gall ymgeiswyr sy’n weithredwyr/gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant wario eu cymorth grant?

Beth na ellir ei ariannu?

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ddoniau creadigol a gweithredol “Du”?

Pam fod hyn ar gael i grewyr a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant yn unig?

Pwy na ddylai ymgeisio ac, yn hytrach, i le dylen nhw fynd?

Lle arall allen ni fynd i chwilio am gymorth?

Beth am groestoriadedd?

Sut fydd POWER UP yn delio â phob genre, rhanbarth, cenedl a sector?

A oes unrhyw gyfyngiadau ar oedran?

Pryd mae’r dyddiadau cau?

Sut ydw i’n gwneud cais?

Y cynghorion gorau ynghylch eich cais

A ddylwn i wneud cais?

A ydych chi wedi profi rhwystrau mewn perthynas â bod yn grëwr cerddoriaeth neu weithiwr proffesiynol Du yn y diwydiant?

A ydych chi eisiau cymorth grant ac i gymryd rhan mewn rhaglen meithrin gallu trawsnewidiol er mwyn dymchwel rhwystrau a thorri trwy’r nenfwd gwydr?

A fydd cefnogaeth POWER UP yn cael effaith arwyddocaol ar eich datblygiad?

Mae POWER UP yn cefnogi doniau eithriadol ar yr ochr greadigol a thu ôl i’r llenni yn y diwydiant, gan ddarparu cyfleoedd i symud ymlaen, sydd o fudd i aelodau’r rhwydwaith a’r gymuned gerddoriaeth ehangach. Gallwn helpu cyfranogwyr i wireddu eu potensial a llywio dyfodol cerddoriaeth.

Rydyn ni’n annog ymgeiswyr posib i ddarllen ein tudalennau canllaw, sydd wedi’u diweddaru’n llawn, i wylio a gwrando ar fideos a phodlediadau cynghori cyfredol, ac i gofrestru ar sesiynau cynghori y byddwn yn eu cynnal cyn y dyddiad cau. Rydyn ni hefyd yn eich argymell i gymryd golwg ar ein rhestr o Gyfranogwyr Blwyddyn 1 [add link] am argraff o’r amrywiaeth o grewyr a gweithwyr proffesiynol a ddewiswyd yn eich blwyddyn gyntaf.

Pa gymorth sy’n cael ei gynnig?

Bydd cyfranogwyr yn dod â’u harbenigedd a’u profiadau i’r rhwydwaith ac yn nerthu a hyrwyddo trwy:

  • Cymorth grant o hyd at £15,000 (hyd at £15,000 i grewyr cerddoriaeth, a hyd at £10,000 i weithredwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant)

Fe wyddon ni trwy raglenni eraill Sefydliad PRS fod cymorth grant hanfodol ac amserol yn cael effaith trawsnewidiol ar ddatblygiad creadigol ac ar yrfa yn yr hirdymor. Rydyn ni wedi amlinellu isod y mathau o weithgareddau y gall crewyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant eu cynnwys yn eu cais.

  • Meithrin gallu a mentora

Rydyn ni wedi llunio rhaglen gyfannol a fydd yn dwyn ynghyd ein rhwydwaith o 40 cyfranogwr (crewyr a gweithwyr proffesiynol) a  chynigion penodol wedi’u hadeiladu o gwmpas anghenion cymorth cyfranogwyr sydd heb fod yn ariannol.

Mae’r rhaglen gydol flwyddyn yn dechrau gyda chyfarfod o’r rhwydwaith a chyfnod anwythiad i benderfynu ar yr hyfforddiant a’r cymorth datblygu a gynigir i nerthu a hyrwyddo pob cyfranogwr. Bydd y gefnogaeth a fydd yn cael ei gynnig yn cynnwys:

  • Dosbarthiadau meistr, gweithdai, gweminarau a sesiynau eraill yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a chreadigol – cyflwynir dros 20 o sesiynau (rhai’n orfodol, rhai’n ddewisol)
  • Mentora elît – bydd cyfranogwyr yn cael eu paru gyda mentoriaid priodol o ddewisir ymhlith partneriaid a’n rhwydwaith ehangach. Bydd y rhai sy’n derbyn mentora yn cyfarfod â’u mentoriaid o leiaf 4 gwaith dros gyfnod o 6 mis
  • Hyfforddiant – bydd sesiynau hyfforddi mewn grŵp yn cael eu cynnig yn ystod y cyfnod anwytho. Lle bo’n berthnasol, caiff rhai cyfranogwyr gynnig hyfforddiant unigol yn lle mentora
  • Cyfarfodydd rhwydwaith ffurfiol – trefnir cyfarfodydd rhwydwaith bach a llawn, rheolaidd er mwyn i gyfranogwyr elwa o gymorth rhwydweithio (gweler isod)
  • Iechyd meddwl a lles lle bo’n berthnasol, bydd gan gyfranogwyr fynediad at gefnogaeth iechyd meddwl a lles gan Gronfa Aelodau PRS. Ac fe gaiff cyfranogwyr gynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a lles gan Music Support
  • Cefnogaeth arall – bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau penodol wedi’u hwyluso gan POWER UP (e.e. sesiynau gydag arbenigwyr cyfreithiol, ymgynghorwyr busnes ayyb.). Ac mae sawl Partenr POWER UP yn cynnig lleoedd ar gyrsiau hyfforddiant perthnasol, mynediad at adnoddau, cyngor un ac un neu sesiynau grwpiau bach i garlamu datblygiad

Mae rhan arwyddocaol o’r rhaglen yn ymwneud ag ymgysylltu a chydweithredu o fewn carfannau o gyfranogwyr dewisol. Bydd cysylltiadau cryf, hirdymor yn cael eu saernïo a disgwyliwn i ymgeiswyr ymrwymo at natur gydradd cyfoedion y rhwydwaith er mwyn manteisio ar gyfleoedd ychwanegol.

  • Cefnogaeth gan a mynediad at bartneriaid

Fe all y bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu â’n partneriaid POWER UP a phartneriaid datblygu doniau sy’n gweithio ar draws pob sector a genre. Bydd y gwerth ychwanegol hyn yn help i garlamu datblygiad  lle bo’n berthnasol.

Ymysg y partneriaid a gadarnhawyd sy’n cynnig cefnogaeth gwerth ychwanegol mae YouTube Music, Beggars Group, Cydweithfa Black Music, Creative Scotland, Believe, Simkins, AIM, The FAC, The Ivors Academy, MMF, MPG, Undeb y Cerddorion, PPL, PRS for Music a Chronfa Aelodau PRS, yn ogystal â’r Partner Cyswllt Daft Springer. Ymysg y gefnogaeth sydd ar gael i gyfranogwyr perthnasol, fe geir aelodaeth am ddim , mynediad at adnoddau aelodau, mentora, darpariaeth gweithdai a gweminarau, cyngor un ac un, a chymorth gydag iechyd meddwl a lles. Bydd rhestr lawn o gymorth gwerth ychwanegol yn cael ei hamlinellu adeg gwneud cais.

  • Cymorth marchnata a hyrwyddo gan Sefydliad PRS a phartneriaid POWER UP

 

Beth ydych chi’n ei feddwl wrth ‘rhwydwaith cyfranogwyr’?

Bydd rhaglen POWER UP, a ysbrydolwyd gan effaith a llwyddiant ein rhwydwaith cyfranogwyr Keychange, yn cynnwys carfan flynyddol sy’n cyfuno cyfranogwyr sy’n grewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae pob rhaglen flynyddol i gyfranogwyr yn cynnwys:

  • Rhwydweithio a chydweithredu rhwng cyfoedion
  • 2-4 cyfarfod rhwydwaith llawn (wyneb-yn-wyneb ac yn/neu’n rhithiol)
  • Cymorth gydag iechyd meddwl a lles
  • Dylanwadu ar y Mudiad POWER UP a’n gwaith eiriol

Bydd cyfranogwyr yn dod â’u harbenigedd a phrofiad a bydd canlyniadau’r rhwydwaith yn cynnwys:

  • Adeiladu hyder trwy rwydwaith gefnogol o arweinwyr creadigol
  • Galluogi a nerthu lleisiau mewn mannau diogel
  • Hyrwyddo modelau rôl
  • Cynnig amrywiaeth opsiynau gyrfa

Mae partneriaid yn ystyried y Rhaglen i Gyfranogwyr a’r Rhwydwaith Cyfranogwyr i fod yn hanfodol i nerthu a galluogi ymgeiswyr llwyddiannus. Fe ddisgwyliwn i gyfranogwyr gymryd rhan mewn cyfarfodydd y rhwydwaith, gweminarau, sesiynau mentora ac elfennau eraill o’r rhaglen. Mae cymorth grant yn dibynnu ar bresenoldeb ac ymgysylltiad ac fe gaiff taliadau’r grant eu darwahanu yn unol â phresenoldeb.

Fe ddylai cyfranogwyr ddisgwyl 1-2 sesiwn y mis rhwng Mai a Ebrill, ynghyd â hyd at 4 cyfarfod wyneb-yn-wyneb ac rydyn ni erbyn hyn wedi arfer sut i gyflenwi cyfuniad o gefnogaeth o bell/ar-lein a digwyddiadau wyneb-yn-wyneb. Rydyn ni’n disgwyl presenoldeb ac ymrwymiad da, felly, dylech chi ond gwneud cais os medrwch ymroi o’ch amser at y rhaglen.

Beth ydych chi’n disgwyl gan yr holl gyfranogwyr?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr allu dangos:

  • Sut a pham y bydd cyfranogi yn cael effaith trawsnewidiol ar yr adeg hon o’u gyrfa
  • Beth maen nhw’n mynd i gael allan o weithio gyda rhwydwaith o grewyr a gweithredwyr Du eraill
  • Pam eu bod am fod yn rhan o POWER UP a’r rhwydwaith cyfranogwyr
  • Beth fydden nhw’n ei gyfrannu at y rhwydwaith yn nhermau sgiliau, galluoedd a phrofiadau unigryw
  • Yr angen am gymorth ariannol

Am beth ydych chi’n chwilio mewn cyfranogwr creu cerddoriaeth?

Rydyn ni’n chwilio am gyfle i gefnogi crewyr cerddoriaeth talentog, cyffrous sy’n gweithio mewn unrhyw genre, wedi’u lleoli unrhyw le yn y DU, sydd wedi cyrraedd pwynt allweddol ac, o bosib, am wynebu rhwystrau i’w datblygiad ar sail hil^.

Mae’n rhaid i gyfranogwyr creu cerddoriaeth ddangos a chyflwyno esiamplau o ddoniau neilltuol, gwreiddiol (fe fydd gofyn ichi gyflwyno enghreifftiau o gerddoriaeth a bydd ein cynghorwyr yn beirniadu ansawdd eich cerddoriaeth). Ac mae’n rhaid i ymgeiswyr cymwys allu ateb IE i’r cwestiynau isod:

  • A ydych chi’n grëwr cerddoriaeth Du (artist, sgwennwr caneuon, cyfansoddwr neu gynhyrchydd sy’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth newydd)?
  • A ydych chi’n wynebu rhwystrau i ddatblygiad ar sail eich hil^?
  • A ydych chi wedi’ch lleoli yn y DU?
  • O fewn y genre(s) rydych chi’n gweithio ynddyn nhw, a ydych chi wedi cyrraedd lefel o lwyddiant sy’n awgrymu eich bod ar bwynt allweddol*?
  • A fydd y cyllido a chefnogaeth eraill yn cael effaith arwyddocaol ar eich datblygiad?
  • A ydych chi’n rhyddhau eich cerddoriaeth yn annibynnol? (Dydy Sefydliad PRS ddim yn medru cefnogi crewyr cerddoriaeth sydd wedi arwyddo gyda phrif labeli recordio neu gyhoeddwyr)

^ Rydyn ni’n deall fod rhai rhwystrau yn fwy amlwg neu agored nag eraill ac felly, gall y rhan fwyaf o grewyr cerddoriaeth Du ateb ‘Ydw’ i’r cwestiwn hwn. Oddi fewn i adran gyfrinachol ein proses o wneud cais, gofynnwn i ymgeiswyr i amlinellu rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu lle gall hil fod yn ffactor, a dangos sut fyddai rhaglen POWER UP i gyfranogwyr, efallai, yn gymorth iddyn nhw oresgyn rhwystrau o’r fath. Lle bo’n berthnasol, bydd gan gyfranogwyr ddefnydd o gymorth iechyd meddwl a lles gan Gronfa Aelodau PRS a hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a lles gan Music Support. Ac mae ein ffurflen gais yn cyfeirio pob ymgeisydd at ap Music Support,sef Thrive, sy’n cynnig cymorth 24/7 sy’n canolbwyntio ar atal a chanfod cyflyrau iechyd meddwl cyffredin.  

* Ein diffiniad ni o’r pwynt allweddol ydy cam yn eich gyrfa sy’n dangos fod momentwm wedi’i adeiladu ac y byddai lefel uchel o gefnogaeth yn eich helpu i yrru ‘mlaen at yrfa lwyddiannus, hirdymor. Dydy’r rhaglen i gyfranogwyr ddim wedi’i lunio ar gyfer doniau lefel mynediad na gyrfa gynnar a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn medru gwneud cais at raglenni ariannu eraill, Sefydliad PRS neu’n gallu cael mynediad at gefnogaeth sy’n haws i’w gael.

Bydd ymgeiswyr cymwys wedi mynd heibio’r cyfnod hwn yn eu gyrfa ac fe fyddwn ni’n gofyn am brif ddangosyddion o fewn ein ffurflen gais, er mwyn i ymgeiswyr allu dangos eu bod, o fewn cyd-destun eu genre, sin neu ranbarth, ar bwynt allweddol.

Gall dangosyddion gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol (lle bo’n berthnasol, nodwch eich genre neu sîn):

  • Tystiolaeth o ddilyniant cryf sy’n tyfu, yn genedlaethol a/neu ryngwladol
  • Hanes cadarn o berfformio’n fyw, gyda thystiolaeth o chwarae mewn sioeau proffil uchel fel y prif berfformiwr neu fel cefnogaeth, yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol
  • Proffiliau cyfatebol o berfformiadau cyntaf neu gomisiynau o weithiau newydd i ymgeiswyr sy’n gyfansoddwyr
  • Sylw yn y wasg genedlaethol megis chwarae’r gerddoriaeth ar radio genedlaethol, cefnogaeth rhestr chwarae DSP proffil uchel, neu gyfweliadau, erthyglau neu sylw arall yn y wasg genedlaethol neu’r cyfryngau ar-lein sydd, o fewn cyd-destun eich genre(s) neu sîn, yn gymorth ichi ddod i’r amlwg
  • Cydweithfeydd creadigol proffil uchel
  • Perthynas waith gydag o leiaf un aelod o’r tîm (e.e. rheolwr, cyhoeddwr, label recordio, asiant archebu, Hyrwyddwr, a/neu gyfreithiwr) lle bo hyn yn berthnasol i’ch genre (h.y. fe wyddon ni am ddigon o gyfansoddwyr sydd un ai wedi hen sefydlu neu ar ganol gyrfa sydd heb aelodau tîm ond sydd ar lefel addas i dderbyn cymorth POWER UP)

Bydd y prif bwyntiau data y gofynnir amdanyn nhw yn y ffurflen yn cynnwys y lefel o ddilynwyr ar-lein/tanysgrifwyr/gwrandawyr misol a lefel o ymgysylltu â dilynwyr ar-lein trwy gyfrwng llwyfannau perthnasol amrywiol, neu gyfartaledd cynulleidfa sioe fyw yn eich ardal ac unrhyw le arall. Fe fyddwn ni’n defnyddio cynghorwyr arbenigol sy’n ymwneud â phob genre a maes cerddoriaeth felly, rhaid i’r ymgeisydd ddangos eu bod ar bwynt allweddol o’u gyrfa, a bydd ein penderfyniad yn cynnwys arlliwiau o’ch sîn, genre, rhanbarth a chefndir.

Pa genres ydych chi am gefnogi?

Mae crewyr cerddoriaeth Du yn wynebu rhwystrau wrth weithio ymhob genre, gyda rhai yn llai cynrychioliadol nag eraill. Rydyn ni’n annog yn frwd artistiaid, sgwenwyr caneuon, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr sy’n gweithio mewn unrhyw genre i wneud cais ac yn disgwyl i’n dewis o gyfranogwyr adlewyrchu cerddoriaeth newydd, cyffrous yn y DU drwyddi draw.

A gaiff band wneud cais?

Bydd rhaglen POWER UP i gyfranogwyr yn cefnogi 20 o grewyr cerddoriaeth pob blwyddyn. Rydyn ni’n croesawu’r rhai hynny sy’n gweithio mewn bandiau, deuawdau neu gydweithfeydd, yn ogystal ag artistiaid unigol neu grewyr cerddoriaeth. Mae modd dewis un aelod o fand, deuawd neu gydweithfa a bydd un aelod yn cymryd rhan am y rhan fwyaf o weithgareddau’r rhaglen. Mae hi’n annhebygol inni ddewis dau neu fwy o aelodau Du o’r un band, deuawd neu gydweithfa i gymryd rhan ym mhrif weithgareddau’r rhwydwaith, gan ein bod am greu rhwydwaith eang ei gwmpas.

Golyga hyn y byddai’n rhaid i ddeuawd, triawd neu bedwarawd, neu gydweithfa Ddu gytuno ar ba aelod sy’n gwneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen a fydd, wrth gwrs, yn debygol o fod o fudd i’r ddeuawd, band neu gydweithfa gyfan.

Lle ceir band neu gydweithfa sy’n gyfuniad o aelodau Du a heb fod yn Ddu, dim ond ceisiadau gan aelodau unigol a chrewyr cerddoriaeth Du wnawn ni dderbyn.

Ar beth y gall y crewyr cerddoriaeth sy’n gwneud cais wario eu cymorth grant?

Mae’r rhaglen yn cynnig crewyr cerddoriaeth Du sy’n cyfranogi grantiau o hyd at £15,000 i gefnogi datblygiad creadigol a gyrfa a helpu cyfranogwyr i dorri i lawr y rhwystrau i ddatblygiad.

Mae hi i fyny i’r ymgeisydd amlinellu meysydd gwariant a fydd yn cael effaith arwyddocaol. Rhaid i ymgeiswyr gyfiawnhau meysydd gwariant ac mae gofyn i bob cais fod â chynllun cryf a fydd, ochr yn ochr â’r gerddoriaeth a gyflwynir, yn ffurfio sail penderfyniad.

Mae gweithgaredd sy’n debygol o ddenu cefnogaeth yn cynnwys:

  • CREU CERDDORIAETH:
  • Recordio – costau’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth newydd i ryddhau albymau, EPs, senglau ayyb. (e.e. llogi stiwdio, ffioedd cynhyrchydd, ffioedd peiriannydd, cymysgu a mastro, ffioedd cerddorion sesiwn)
  • Costau llogi stiwdio (e.e. llogi stiwdio’n ddyddiol, ffioedd tracio, cynhyrchu a chymysgu) *Fe ddylid manylu hyn ar eich ffurflen gais gyda chyllideb, amserlin a llwybr*
  • Rhentu neu brydlesu lle i sgwennu (mannau yn y DU yn unig)
  • Costau’n ymwneud â gwersylloedd i gyfansoddwyr, sgwennu-ar-y-cyd, cydweithfa ayyb.
  • Datblygiad creadigol/proffesiynol (gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant os yn berthnasol)
  • Preswylfeydd
  • Cydgomisiynau – cymorth i gyfansoddwyr i sefydlu perthnasau gyda chyrff comisiynu yn y DU a thramor
  • Ffïoedd/amser crewyr cerddoriaeth i greu (e.e. ffi i ddelio â chostau cyfnod rhesymol o’ch amser creu, ffioedd cydweithiwr)
  • PERFFORMIAD BYW:
  • Costau ynghlwm â theithio, arddangos, perfformiadau byw cyntaf, sioeau lansio (e.e. teithio, llety, ffioedd cerddorion, dylunio set/cynhyrchiad, lleoliad, rheoli taith, llogi offer)
  • Costau’n gysylltiedig â ffrydiau byw neu recordiadau ymlaen llaw ar gyfer perfformiadau rhithiol neu hybrid
  • Hyrwyddo/perfformio gwaith presennol (e.e. o fewn y sector Glasurol, costau’n gysylltiedig â pharatoi at berfformio neu deithio gyda darnau presennol yn y DU ac yn rhyngwladol)
  • DOSBARTHU, MARCHNATA A HYRWYDDO:
  • Dosbarthu eich recordiadau
  • Ffïoedd hyrwyddo
  • Ffïoedd hyrwyddo ar y radio
  • Costau marchnata digidol
  • Cynhyrchu fideos cerddoriaeth
  • Cynhyrchu a dosbarthu nwyddau
  • ARALL:
  • Costau teithio eraill (e.e. costau ynghlwm â theithio i gyfarfodydd busnes, mynychu prif ddigwyddiadau’r diwydiant, cyfarfodydd rhwydweithio neu weithgareddau creadigol)
  • Costau mamolaeth, tadolaeth neu ofal plant sy’n gysylltiedig â’r prosiect ac sy’n galluogi cyfranogwyr i ddatblygu

Dan rai amgylchiadau lle ceir cyfiawnhad cryf ac mae deilliannau’n cael eu hesbonio’n glir i gynghorwyr, fe all y grant hefyd gefnogi gweithgareddau rhyngwladol a all adeiladu eich proffil a bod o fudd i’ch datblygiad creadigol, a phrynu offer/meddalwedd/caledwedd lle mae budd clir i’w gael o greu cerddoriaeth newydd.

Pa bethau na ellir eu cefnogi’n ariannol?

  • Prynu fan/car
  • Cefnogaeth i gylchrestr o artistiaid – mae’n rhaid i bob cais ganolbwyntio ar un artist
  • Prosiectau cyfalaf (e.e. gwaith adeiladu, adeiladu stiwdios)
  • Prosiectau sy’n gofyn am gyllid a fyddai neu a allai gael ei dalu’n gyfan gwbl trwy’r cytundeb sydd gan yr artist/crëwr gyda label, cyhoeddwr, cwmni rheoli neu berthnasau eraill
  • Cyllid myfyrwyr
  • Ad-dalu benthyciadau
  • Trosglwyddo grantiau i grewyr neu gwmnïau cerddoriaeth eraill sy’n cael dim effaith ar ddatblygiad y cyfranogwr

Bydd grantiau POWER UP yn cyfrannu tuag at gostau gweithgaredd arfaethedig ac o fewn eich cais fe fydd gofyn ichi amlinellu’r costau disgwyliedig a’r incwm cysylltiedig er mwyn cyrraedd y swm o grant a geisir a fydd yn eich galluogi i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus ac effeithiol. Os ydych wedi arwyddo gyda label recordio neu gyhoeddwr cerddoriaeth, neu ganddoch chi fathau eraill o fuddsoddiadau, fe ofynnir ichi amlinellu’r buddsoddiad ac egluro pam eich bod yn parhau i angen cymorth grant POWER UP. Mae’n bosib y cewch eich dewis ar gyfer y rhaglen a chael cynnig swm grant llai.

I osgoi dyblygu’r ariannu, fe fyddai’n rhaid i ymgeiswyr ddatgan unrhyw geisiadau grant posib neu ddiweddar a fyddai, o bosib, yn golygu fod Sefydliad PRS yn cefnogi’r un gweithgaredd ddwywaith.

Am beth rydych chi’n chwilio mewn cyfranogwyr sy’n weithredwyr/gweithwyr proffesiynol y diwydiant?

Ein bwriad ydy chwilio am weithredwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant sydd wedi’u lleoli unrhyw le yn y DU, yn gweithio mewn unrhyw sector o gerddoriaeth sydd â hanes sefydledig ond sydd o bosib yn wynebu rhwystrau i ddatblygiad ar sail hil. Mae hyn yn cynnwys cyflogeion ac entrepreneuriaid, gweithwyr ar eu liwt eu hunain a gweithwyr proffesiynol hunangyflogedig.

Dydy’r rhaglen i gyfranogwyr ddim wedi’i lunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar lefel mynediad a ddylai ystyried gwneud cais in POWER UP yn y dyfodol.

Gall rolau cymwys o fewn y diwydiant cerddoriaeth gynnwys:

Rolau A&R gyda labeli recordio a/neu gyhoeddwyr cerddoriaeth | Rolau Cyfrifo | Rheolwr Artistiaid  | Asiantwyr archebu | Rolau materion busnes | Rheolwr cyfansoddwyr | Ymgynghorydd | Crëwr Cynnwys| Rolau hawlfraint neu freindaliadau| Gweinyddu data | DJ | Archebu/trefnu gwyliau | Cyfarwyddwyr gwyliau |Rolau marchnata| Rolau’r wasg a darlledu| Cynrychiolwyr gwasanaethau aelodau| Rolau rheolwr cynnyrch| Rheolwyr prosiectau neu raglenni | Hyrwyddwyr | Rolau R&D | Rheolwr sgwenwyr caneuon | Rolau Sync | Rolau trefnu datblygu doniau (gan gynnwys heb elw) | Rolau cymdeithas masnach | Rheolwr lleoliadau | Rolau gweinyddu eraill | Rolau byw eraill | Cynrychiolwyr crewyr cerddoriaeth eraill| Rolau cyhoeddi cerddoriaeth eraill

Yn ein proses ddewis fe wnawn ni geisio anelu at gydbwysedd cryf o rolau’r diwydiant cerddoriaeth.

Rydyn ni hefyd yn deall y gall ymgeiswyr unigol gyflawni sawl rôl, rhywbeth sydd wedi codi’n rheolaidd yn sesiynau’r Grŵp Ffocws wrth lunio’r rhaglen, fel y gall ymgeiswyr ddewis sawl rôl.

Os ydych chi’n gweithio mewn rôl o’r diwydiant sydd heb ei grybwyll isod, mae croeso i’ch cais. Teimlwch yn rhydd i e-bostio applications@prsfoundation.com os ydych chi’n ansicr os ydych chi’n gymwys.

Gallai ymgeiswyr POWER UP fod yn :

  • Gyflogeion sy’n gweithio o fewn y sector gerddoriaeth e.e. y rhai hynny sy’n gweithio o fewn cwmnïau mawr neu BBaCh (SME) sydd am ddefnyddio POWER UP i ddatblygu eu gyrfaoedd a symud i uwch-safleoedd neu rolau ar y prif lefel
  • Gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n hunangyflogedig a/neu’n gweithio ar eu liwt eu hunain neu gontractwyr annibynnol e.e. Unig fasnachwr, sefydlwyr busnesau a/neu’r rhai hynny sy’n rhedeg cwmnïau cyfyngedig sydd am gyfnerthu a thyfu eu busnesau. Neu’r rhai hynny sydd am ddefnyddio POWER UP i ehangu eu gwasanaethau, cynyddu nifer eu cleientiaid, uwchsgilio, ehangu rhwydweithiau ac adeiladu eu brand
  • Sefydlwyr a pherchnogion busnesau yn y dyfodol e.e. y rhai hynny sydd am sefydlu neu ddatblygu ymhellach eu cwmnïau
  • Pobl sydd yn heb waith ar hyn o bryd ond sydd â hanes cryf o fewn y sector gerddoriaeth
  • Gweithwyr eraill e.e. gweithwyr achlysurol/gweithwyr asiantaethau) o fewn i’r sector gerddoriaeth

Gall gyfranogwyr POWER UP fod yn gweithio oddi fewn i’r prif sector neu’r sector annibynnol ond, noder, y bydd ein ffurflen gais yn gofyn pam fod dal angen cymorth o’r fath a sut y byddai cwmni’n cyfrannu at eich datblygiad (os yn berthnasol).

Fe all ymgeiswyr POWER UP fod yn symud neu eisiau symud o un rôl neu sector i’r llall, neu o un statws cyflogaeth at un arall. Mae POWER UP yn bodoli i alluogi doniau creadigol a gweithredol Du ac, fel y cyfryw, rydyn ni’n mynd o’i chwmpas hi mewn modd hyblyg sydd hefyd at bwrpas yr unigolyn.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gweithredol cymwys POWER UP allu ateb IE i’r cwestiynau isod:

  • A ydych chi’n weithredwr neu’n weithiwr proffesiynol Du yn y diwydiant?
  • A ydych chi’n wynebu rhwystrau i’ch datblygid ar sail eich hil^?
  • A ydych wedi’ch lleoli yn y DU?
  • A oes ganddoch chi o leiaf 3 blynedd o brofiad o fewn y diwydiant cerddoriaeth neu’r sector gerddoriaeth^^?
  • O fewn eich maes, a ydych chi wedi llwyddo i gyrraedd lefel o lwyddiant sy’n awgrymu eich bod ar bwynt allweddol*?
  • A fydd y cyllid a chefnogaeth arall yn dylanwadu’n arwyddocaol ar eich datblygiad?
  • A ydych chi’n cynnig rhywbeth ffres neu bwysig i’r rhwydwaith o gyfranogwyr? Er enghraifft, fe all y rhwydwaith elwa o’ch cefndir eang, efallai eich bod yn cyflawni rôl unigryw neu’n gweithio mewn safle sy’n arbennig o brin o ran cynrychiolaeth. Neu fe all eich bod yn ymddioddori men modelau busnes newydd a ffyrdd arloesol o weithio sy’n berthnasol i’ch maes arbenigedd

^ Rydyn ni’n deall fod rhai rhwystrau yn fwy amlwg neu agored nag eraill ac felly, gall y rhan fwyaf o grewyr cerddoriaeth Du ateb ‘Ydw’ i’r cwestiwn hwn. Oddi fewn i adran gyfrinachol ein proses o wneud cais, gofynnwn i ymgeiswyr i amlinellu rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu lle gall hil fod yn ffactor, a dangos sut fyddai rhaglen POWER UP i gyfranogwyr, efallai, yn gymorth iddyn nhw oresgyn rhwystrau o’r fath.

^^ Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fyddai ymgeiswyr cymwys wedi gweithio mewn cerddoriaeth am o leiaf 5 mlynedd. Rydyn ni’n cydnabod y gallai rhai bod wedi cymryd hoe o’u gyrfa, â phrofiad cyfatebol a sgiliau trosglwyddadwy o ddiwydiannau eraill, neu wedi cyrraedd pwynt allweddol yn sydyn iawn. Os ydy hyn yn debyg i chi, gwnewch gais a chyflwynwch achos cryf yn eich cais.

* Ein diffiniad ni o’r pwynt allweddol ydy cam yn eich gyrfa sy’n dangos fod hanes cryf wedi’i adeiladu ac y byddai lefel uchel o gefnogaeth yn eich helpu i yrru ‘mlaen at yrfa lwyddiannus, hirdymor ar eich termau eich hun.

Gall dangosyddion gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol:

  • Cydnabyddiaeth gan gyfoedion yn y diwydiant, gweithwyr proffesiynol y mae parch tuag atyn nhw o fewn i’r diwydiant, sylw perthnasol yn y wasg, ayyb. O fewn eich ffurflen gais, fe allech ddangos hyn trwy dystlythyrau cryf, tystiolaeth o gefnogaeth ddiweddar gan ffigyrau a berchir o fewn eich sector, enwebiadau am wobrau, neu unrhyw sylw a gawsoch gan y wasg fasnachol neu ar y cyfryngau (os yn gymwys i’ch maes arbenigol, sîn neu ranbarth)
  • Hanes o ganmoliaeth neu lwyddiant masnachol neu feirniadol i artistiaid, crewyr, prosiectau neu raglenni y buoch chi’n gweithio gyda nhw
  • Tystiolaeth arall eich bod ar bwynt allweddol yn eich gyrfa

Bydd cyfranogwyr sy’n weithredwyr ac a ddewisir hefyd yn dangos ymrwymiad i gefnogi a galluogi doniau a/neu gydweithwyr Du, gan gytuno a gweithio ag ethos rhwydwaith POWER UP a Mudiad POWER UP i helpu symud y nodwydd a llunio dyfodol cerddoriaeth.

Ar beth y gall ymgeiswyr sy’n weithredwyr/gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant wario eu cymorth grant?

Mae’r rhaglen yn cynnig i gyfranogwyr sy’n weithwyr proffesiynol Du yn y Diwydiant grantiau o hyd at £10,000 i gefnogi anghenion datblygu’r ymgeisydd ac i dorri i lawr rhwystrau i ddatblygiad.

Gall y grant dalu am hyfforddiant, datblygiad, prosiectau cerddoriaeth, ymgyrchoedd, digwyddiadau, lansio cynnyrch, costau busnes, offer a/neu ddatblygu busnesau newydd.

Does dim terfyn ar y math o weithgarwch a gefnogir ac rydyn ni’n annog arloesedd. Mae’r pwyslais ar yr ymgeisydd i amlinellu a chyfiawnhau’r meysydd gwariant a fydd yn cael effaith arwyddocaol ochr yn ochr â’r gefnogaeth sydd heb fod ar ffurf grantiau sydd ar gael.

Gall y grant gyfrannu at gostau’n gysylltiedig â:

  • CHOSTAU HYFFORDDIANT:
  • Ffïoedd hyfforddiant a chostau eraill o’r fath sy’n ymwneud â datblygiad eich gyrfa, adeiladu eich sgiliau eich hun. Gall hyn gynnwys hyfforddiant gan arbenigwyr yn y sectorau byw, cyhoeddi, wedi’u recordio, cyfreithiol, cyfrifo, brandiau neu sync
  • Costau teithio a llety rhesymol a delir wrth fynychu gweithgaredd hyfforddiant o’r fath (NODER: caiff costau’n gysylltiedig â chyfarfodydd rhwydwaith POWER UP eu deli oar wahân i gyfranogwyr priodol)
  • MENTORA A HYFFORDDIANT:
  • Ffïoedd mentora a hyfforddiant ar gyfer mentora sydd heb fod yn gysylltiedig â’r rhaglen i gyfranogwyr a fydd yn datblygu’r cyfranogwr yn arwyddocaol
  • Costau teithio a llety rhesymol a delir wrth fynychu gweithgarwch mentora a/neu hyfforddiant
  • DATBLYGU BUSNES (h.y. gweithgareddau a fydd yn tyfu busnes y cyfranogwr yn arwyddocaol):
  • Costau dechrau busnes
  • Costau datblygu busnes gan gynnwys ymgynghori, costau cyfreithiol, costau cyfrifo ac offer a nwyddau penodol i’r gweithgarwch
  • Cyflogi’n rhannol intern, cynorthwyydd neu gydweithwyr eraill a fyddai’n galluogi’r cyfranogwr i ddatblygu’n arwyddocaol
  • Cyfraniad tuag at gostau rhentu busnes
  • Cyfraniad tuag at gostau rhesymol eraill rhedeg busnes yn ystod amserlin y gweithgarwch
  • COSTAU PROSIECT CERDDORIAETH:
  • Ymgyrch ryddhau – i gyfranogwyr perthnasol (e.e. y rhai hynny sy’n rhedeg cwmnïau recordiau annibynnol, cwmnïau rheoli)), gall cymorth grant gyfrannu at fuddsoddi synhwyrol i ryddhau artistiaid lle ceir budd amlwg i ddatblygiad hirdymor y cyfranogwr
  • Costau rheoli digwyddiadau – i gyfranogwyr perthnasol (e.e. rheolwyr digwyddiadau, hyrwyddwyr annibynnol), gall cymorth grant gyfrannu at gostau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch perfformio’n fyw neu ddigwyddiadau busnes a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad y cyfranogwr neu eu busnes eu hunain
  • Gweithgareddau eraill ynghlwm â datblygiad crewyr cerddoriaeth mae cyfranogwr yn gweithio â nhw lle ceir budd amlwg i ddatblygiad hirdymor y cyfranogwr. Ystyrir effaith gynyddol i eraill yn yr ecosystem gerddoriaeth fel bonws, yn enwedig lle bo gwariant o’r fath yn arwain at gydnabyddiaeth deg a chyfiawn, a lle bo crewyr cerddoriaeth Du yn elwa
  • COSTAU MARCHNATA A HYRWYDDO:
  • Cefnogaeth marchnata a hyrwyddo – gan gynnwys marchnata, hysbysebu, nodau masnach, datblygu gwefan a digidol lle bo modd cyfiawnhau hynny (h.y. lle gwelir effaith clir ar ddatblygiad gyrfa)
  • COSTAU ERAILL:
  • Costau’n gysylltiedig â gofal plant sy’n galluogi cyfranogwyr i ddatblygu
  • Mynychu prif ddigwyddiadau’r diwydiant gan gynnwys cynadleddau
  • Costau teithio (e.e. costau’n ymwneud â theithio i gyfarfodydd busnes, cynadleddau, cyfarfodydd rhwydweithio neu weithgareddau creadigol)

 

 

Mewn rhai achosion, gall ymgeiswyr neilltuo cyfran resymol o gymorth grant tuag at gostau byw er mwyn iddyn nhw, fel cyfranogwyr, allu manteisio o gyfleoedd perthnasol (e.e. lleoliadau/cyrsiau hyfforddiant lefel uchel). Fe wnawn ni flaenoriaethu’r costau rhagweithiol a restrir uchod ond yn croesawu ymgeiswyr sy’n gosod achos cryf o fewn eu cais.

Beth na ellir ei ariannu?

  • Prynu fan/car*
  • Prosiectau cyfalaf (e.e. gwaith adeiladu, adeiladu stiwdios)
  • Prosiectau sy’n gofyn am gyllid a fyddai neu a allai gael ei dalu’n gyfan gwbl gan gyflogwr y cyfranogwr neu gan fusnesau neu fuddsoddwyr ynghlwm â phrosiectau
  • Cyllid myfyrwyr
  • Ad-dalu benthyciadau
  • Trosglwyddo grantiau i grewyr, busnesau neu weithwyr proffesiynol y diwydiant
  • Taliadau i gyflogwr gweithredwr sy’n gyfranogwr i dalu eu costau hyfforddiant^

Bydd grantiau POWER UP yn cyfrannu tuag at gostau gweithgarwch arfaethedig ac o fewn i’ch cais fe ofynnir ichi amlinellu’r costau disgwyliedig a’r incwm cysylltiedig er mwyn cyrraedd swm y grant a geisir a fydd yn eich galluogi i ddatblygu’n llwyddiannus ac effeithiol.

I osgoi dyblygu’r ariannu, fe fyddai’n rhaid i ymgeiswyr ddatgan unrhyw geisiadau grant posib neu ddiweddar a fyddai, o bosib, yn golygu fod Sefydliad PRS yn cefnogi’r un gweithgaredd i’r crewyr y mae’r cyfranogwr yn gweithio iddyn nhw.

 

^ I gyflogeion neu ymgynghorwyr sy’n gweithio dros neu gyda chwmnïau cerddoriaeth; mae POWER UP yn arddel pum prif flaenoriaeth y Gynghrair Gerddoriaeth Ddu, sy’n cynnwys gofyn i gwmnïau i weithredu datblygiad gyrfa ar gyfer staff Du ar draws holl feysydd busnes, gan gynnwys ymgynghorwyr hirdymor. Cofiwch ystyried yn eich cais y gall fod rhai meysydd datblygu y bydd cynghorwyr yn rhesymol ddisgwyl i’ch cyflogwr ddelio â nhw neu gyfrannu atyn nhw – yn enwedig os ydych chi’n gweithio mewn cwmni cerddoriaeth mawr. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod y gall hiliaeth strwythurol a rhwystrau eraill arwain at eisiau cynnwys costau adeiladu capasiti, er gwaethaf hynny. O’r herwydd, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i amlinellu, yn gyfrinachol, eu rhesymau dros gynnwys costau o’r fath, neu i amlinellu cynlluniau i ddefnyddio cymorth POWER UP i newid swyddogaethau (p’un ai oddi fewn neu oddi allan i’ch cwmni presennol).

* Cysylltwch ag applications@prsfoundation.com <mailto:applications@prsfoundation.com> os ydych chi’n teimlo fod y gweithgaredd hwn yn berthnasol i ddatblygiad eich gyrfa (e.e. os ydych chi’n Rheolwr Teithio a’i fod yn gwneud synnwyr o ran datblygiad eich gyrfa)

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ddoniau creadigol a gweithredol “Du”?

Bydd POWER UP yn cefnogi crewyr cerddoriaeth Du a gweithredwyr a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant.

Rydyn ni’n cydnabod fod ethnigrwydd yn bersonol i bob unigolyn trwy gysylltiadau â threftadaeth, ieithoedd, diwylliannau a/neu ideolegau cyffredin sy’n pwysleisio tras gyffredin¹ felly rydyn ni’n diffinio cyfranogwyr Du fel pobl a fyddai’n disgrifio’u hunain fel Du a/neu ag etifeddiaeth Ddu.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae Rhaglen POWER UP i Gyfranogwyr yn benodol ar gyfer cyfranogwyr Du; dydy hi ddim ar gyfer y rhai hynny sy’n perthyn i grwpiau ethnig eraill megis Asiaidd neu Gwyn, na’r rhai hynny sy’n ‘wleidyddol ddu’ neu’n disgyn o fewn labeli nad ydy Sefydliad PRS yn eu defnyddio bellach, “POC” neu “BAME” sydd ddim yn disgrifio’u hunain fel Du neu heb dreftadaeth Ddu.

O fewn ein ffurflen gais, rydyn ni’n gofyn yn gyntaf:

‘A ydych chi’n disgrifio’ch hunan fel Du ac/neu a oes ganddoch chi dreftadaeth Ddu?’

Fe wnawn ni wedyn ofyn i ymgeiswyr: (os ydw/oes) ‘Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich ethnigrwydd?’ (rhoddir opsiynau i ymgeiswyr yn seiliedig ar gysoni ethnigrwydd categorïau a gymeradwyir gan lywodraethau yng ngwledydd y DU):

  • Du/Du Prydeinig – Affricanaidd
  • Du/Du Prydeinig – Caribïaidd
  • Du/Du Prydeinig – Affricanaidd a Charibïaidd
  • Du/Du Prydeinig – Arall (nodwch isod)
  • Cymysg – Du Caribïaidd a Gwyn
  • Cymysg – Du Affricanaidd a Gwyn
  • Cymysg – Du ac Asiaidd
  • Cymysg – Du ac Arall (nodwch isod)

 

¹Mae Sefydliad Cysylltiadau Hiliol yn diffinio “ethnigrwydd/grŵp ethnig” fel grŵp o bobl y mae eu haelodau’n uniaethu â’i gilydd trwy dreftadaeth gyffredin, sy’n aml yn cynnwys iaith gyffredin, diwylliant cyffredin (a all gynnwys crefydd). Dyma’r ffordd mae’r rhan fwyaf o wledydd a phobloedd yn dewis portreadu grwpiau ac mae wedi disodli’r syniad  biolegol o ‘hil’.   

Rydyn ni’n cydnabod fod hunaniaeth genedlaethol yn mynd law yn llaw ag ethnigrwydd i rai pobl (ond nid pawb). Yn y cyd-destun hwn, fe fyddai hunaniaeth genedlaethol yn cyfeirio at y wlad/gwledydd, cenedl/cenhedloedd y mae’r person yn uniaethu â hi fwyaf neu â’r cysylltiad cryfaf. Mae hunaniaeth genedlaethol yn gwahaniaethu oddi wrth ethnigrwydd ond, i rai, mae’r cysylltiad yn glos iawn. Er enghraifft, yn Yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, mae gan lawer o bobl sydd ag ethnigrwydd Du hefyd hunaniaeth ‘Albanaidd’, ‘Cymreig’, Gwyddelig’ neu ‘Brydeinig’ cryf. O’r herwydd, pan ddaw hi at ymgeiswyr cymwys (sef y rhai hynny a fyddai’n disgrifio eu hunain fel Du neu â Threftadaeth Ddu), rydyn ni’n eich annog i ddewis y categori ethnigrwydd sydd agosach at eich calon. Er enghraifft, fe all ymgeisydd sy’n gweld ei hun fel ‘Du Albanaidd’ ddewis “Du/Du Prydeinig – Affricanaidd”, “Du/Du Prydeinig – Caribïaidd” neu “Du/Du Prydeinig – Arall” gan nodi “Du Albanaidd” yn benodol ym mlwch testun dewisol ein ffurflen.

Pam fod hyn ar gael i grewyr a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant yn unig?

Rydyn ni’n cymryd y camau hyn oherwydd ein bod yn cydnabod fod crewyr a gweithredwyr Du yn profi llawer o rwystrau i’w datblygiad, gan gynnwys:

  • Hiliaeth strwythurol a systematig, rhagfarn ac anghyfiawnder yn ddyddiol o fewn y diwydiant a mannau cerddoriaeth
  • Tangynrychiolaeth ar lwyfan, mewn stiwdios, yn y wasg, o fewn y diwydiant ac ymhob is-sector o’r diwydiant cerddoriaeth
  • Ymyleiddio o fewn y diwydiant cerddoriaeth, a diffyg amlygrwydd ar ac oddi ar y llwyfan
  • Manteision ariannol anghyfartal – gyda hanes o ecsbloetio cerddoriaeth Ddu, derbyniodd y gymuned Ddu ran anghymesur o enillion ariannol llwyddiant cerddoriaeth Ddu

Fel cyllidwr, rydyn ni’n cydnabod fod tangynrychiolaeth hanesyddol ledled y sector elusennol trwy ariannu traddodiadol a diffyg newid dros y degawdau diwethaf. Mae hygyrchedd ac amlygrwydd yn faterion sy’n wynebu sawl cynllun ariannu ac mae crewyr sy’n cael eu tangynrychioli’n aml yn ei chael hi’n anoddach ymgeisio i alwadau agored sy’n gofyn am ymateb cyflym.

Rydyn ni am fynd i’r afael â hyn.

Darllenwch ein tudalen ‘Cefndir’ am wybodaeth ynghylch sut y daeth POWER UP i fod ac am ddolenni-0cyswllt at fwy o dystiolaeth o’r angen am y rhaglen.

Pwy na ddylai ymgeisio ac, yn hytrach, i le dylen nhw fynd?

  • Crewyr neu weithredwyr sydd ddim yn Ddu *
  • [ar gyfer cyfranogwyr sy’n grewyr cerddoriaeth] Cerddorion, Perfformwyr neu Gynhyrchwyr sydd ddim yn gwneud cyfraniad gweithredol tuag at sgwennu caneuon neu gyfansoddi
  • Myfyrwyr mewn Addysg Bellach neu Uwch**
  • Ymgeiswyr sydd ar lefel mynediad
  • Crewyr cerddoriaeth sydd eisoes wedi arwyddo gyda phrif labeli neu brif gyhoeddwyr cerddoriaeth
  • Crewyr cerddoriaeth sydd heb fod yn creu cerddoriaeth am o leiaf 18 mis
  • Y rhai hynny sydd ddim mewn angen cefnogaeth ariannol a/neu gefnogaeth rhwydwaith cyfranogwyr

*Rydyn ni’n diffinio cyfranogwyr Du fel pobl a fyddai’n disgrifio’u hunain fel Du a/neu ag etifeddiaeth Ddu. I’r rhai hynny sy’n perthyn i grwpiau ethnig eraill a hunaniaethau hiliol, rydyn ni’n croesawu sgyrsiau pellach ac yn rheoli sawl cynllun ariannu a rhaglen a fyddai, efallai, o ddiddordeb ac yn medru helpu eich datblygiad creadigol a’ch gyrfa.

** Dan amgylchiadau eithriadol, mae’n bosib y byddai myfyriwr hefyd ar bwynt allweddol yn eu gyrfa y tu allan i’w hastudiaethau. Ym mhrofiad Sefydliad PRS, anaml y bydden nhw’n gymwys, ond mae croeso ichi gysylltu â applications@prsfoundation.com <mailto:applications@prsfoundation.com> os ydych chi’n meddwl y gellid gwneud eithriad yn eich achos chi.

Lle arall allen ni fynd i chwilio am gymorth?

Mae Sefydliad PRS yn rheoli dros ddwsin o wahanol raglenni ariannu i grewyr cerddoriaeth o bob hil a chefndir ac rydyn ni’n eich annog i ystyried gwneud cais i’n rhaglenni cynhwysol, agored eraill sy’n targedu’n benodol. Mae’n bosib hefyd eich bod yn gymwys ar gyfer pob math o gyllid arall, gan eich Cyngor Celfyddydau lleol, arianwyr preifat eraill neu Ymddiriedolaethau a Sefydliadau eraill; fe geir hyd i fwy o arweiniad ar gyllido crewyr cerddoriaeth yma.

Efallai eich bod hefyd yn gymwys am gefnogaeth gan fudiadau y mae Sefydliad PRS yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys ein rhwydwaith o Bartneriaid Datblygu Doniau.

Ac i weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ddim yn y sefyllfa iawn i dderbyn cymorth POWER UP, rydyn ni’n fwy na bodlon eich cyfeirio at bartneriaid sydd â meddylfryd tebyg i ni, gan gynnwys cymdeithasau masnach sy’n partneru â POWER UP a rhaglenni cymorth eraill sydd ar gael o lefel mynediad ymlaen. Cysylltwch ag info@prsfoundation.com <mailto:info@prsfoundation.com> i ganfod mwy.

Beth am groestoriadedd?

Hyd nes bod doniau Du o bob rhywedd, rhywioldeb a hunaniaethau eraill wedi’u cyfnerthu a’u galluogi, ni fydd y gymuned gerddoriaeth Ddu wedi’i hatgyfnerthu na’i galluogi a bydd twf cyfunol yr ecosystem gerddoriaeth ehangach wedi’i atal.

Wrth lunio’r rhaglen, fy wnaethon ni gynnal Grwpiau Ffocws i drafod y rhwystrau i grewyr a gweithredwyr sy’n fenywod Du ac o rywedd leiafrifol, rhyweddol, ac i’r gymuned LHDTCRhA+ Ddu, ac mae Sefydliad PRS yn ymfalchïo yn ein hagwedd gynhwysol a chroestoriadol.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan grewyr a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant o bob cefndir a’n nod ydy i’n proses ddewis adlewyrchu hyn, gyda chydbwysedd cryf, cynrychioliadol o gyfranogwyr lle bo’n bosib. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein tair carfan gyntaf, yn ogystal â chefnogi llawer o gyfranogwyr LHDTCRhA+, a bwriadwn gynnwys croestoriadedd yn ein proses yn y dyfodol.

Sut fydd POWER UP yn delio â phob genre, rhanbarth, cenedl a sector?

Mae sefydlwyr POWER UP yn cydnabod fod artistiaid, sgwenwyr caneuon, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Du sy’n gweithio ymhob genre yn wynebu rhwystrau, ac mae’n bosib fod y rhai hynny sy’n gweithio ymhob sector ac is-sector cerddoriaeth yn wynebu rhwystrau.

Mae hi’r un mor bwysig ein bod yn cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio mewn Materion Busnes, neu gyfansoddwyr Clasurol, er enghraifft, yn ogystal â’r gefnogaeth a rown i’r rhai hynny sy’n gweithio yn A&R neu genres Cerddoriaeth Ddu. Tra’n bod ni’n disgwyl galw mawr gan y rhai hynny sy’n gweithio mewn meysydd mwy cynrychioliadol o gerddoriaeth, fe fydd ein proses yn ystyried sut i gefnogi ystod eang o gyfranogwyr sy’n dod â rhywbeth pwysig i’r rhwydwaith.

Mae’r un peth yn wir am y rhai hynny sydd wedi’u lleoli yn y rhanbarthau a’r cenhedloedd. Er y gallwn brofi galw mawr o ddinasoedd lle ceir canran uwch o weithlu’r diwydiant neu gynrychiolaeth uwch o ddoniau creadigol Du yn byw a bod, fe fydd ystyriaeth yn cael ei roi wrth wneud penderfyniadau yn ystod y prosesau i bwyntiau allweddol rhanbarthol a chenedlaethol a materion penodol yn ymwneud ag isadeiledd, cynnydd a chynrychiolaeth.

Fe fydd rhwydwaith o gyfranogwyr POWER UP sy’n fwy adlewyrchiadol yn helpu i agor pob rhan o’r diwydiant i ddoniau Du yn y dyfodol.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar oedran?

Fedrwn ni ddim derbyn ceisiadau gan rai o dan 16 oed. Disgwyliwn allu cefnogi ystod eang o oedrannau.

Pryd mae’r dyddiadau cau?.

Bydd ymgeiswyr Blwyddyn 4 yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn 2 Mai 2024 a bydd y Rhaglen Gyfranogwyr yn para am 10 – 12 mis.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Pan fydd y ceisiadau yn agor, rhaid cyflwyno ceisiadau trwy borth ariannu Sefydliad PRS (Flexigrant). Mae’n well ganddon ni dderbyn ceisiadau ysgrifenedig, o gofio’r lefel o fanylder sydd ei hangen i amlinellu’r rhwystrau a’r cynlluniau sydd ar y gweill (gweler cwestiynau ar Hygyrchedd am fwy o wybodaeth).

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth, dilynwch y camau canlynol:

Cam 1 – Darllenwch y dudalen ganllawiau yn llawn

Cam 2 – Cofrestrwch neu fewngofnodwch ar Borth Flexigrant Sefydliad

Ewch i: https://prsformusicfoundation.flexigrant.com/

Os ydych wedi gwneud cais blaenorol i raglen Sefydliad PRS, mewngofnodwch

Os ydych yn newydd i’r llwyfan, cofrestrwch yn gyntaf

Cam 3 – Dewiswch y cynllun POWER UP perthnasol

Ar dudalen hafan Flexigrant Sefydliad PRS, o fewn y gwymplen o dan ‘Select a scheme to start an application’ (gweler isod), dewiswch un ai:

  1. i) ‘POWER UP – Crewyr Cerddoriaeth’ os ydych chi’n gwneud cais fel crëwr cerddoriaeth (artist, sgwennwr caneuon, cyfansoddwr neu gynhyrchydd sy’n ymwneud â chreu cerddoriaeth newyd)d, neu
    ii) ‘POWER UP – Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant’ os ydych chi’n gwneud cais fel gweithredwr/gweithiwr proffesiynol y diwydiant/entrepreneur sy’n gweithio yn y cefndir yn y diwydiant cerddoriaeth

Cam 4 – Cwblhewch eich cais

Mae porth y cais, sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn eich galluogi i gwblhau ceisiadau yn reddfol. Mae ganddon ni wahanol dudalennau ar gyfer gwahanol adrannau. Medrwch gadw eich gwaith, gadael a dychwelyd at y cais ar unrhyw adeg.

Fe gewch hyd i geisiadau drafft o fewn adran ‘My applications’ unwaith y byddwch wedi mewngofnodi’n ôl ar Flexigrant.

Bydd yr amser a gymer hi i lenwi’r ffurflen yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor barod y mae eich cynllun ar gyfer 12-18 mis nesaf. Fel rhyw fras amcan, rydyn ni’n tybio y byddai hi’n cymryd rhwng 3-6 awr i’r rhan fwyaf o bobl lenwi’r ffurflen. Rydyn ni felly’n eich cynghori i beidio ag aros tan y diwrnod olaf cyn y dyddiad cau, ac i fanteisio ar y ffaith fod Flexigrant yn caniatáu ichi gadw eich gwaith wrth ichi fynd ymlaen. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i ddelio ag 1-2 adran ar y tro ac i wneud cymaint o newidiadau ag sydd angen cyn cyflwyno eich cais.

Nid proses gais ‘cyntaf i’r felin’ ydy hon – bydd pob cais yn cael ei asesu’n deg, waeth pryd rydych chi’n cyflwyno

Cyn gynted â’ch bod wedi cyflwyno eich cais, medrwch ddilyn ei drywydd.

Cam 5 – Arhoswch am ein penderfyniad

Fe wnawn ni gysylltu â phob ymgeisydd trwy e-bost, waeth beth fydd y penderfyniad.

Am beth ydych chi’n chwilio yn y ffurflen gais?

Mae ffurflen gais POWER UP yn cynnwys cyfarwyddiadau ac esboniadau ychwanegol a ddylai, ochr yn ochr â Thudalen Ganllaw POWER UP, gynorthwyo ymgeiswyr, p’un ai eu bod wedi hen arfer gwneud cais gyda Sefydliad PRS, neu’n ymgeiswyr o’r newydd.

Fe ddylech ddisgwyl yr adrannau canlynol:

  1. Cymhwyster
  2. Manylion Cyffredinol
  3. Lefel eich Gwaith a’ch Gyrfa

Cyfle i grewyr cerddoriaeth gyflwyno enghreifftiau o gerddoriaeth ac i grewyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant amlinellu eu cyraeddiadau a’u hanes

  1. Rhaglen i Gyfranogwyr

Yn yr adran hon, mae’n rhaid i ymgeiswyr amlinellu’r pethau maen nhw’n dymuno fwyaf eu cael o gymryd rhan yn y Rhaglen i Gyfranogwyr a beth maen nhw am ei gyfrannu at y Rhwydwaith Cyfranogwyr  

  1. Rhwystrau

Rydyn i’n ymwybodol, wrth ofyn am y rhwystrau y buoch chi’n eu hwynebu yn eich gyrfa’n ymwneud â hil, ein bod yn gofyn ichi ail-fyw profiadau trawmatig. Mae bwriadau POWER UP yn glir ac rydyn ni’n anelu at ddefnyddio’r Rhaglen i Gyfranogwyr i dorri i lawr rhwystrau systematig a mynd i’r afael â hiliaeth gwrth-Ddu, gan symud y nodwydd ar gyfer y sector ehangach.  

Rydyn ni felly’n defnyddio’r adran hon fel man diogel lle medrwch amlinellu eich profiadau yn gwbl gyfrinachol. Dim ond cynghorwyr arbenigol perthnasol fydd yn cael gweld yr atebion ac ni chaen nhw’u rhannu â phartneriaid. Rydyn ni’n eich annog i ateb y cwestiynau hyn yn y modd gorau posib er mwyn inni allu deall yn well sut fedrwn ni helpu trwy’r rhaglen.

Bydd cyfranogwyr perthnasol yn derbyn cymorth gan bartneriaid Cronfa Aelodau PRS yn ogystal â chael cynnig Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan Music Support, yr elusen sy’n helpu’r rhai hynny oddi fewn i’r diwydiant a effeithir gan iechyd meddwl a/neu orddibyniaeth. Ac mae POWER UP eisiau atgyfeirio pob ymgeisydd at Thrive – yr ap sydd wedi’i gymeradwyo gan y GIG, gyda thros 100 awr o gynnwys a deunyddiau iechyd meddwl a gynlluniwyd yn glinigol i’ch helpu i reoli straen, gorbryder ac iselder. Diolch i gefnogaeth gan BRIT Trust, BPI, BRIT Awards a phartneriaid o’r sector cerddoriaeth a recordiwyd, mae Music Support yn falch o allu darparu mynediad RHAD AC AM DDIM am gyfnod cyfyngedig. Pwyswch yma am fanylion pellach, gan gynnwys eich côd lawrlwytho unigryw rhad ac am ddim: musicsupport.org/thrive-app <http://musicsupport.org/thrive-app>

  1. Eich Gweithgaredd

Cynlluniwyd yr adran hon er mwyn i ymgeiswyr amlinellu faint o gymorth grant maen nhw’i angen a’r gweithgaredd penodol a fydd yn ffocws iddyn nhw gyda chymorth grant i roi sbardun i’w gyrfaoedd

  1. Cyllideb

Mae’r gyllideb yn caniatáu i ymgeiswyr amlinellu’r gwariant a’r incwm ynghlwm â’r gweithgaredd a fanylwyd yn yr adran flaenorol 

  1. Monitro

Mae’r adran hon yn gofyn am wybodaeth mae Sefydliad PRS yn ei gasglu gan bob ymgeisydd i bob rhaglen at bwrpasau monitro a riportio. Dydy’r wybodaeth a roddir yma ddim yn effeithio ar y system sgorio na phroses adolygu’r cynghorwr allanol, a gwneir penderfyniadau terfynol yn seiliedig ar sgoriau, meini prawf ac ar gefnogi doniau cyffrous ac amrywiol.

Fe fydd aelodau tîm Sefydliad PRS a’r rhai hynny sy’n llywio’r rhaglen yn cyhoeddi canllawiau pellach ar gyfer ymgeisio (e.e. Podlediadau, Holi ac Ateb Insta, Sesiynau Canllawiau Zoom) rhwng nawr a’r dyddiad cau y bydd modd cysylltu â nhw o fewn i adran Cynghorion ar Wneud Cais.

Cefnogaeth ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion hygyrchedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynhwysiant a hygyrchedd. Mae Sefydliad PRS yn rhan o grŵp cyllido Attitude is Everything, Next Stage <http://www.attitudeiseverything.org.uk/artists>, sy’n canolbwyntio ar symud rhwystrau yn y diwydiant cerddoriaeth i grewyr a gweithwyr proffesiynol sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd hirdymor.

Rydyn ni’n deall y gall dyddiadau cau a llenwi ffurflenni greu heriau i rai ymgeiswyr sydd ag anghenion hygyrchedd. I leihau rhwystrau, byddwn yn derbyn ceisiadau am gyngor ychwanegol, opsiynau cais fideo ac ymestyn y dyddiad cau os yw’n briodol, h.y. pan fydd yn berthnasol ac wedi’i gymeradwyo o flaen llaw, bydd ymgeiswyr â gofynion ychwanegol yn gallu ymgeisio tan 6pm ddydd Llun 18 Mawrth 2024.

Cysylltwch ag applications@prsfoundation.com <mailto:applications@prsfoundation.com> os ydy eich anghenion hygyrchedd yn golygu fod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, efallai. Mae’n bosib y bydden ni hefyd mewn sefyllfa i gynnig cyllid atodol i gefnogi anghenion hygyrchedd ychwanegol yn gymorth i allu cyfranogi yn y rhaglen, a gofyn i ymgeiswyr i amlinellu anghenion hygyrchedd perthnasol yn gyfrinachol o fewn ein ffurflenni cyllido.

 

Yn unol â’n hymrwymiad at Egwyddorion Chwarae Teg, mae’n bosib y gwnawn ni hefyd glustnodi arian ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ag sydd fwyaf angen cymorth.

A gaiff fy nghynrychiolydd wneud cais ar fy rhan?

Fe ddisgwyliwn i’r cyfranogwr arfaethedig unigol wneud cais, yn hytrach na’u cynrychiolwyr (e.e.  os ydych chi’n artist Du sydd am ymuno â’r rhwydwaith cyfranogwyr a bod ganddoch chi reolwr, mae’n bosib eich bod am i’ch rheolwr gefnogi eich cais ond mae hi’n bwysig eich bod yn ymgysylltu’n helaeth iawn â’r broses gais ac yn ymrwymedig fel unigolyn). Os ydych chi angen cymorth ychwanegol i hygyrchu eich cais, mae croeso mawr i gynrychiolydd neu gynorthwyydd wneud cais ar eich rhan, ond dydy POWER UP ddim yn debyg i gynlluniau megis Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PRS, lle mae cais cynrychiolydd yn fwy tebygol o arwain at lwyddiant.

Fedra i geisio mwy nag unwaith?

Dim ond un dyddiad cau mae POWER UP yn ei ganiatáu i bob cyfranogwr bob blwyddyn. Felly, caiff ymgeiswyr aflwyddiannus ym Mlwyddyn 1 wneud cais i raglen Blwyddyn 2, caiff ymgeiswyr aflwyddiannus ym Mlwyddyn 2 wneud cais ar gyfer Blwyddyn 3, ac felly ‘mlaen. Byddai adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ddim o reidrwydd yn awgrymu cais yn y dyfodol.

A oes modd imi wneud cais os ydw i eisoes wedi derbyn grant gan Sefydliad PRS?

Oes – os ydych chi wedi derbyn grant gan Sefydliad PRS yn y gorffennol, cewch wneud cais eto.

Rydyn ni’n cadw’r hawl i flaenoriaethu’r rhai hynny sy’n gwneud cais am grant am y tro cyntaf i Sefydliad PRS. Mae’r rhai hynny sydd wedi derbyn cyllid am brosiect cyfredol yn llai o flaenoriaeth gan fod modd iddyn nhw gael mynediad at gymorth arall gan Sefydliad PRS.

Os ydych chi, ar yr un pryd â gwneud cais i POWER UP, hefyd yn gwneud cais i raglenni eraill Sefydliad PRS, megis Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, ein cyngor ichi ydy cysylltu ag applications@prsfoundation.com <mailto:applications@prsfoundation.com> er mwyn i’r tîm eich cynghori ar y senarios tebygol. Mae hi’n annhebygol y cewch eich dewis ac yn medru derbyn cymorth cyllido ar gyfer 2 brif raglen ar yr un pryd, felly mae hi’n well trafod hyn yn agored gyda’r tîm.

Y cynghorion gorau ynghylch eich cais

CYN ICHI DDECHRAU

Gwiriwch y canllawiau

Cyn gwneud cais i unrhyw gynllun ariannu neu raglen datblygu doniau gan Sefydliad PRS, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y Dudalen Canllawiau yn llawn. Mae cymhwyster ac arweiniad pellach ar gyfer POWER UP i’w cael yma.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio pob maes cymhwyster a dyddiadau cais/penderfyniadau. Edrychwch pa agweddau o’ch cynllun sy’n gymwys ar gyfer cymorth grant a/neu unrhyw gymorth rhaglen arall a pheidiwch â chyfyngu eich cyfloed trwy wneud cais am y peth anghywir.

Os ydych chi wedi darllen ein canllawiau ac yn gwybod nad ydych chi’n gymwys, peidiwch â gwneud cais – ni chaiff eich cais ei ystyried am gymorth. Chwiliwch am ein tudalen o ddolenni-cyswllt defnyddiol am ffynonellau eraill o gymorth.

CYNGHORION CYFFREDINOL

Sicrhewch fod eich presenoldeb ar-lein wedi’i ddiweddaru

Mae’n bosib y bydd cynghorwyr yn dewis dilyn dolenni-cyswllt at eich gwefan, proffiliau neu eich  tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr fod y dolenni-cyswllt a gyflwynwyd yn berthnasol ac wedi’u diweddaru gyda gweithgarwch diweddar (e.e. recordiau newydd, rhestrau’r gigiau diweddaraf ayyb.)

Amlinellwch eich hanes a llwyddiannau blaenorol

Fel llawer o raglenni cystadleuol eraill Sefydliad PRS, fe ddisgwyliwn y byddai gan grëwr cerddoriaeth sy’n wneud cais hanes o greu a/neu berfformio o fwy na 18 mis. Byddai’n rhaid i ymgeiswyr sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant fod wedi bod yn gweithio gyda cherddoriaeth am o leiaf 3 blynedd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, dros 5 mlynedd.

Medrwch amlinellu hanes eich gyrfa a llwyddiannau blaenorol o fewn ein ffurflen ac fe gaiff y rhain eu ffactora yn ein penderfyniad. Efallai y byddai rhaglenni eraill yn fwy addas os nad ydych chi’n teimlo eich bod wedi adeiladu digon o hanes ar ein cyfer trwy POWER UP.

Dwedwch wrthon ni pwy arall sy’n eich cefnogi

Mae partneriaid yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi ymgeiswyr credadwy. Os nad ydych chi eto wedi dechrau cael sylw yn y diwydiant na gan eich cyfoedion, mae’n bosib nad ydych chi eto’n barod i wneud cais i POWER UP. Pan ofynnir ichi, darparwch dystiolaeth eich bod ar y lefel iawn yn eich gyrfa i’r gefnogaeth wneud gwahaniaeth.

(I Grewyr Cerddoriaeth) Cyflwynwch yr esiamplau gorau o’ch cerddoriaeth

Mae’r gerddoriaeth rydych chi’n ei chyflwyno yn chwarae rhan bwysig yn ein penderfyniad, ynghyd â’ch hanes, y cynlluniau sydd ganddoch chi ar y gweill a’ch addasrwydd ar gyfer ein Rhaglen i Gyfranogwyr.

Cofiwch ein bod yn cefnogi cerddoriaeth eithriadol o safon uchel, felly cyflwynwch esiamplau o gerddoriaeth sy’n adlewyrchu eich gwaith ar ei orau fel crëwr cerddoriaeth. Felly, meddyliwch beth sy’n eich cynrychioli chi orau i gynghorwr sy’n caru cerddoriaeth newydd ond sy’n gorfod delio â rhwng 30 a 40 o geisiadau, o bosib, ymhob eisteddiad.

Disgwyliwn ddolenni-cyswllt uniongyrchol at draciau neu ganeuon penodol, yn hytrach nag at dudalennau glanio/ proffil, lle nad ydy hi’n glir pa drac y dylai’r cynghorydd wrando arno. Eich cyfrifoldeb chi ydy sicrhau fod dolenni-cyswllt yn parhau i weithio am hyd at 12 wythnos wedi ein dyddiad cau – peidiwch â’u dileu yn ystod y cyfnod asesu. Os ydych chi’n defnyddio safle a ddiogelir gan gyfrinair neu dolen-gyswllt preifat, gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu’r cyfrinair perthnasol inni.

CYNGHORION CAIS YSGRIFENEDIG

Cadwch bethau’n syml a gwnewch eich hunan yn glir

Dydyn ni ddim yn mynnu Cymraeg (na Saesneg) perffaith. Mae iaith glir, gryno ac uniongyrchol yn aml yn fwy effeithiol nag ystrywiau ieithyddol ac ieithwedd flodeuog.

Ystyriwch y bydd eich cais yn cael ei asesu gan arbenigwyr cerddoriaeth a defnyddiwch iaith sy’n gweddu i gyd-destun eich prosiect yn y byd go iawn. Gall penawdau a phwyntiau bwled helpu strwythuro cais mewn modd sy’n ei gwneud yn haws i’w ddarllen.

Rydyn ni’n eich cynghori i’w gwneud hi’n amlwg o fewn eich cais ysgrifenedig sut rydych chi’n cwrdd â meini prawf y cyllido. A byddwch mor glir â phosib ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni a sut fyddech chi’n gwneud hynny petaech chi’n derbyn grant a chefnogaeth Rhaglen Cyfranogwyr POWER UP. Yn y modd yma, gall y person sy’n darllen eich cais ddeall eich syniadau a’ch bwriadau yn iawn.

Cyflwynwch gynllun cryf

Mae’n bosib y gwnaiff cyrff ariannu a chynghorwyr fentro arnoch chi os ydy’r gerddoriaeth a gyflwynir ganddoch chi, neu eich hanes a’ch amgylchiadau, yn wirioneddol eithriadol. Ond, yn y rhan fwyaf o achosion, mae cydbwysedd yn cael ei ganfod rhwng y meini prawf, sy’n golygu fod yn rhaid i’ch cynlluniau fod yn gadarn ac wedi’u cyflwyno’n dda.

Defnyddiwch eich cais i ddangos  eich bod yn gwybod beth i’w wneud nesaf a sut fydd Rhaglen Cyfranogwyr POWER UP a’r cymorth grant yn eich helpu. Er nad oes rhaid talu’r cymorth grant yn ôl, meddyliwch am y cyllid fel buddsoddiad a defnyddiwch eich cais i’n hargyhoeddi ni y caiff y cymorth grant ei wario’n ddoeth.

Dewiswch eich geiriau’n ofalus

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb pob cwestiwn perthnasol yn uniongyrchol. Gwnewch yn siŵr eich bod cynnwys pob prif faes mewn cwestiwn. Er enghraifft, os ydy pwyntiau bwled yn dangos tri maes y dylech eu crybwyll yn eich ateb, sicrhewch eich bod yn delio â phob un a pheidio â defnyddio gormod o eiriau ar un pwynt yn unig.

Peidiwch â rhuthro – cymerwch eich amser, ailddarllenwch ac ail-sgwennwch

Paratowch yn llawn ar gyfer pob cais y byddwch yn ei lenwi. Mae’n helpu i ddechrau ychydig ddyddiau cyn y dyddiad cau fel nad ydych chi’n rhuthro eich cais. Os yn bosib, gofynnwch i rywun arall i ddarllen dros eich cais, fel y gallwch fod yn hyderus ei fod yn barod i’w gyflwyno.

A gaiff fy nghynrychiolydd wneud y cais ar fy rhan?

Fe ddisgwyliwn i’r cyfranogwr arfaethedig unigol wneud cais, yn hytrach na’u cynrychiolwyr (e.e.  os ydych chi’n artist Du sydd am ymuno â’r rhwydwaith cyfranogwyr a bod ganddoch chi reolwr, mae’n bosib eich bod am i’ch rheolwr gefnogi eich cais ond mae hi’n bwysig eich bod yn ymgysylltu’n helaeth iawn â’r broses gais ac yn ymrwymedig fel unigolyn). Os ydych chi angen cymorth ychwanegol i hygyrchu eich cais, mae croeso mawr i gynrychiolydd neu gynorthwyydd wneud cais ar eich rhan, ond dydy POWER UP ddim yn debyg i gynlluniau megis Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PRS, lle mae cais cynrychiolydd yn fwy tebygol o arwain at lwyddiant.

CYNGHORION CYLLIDO

Byddwch yn realistig
Mae ein cynghorwyr yn gweithio ar reng flaen y diwydiant cerddoriaeth ac yn deall beth ydy costau a rhagamcaniadau incwm realistig.

Sicrhewch fod y costau a roddir yn realistig i sefyllfa eich gyrfa a bod rhagamcaniadau incwm yn realistig ac yn gyraeddadwy. Rydyn ni’n annog cynlluniau uchelgeisiol, gan ein bod am i gymorth POWER UP gael effaith arwyddocaol, ond fe ddylech gadw’n weddol agos at lefelau sylfaenol gwariant y diwydiant.

Defnyddio’r blwch ‘manylion’
Mae patrymlun ein cyllideb yn caniatáu ichi ychwanegu gwybodaeth yn y blwch ‘manylion’. Mae’n well gan gynghorwyr weld dadansoddiad cyffredinol o feysydd gwariant. Er enghraifft, yn hytrach na nodi’n syml y byddai Marchnata a Hyrwyddo’n dod i £10,000, dyweder, mae’n well ganddon ni eich bod yn gwneud defnydd o’r blwch ‘manylion’ i ddadansoddi hyn, er mwyn inni weld y symiau tebygol ar gyfer marchnata a hyrwyddo (e.e. Cysylltiadau Cyhoeddus (£x,xxx); Hyrwyddo (£y,yyy); Marchnata Digidol (£z,zzz)).

Cyllideb gytbwys
Mae gofyn i Sefydliad PRS a phartneriaid POWER UP weld cyllideb gytbwys (h.y. cyflwyno cyllideb sy’n dangos y byddai grant POWER UP yn helpu eich gweithgaredd i fod yn effeithiol ac yn mantoli’r gyllideb pan gymerir cyfanswm yr incwm â chyfanswm y costau).

Cyngor da iawn yma ydy i amlinellu holl gostau/gwariant sy’n gysylltiedig â’r prosiect cyn  rhagamcanu’r incwm tebygol o ffynonellau sydd heb fod yn rhai POWER UP  Y gwahaniaeth rhwng y costau hynny a’r incwm disgwyliedig ydy’r swm sydd angen ichi ofyn i Sefydliad PRS amdano i fantoli eich cyllideb.

Er enghraifft, dyweder mai cyfanswm y gwariant a gyflwynir ganddoch chi ydy £20,000. Os, cyn ychwanegu’r swm a geisir gan POWER UP, eich bod yn rhagamcanu y byddai  incwm o’r prosiect yn £10,000, fe fyddech yn ceisio cymorth grant o £10,000 gan POWER UP, fel bod incwm yn hafal â gwariant, gan fantoli’r gyllideb.

Peidiwch ag anghofio amcangyfrif yr incwm cysylltiedig â’ch prosiect (e.e. os byddai cymorth POWER UP yn cyfateb i gostau recordio a rhyddhau, mae gofyn ichi gyfleu incwm realistig o’r rhyddhau perthnasol, waeth pa mor fawr neu fach).

A ydy ymgeiswyr yn derbyn y swm llawn a geisir?
Mae Sefydliad PRS, cyn belled ag sy’n bosib, i ariannu’r swm y mae arnoch ei angen i wireddu eich prosiect neu weithgaredd. Mewn rhai achosion, lle mae cymorth wedi’i gytuno ond fod panel o gynghorwyr wedi teimlo fod swm llai yn briodol, byd grant POWER UP yn llai na’r swm a geisiwyd ganddoch. Mae’n bosib y gwnawn ni hyd yn oed gyhoeddi cynnig amodol gyda chais i drafod eich cyllideb a’ch anghenion cymorth grant ymhellach.

 

PROBLEMAU GYDA’R CAIS

Fedrwch chi fy helpu i gael mynediad i ‘nghyfrif?

Os ydych chi’n cael problemau’n ceisio mynediad at eich cyfrif porth Flexigrant, neu broblemau’n ymwneud â’ch enw defnyddiwr neu gyfrinair, cysylltwch ag info@prsfoundation.com

Sut fedra i barhau i weithio ar gais ar-lein rydw i wedi’i gadw?
Wrth weithio ar gais ar borth Flexigrant Sefydliad PRS, few gewch yr opsiwn i gadw wrth ichi fynd ymlaen. Medrwch fynd at eich ceisiadau drafft ar unrhyw adeg trwy ‘My Applications’ ar dudalen hafan y porth.

WEDI’R CAIS

A oes modd imi gysylltu â chi i wneud yn siŵr bod fy nghais wedi’i dderbyn?
Na. Rydyn ni’n derbyn cannoedd o geisiadau ar bob dyddiad cau ac fe all gymryd cryn amser cyn eu bod i gyd yn cael eu prosesu. Fe dderbyniwch ymateb awtomatig yn datgan bod eich cais wedi’i dderbyn wedi’i gyflwyno. Cewch hefyd wirio statws fy ngheisiadau trwy ‘My Applications’ ar dudalen hafan y porth.

Sut a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud?

Bydd Sefydliad PRS yn rhannu ceisiadau cymwys gyda chynghorwyr arbenigol cerddoriaeth Du a fydd yn sgorio ceisiadau a gwneud argymhellion. Y system ddibynadwy hon ydy sylfaen llwyddiant proses Sefydliad PRS o wneud penderfyniadau, sy’n caniatáu inni dalu gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant a fydd yn helpu gyda’r broses o ddewis.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr â’r sgoriau uwch a chynrychioliadol yn cael ei llunio gan Sefydliad PRS mewn ymgynghoriad ag aelodau addas o’n Pwyllgor Llywio Gweithredol i POWER UP.

Cynhelir panel(i) penderfynu, yn cynnwys trawsdoriad annibynnol o gynghorwyr arbenigol cerddoriaeth Du a fydd, ar y cyd, yn trafod ymgeiswyr sydd â sgoriau uchel er mwyn gwneud y dewisiadau terfynol a fydd, yn unol ag arferion cyllido gorau, yn cael eu hawdurdodi gan aelodau Pwyllgor Llywio Gweithredol ac aelodau perthnasol Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad PRS.

Mae amlinelliad amseriad ein proses o wneud penderfyniadau i’w weld ar ein tudalen Canllawiau.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn llythyrau cynigion a all gynnwys amodau, os yn berthnasol.

Nid cyfle ‘cyntaf i’r felin’ ydy hyn, felly, fe gaiff unrhyw gais a gyflwynir cyn ein dyddiad cau ei ystyried mewn modd teg a thryloyw, yn seiliedig ar y meini prawf a’r wybodaeth a amlinellir yn eich cais.

Cais am adborth

Rydyn ni’n sylweddoli fod pawb yn gweithio’n galed ar eu ceisiadau, ac mae ein system adborth fel a ganlyn:

  1. Bydd pob ymgeisydd aflwyddiannus yn derbyn hysbysiad trwy e-bost o’n porth cyllido

Bydd y rhesymau cyffredin am ddiffyg llwyddiant ceisiadau’n cael eu hamlinellu ac fe wnawn ni gyfeirio’r ymgeiswyr hynny at gymorth priodol.

Mae hi’n debygol y gwnawn ni gyfeirio pob ymgeisydd at weithdai adborth ac rydyn ni’n eich annog i fynychu. Pan fyddwn ni’n hysbysu ymgeiswyr o’n penderfyniad, fe wnawn ni amlinellu unrhyw brosesau adborth pellach, gan ein bod yn ymwybodol fod y rhai hynny sy’n ymateb i’n cynigion adborth yn fwy tebygol o dderbyn cymorth yn y dyfodol.