POWER UP Cymru
POWER UP yn cyhoeddi manylion partneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru:
- 10x dosbarth meistr ar gyfer creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant yng Nghymru mewn partneriaeth â Believe ym mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023
- Yn ogystal, mae nifer o’r dosbarthiadau meistr hefyd ar gael i greawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant y tu allan i Lundain
- Grŵp Gweithredu ar Gerddoriaeth Ddu Cymru i’w sefydlu i gyfrannu at weithredu’r Mudiad POWER UP yng Nghymru a’i sbarduno
Mae POWER UP, y fenter arobryn yn y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo talent Ddu gyffrous yn y wlad ac yn mynd i’r afael â hiliaeth wrth-Ddu a gwahaniaethau hiliol yn y sector cerddoriaeth, yn cyhoeddi heddiw fanylion cyffrous y bartneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru a sut gall pobl gymryd rhan.
Rhwng 12 a 19 Medi 2022, bydd POWER UP a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dod â dosbarthiadau meistr digidol, mewn partneriaeth â’r dosbarthwr annibynnol arweiniol Believe, i greawdwyr cerddoriaeth Du yng Nghymru a chreawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol du y diwydiant sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Bydd arbenigwyr yn nhîm Believe yn cynnal y dosbarthiadau meistr a fydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- 26/09/2022 – Rheoli ymgyrch (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
- 03/10/2022 – Dosbarthu (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
- 10/10/2022 – Marchnata (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
- 17/10/2022 – Gwledydd a rhanbarthau (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
- 07/11/2022 – Cyllid (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain
- Adborth Artistiaid a Repertoire (A&R) (creawdwyr cerddoriaeth Du wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig)
Dosbarth Meistr
Gall creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n gymwys gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer y dosbarthiadau meistr ar wefan Sefydliad PRS. Yn ogystal, bydd pedair sesiwn dosbarth meistr wyneb yn wyneb arall yn cael eu trefnu ar gyfer mis Ionawr 2023 a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod.
Bydd y bartneriaeth newydd hon â Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn dechrau’r broses o sefydlu Grŵp Gweithredu ar Gerddoriaeth Ddu Cymru yn ystod y misoedd i ddod. Bydd y grŵp gweithredu, a ffurfiwyd o ganlyniad i grwpiau ffocws, yn cyfrannu at weithredu’r Mudiad POWER UP yng Nghymru a’i sbarduno, ac yn chwarae rhan ddylanwadol wrth gyflawni newid amlwg yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Yn ogystal, ym mis Chwefror 2023, bydd POWER UP yn gwahodd creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli yng Nghymru i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig yn Llundain. Hefyd, drwy gydol y bartneriaeth, bydd sgyrsiau cysylltiedig â’r Mudiad POWER UP yn cael eu cynnal gyda’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu, Bywydau Du mewn Cerddoriaeth, ADD, BAFA a mentrau cysylltiedig eraill ledled y Deyrnas Unedig i alluogi cyflawni canlyniadau penodol y Mudiad POWER UP yng Nghymru.