This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > Mae cynllun POWER UP, sydd wedi ennill llawer o wobrau, yn agor y cyfnod ymgeisio i greawdwyr cerddoriaeth Du a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant ymuno â Blwyddyn 4 ei Raglen Cyfranogwyr

Mae cynllun POWER UP, sydd wedi ennill llawer o wobrau, yn agor y cyfnod ymgeisio i greawdwyr cerddoriaeth Du a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant ymuno â Blwyddyn 4 ei Raglen Cyfranogwyr

  • Mae cyn-gyfranogwyr yn cynnwys Nova Twins, Donae’O, Jamz Supernova, Sanity, ShaoDow, Whitney Asomani, Hannah Shogbola, Despa Robinson, Adem Holness ac Abel Selaocoe
  • Gall creawdwyr cerddoriaeth Du a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wneud cais am gymorth a fydd yn newid gyrfa ac ymuno â Rhwydwaith POWER UP o 120 o Gyfranogwyr blaenorol
  • Enillodd POWER UP Wobr Menter Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant (DE&I) Gwobrau Menywod mewn Cerddoriaeth Music Week yn ddiweddar, ac mae’n parhau i alw am fwy o gydweithredu gan sefydliadau’r diwydiant i sbarduno talent Ddu

Mae POWER UP wedi cyhoeddi bod y cyfnod i greawdwyr cerddoriaeth Du a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wneud cais am gymorth POWER UP a bod yn rhan o garfan Blwyddyn 4 y Rhaglen Cyfranogwyr wedi agor.

Mae Rhaglen Cyfranogwyr POWER UP, a gydsefydlwyd gan Sefydliad PRS a Ben Wynter, yn hyrwyddo talent Ddu arloesol ac mae’n nodwedd allweddol o’r fenter tymor hir a lansiwyd i fynd i’r afael â hiliaeth wrth-Ddu a gwahaniaethau hiliol yn y sector cerddoriaeth.

Mae’r rhaglen, a luniwyd yn benodol i weddu i anghenion y cyfranogwyr, yn cynorthwyo i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u hymarfer, ac yn helpu’r rhai sydd yn y rhwydwaith i chwalu rhwystrau a chyflymu newid ar draws y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys cymorth grant o hyd at £15,000 ochr yn ochr â dosbarthiadau meistr cynyddu capasiti, mentora, hyfforddiant, cymorth iechyd meddwl a lles, a mynediad at gymorth ychwanegu gwerth gan Bartneriaid POWER UP a’r rhwydwaith cymheiriaid sy’n allweddol i chwalu rhwystrau.

I wneud cais, ewch i wefan Sefydliad PRS ar gyfer y manylion, canllawiau a’r ffurflen gais ar-lein.

Mae Rhaglen Cyfranogwyr POWER UP bellach yn rhwydwaith â 120 o aelodau sy’n dod â phrofiadau amrywiol ac arbenigedd sylweddol i sbarduno a chyfrannu at Fudiad ehangach POWER UP.

Mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi talent arobryn, gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n ymgymryd â swyddi uwch a Bwrdd ar draws y diwydiant, a chreawdwyr sy’n dominyddu rhestrau chwarae a digwyddiadau cerddoriaeth ar draws y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Dyma gipolwg ar lwyddiannau Cyfranogwyr Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 hyd yma:

  • Mae’r band â dau aelod Nova Twins wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Drom, teithio’r Unol Daleithiau ac Ewrop, llofnodi â Marshall Records a sicrhau cefnogaeth BBC Radio 1, NME a Spotify Equal yn fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, sef Supernova, a gefnogwyd gan POWER UP, ei enwebu am Wobr Gerddoriaeth Mercury, ac fe enillon nhw Wobr AIM 2002 a chael 2 enwebiad BRITS 2023
  • Mae artistiaid a chreawdwyr cerddoriaeth eraill sydd wedi ennill Gwobrau ers i POWER UP gael ei lansio yn cynnwys Mace the Great (enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2023) Ego Ella May (enillydd Gwobr Jazz FM), TAALIAH (Gwobr AIM), Bemz (Gwobr DJ Mag 2022, enwebwyd ar gyfer Gwobr SAY 2023) a DoomCannon (Gwobr MOBO)
  • Nid yn rhai i’w trechu, roedd Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant a enillodd wobrau yn cynnwys Jennifer John (Gwobr AIM), Eunice Obianagha (yr enwebwyd ei gwaith ar ddigwyddiadau creadigol am Wobr Music Week); ac mae Christine Osazuwa, Hannah Shogbola, Esta Rae a Whitney Asomani bob un wedi cael eu hychwanegu at Restr Anrhydedd Gwobrau Menywod mewn Cerddoriaeth Music Week
  • Mae sawl gweithiwr proffesiynol y diwydiant wedi lansio mentrau newydd, ac mae rolau, dyrchafiadau a phenodiadau newydd yn cynnwys y canlynol: penodwyd Adem Holness yn Bennaeth Cerddoriaeth Gyfoes yng Nghanolfan Southbank; penodwyd Ree Sewell yn Gydlynydd Artistiaid a Repertoire yn Universal; penodwyd Selina Wedderburn yn Rheolwr Cyffredinol yn UD; penodwyd Christine Osazuwa yn Brif Swyddog Strategaeth yn Shoob; a phenodwyd Eunice Obianagha yn Bennaeth Amrywiaeth yn UK Music
  • Penodwyd Despa Robinson i Fwrdd AIM, ac etholwyd Daniel Kidane i Senedd Academi Ivors
  • Daeth yr artist KG yn gyflwynydd radio amser llawn yn Capital Dance, a gafodd sylw yn Complex, Mixmag a Clash, a chyflwynodd gweithiwr proffesiynol y diwydiant Kwame Daniels ei gyfres Inna Rhythm ei hun ar BBC Ulster
  • Guvna B (artist Blwyddyn 2 a reolir gan gyfranogwr Blwyddyn 1) oedd y rapiwr cyntaf i gyrraedd brig Siart Cristnogol a Chanu’r Hwyl Swyddogol y Deyrnas Unedig a chafodd ei enwebu am Wobr MOBO 2024
  • Cyhoeddodd Asiantaeth Fyw Marshall ei bod wedi llofnodi CHERYM a Bemz 
  • Llofnododd Abel Selaocoe â Warner Classics, cyrhaeddodd ei albwm cyntaf Rif 4 yn y Siart Albymau Clasurol ac fe ymddangosodd ar Later with Jools…
  • Roedd cwmni Des Agyekumhene, sef Soga, y tu ôl i’r ymgyrch tocyn anghyfnewidadwy (NFT) Close To Home ar gyfer Aitch – yr artist cyntaf i hawlio NFT i gyrraedd siartiau albwm swyddogol y Deyrnas Unedig
  • Dewiswyd sylfaenydd Forward Slash Keturah Cummings ar gyfer rhaglen Sbarduno Sylfaenydd Du Barclays 2022 a lansiodd y podlediad newydd Jack of All Trades
  • Perfformiwyd Sun Poem gan Dan Kidane am y tro cyntaf yn 2022 a chafodd perfformiadau Cerddorfa Symffoni Llundain a Syr Simon Rattle ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop glod gan feirniaid
  • Enwebwyd sylfaenydd Saffron Records, Laura Lewis-Paul, am wobr Entrepreneur y Flwyddyn AIM
  • Mae Keecia Ellis wedi cael buddsoddiad gan Station 12 ar gyfer ei chwmni cyhoeddi Rekodi Music.

Ym mis Tachwedd 2023, cafodd POWER UP gydnabyddiaeth yng Ngwobrau Menywod mewn Cerddoriaeth Music Week, gan ennill y Wobr Menter DE&I yn y seremoni. Dyma’r ail wobr a enillwyd gan POWER UP, ar ôl derbyn Gwobr Ysgogwr newid gyntaf IMPALA yn 2022. Wrth i effaith POWER UP gael ei chydnabod fwyfwy, mae Partneriaid POWER UP yn parhau i alw ar fwy o sefydliadau cerddoriaeth i gymryd rhan yn y fenter a symud y tu hwnt i undod i weithredoedd pendant a chyflawni disgwyliadau’r hyn yr oedd y diwydiant wedi’i addo yn 2020.

Dywedodd Ben Wynter, Cydsylfaenydd POWER UP, “Crëwyd POWER UP i wynebu’r hiliaeth wrth-ddu systemig a oedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn niwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Mae’n hollbwysig cydnabod a dathlu’r camau cynnar y mae POWER UP wedi’u cymryd, ymhlith ei gyfranogwyr ac ar draws y diwydiant ehangach. Mae gweld pobl Ddu dalentog yn grymuso wrth iddynt chwalu rhwystrau wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.

Fodd bynnag, wrth i drafodaethau ynglŷn â hiliaeth wrth-ddu leihau mewn rhai cylchoedd, mae’n hollbwysig ailadrodd pwysigrwydd cefnogi mentrau fel POWER UP. Heb gefnogaeth gyfunol y diwydiant, bydd cyflawni tegwch a chydraddoldeb gwirioneddol ymhell i ffwrdd o hyd.

Rwy’n ymfalchïo’n fawr yng nghymrodorion POWER UP sydd wedi dod i’r amlwg o’n rhaglen cyfranogwyr, ynghyd â’r cydweithrediadau dylanwadol rydyn ni wedi’u meithrin gyda chwmnïau fel YouTube Music, Beggars, y Gynghrair Cerddoriaeth Ddu, Cynghorau Celfyddydau’r Deyrnas Unedig, cyrff masnach y diwydiant a Spotify. O arwain trafodaethau ar Joe Rogan a hiliaeth wrth-ddu i gyfrannu at drafodaethau polisi arwyddocaol fel trafodaeth bord gron Swyddfa Eiddo Deallusol y Llywodraeth ar ffrydio a diwygio’r diwydiant, mae ein hymdrechion yn dylanwadu ar newid.

At hynny, mae argymhelliad IMPALA ar gyfer menter POWER UP ym mhob gwlad Ewropeaidd yn pwysleisio effeithiolrwydd y rhaglen. Wrth i ni agor y cyfnod ymgeisio ar gyfer blwyddyn pedwar, anogaf y diwydiant i’n cefnogi i greu amgylchedd lle nad oes angen POWER UP mwyach – tyst i ddiwydiant sydd wedi ymrwymo o ddifrif i gynwysoldeb a chydraddoldeb.”

Dywedodd Joe Frankland, Prif Weithredwr Sefydliad PRS a Chydsylfaenydd POWER UP, “Rydyn ni’n falch o fod wedi agor y cyfnod ymgeisio ar gyfer Blwyddyn 4 Rhaglenni POWER UP. Mae Rhwydwaith POWER UP (sydd eisoes yn cynnwys 120 o aelodau) yn mynd o nerth i nerth, gan osod sylfaen o gefnogaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r Rhwydwaith yn cael rhai canlyniadau gwych ac mae hynny’n rhannol oherwydd amrywiaeth y cyfranogwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ar draws genres a disgyblaethau. Felly, anogaf fwy o bobl o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig yn gryf i ymgeisio.”   

Cydsylfaenwyd POWER UP, a gyhoeddwyd yn 2021 ochr yn ochr â dangosiad cyntaf Time To Power Up, gan Sefydliad PRS a Ben Wynter a chaiff ei reoli gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â YouTube Music, Beggars Group a’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu. Mae’r fenter yn dod â nifer o bartneriaid yn y diwydiant cerddoriaeth ynghyd ar draws pob sector i gyflymu newid, ac mae ei chefnogwyr yn cynnwys Yr Alban Greadigol, Believe, Simkins, Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, ac AIM, y BPI, yr FAC, Academi Ivors, yr MMF, yr MPA, MPG, Undeb y Cerddorion, PPL, PRS ar gyfer Cerddoriaeth a Chronfa Aelodau PRS, yn ogystal â Phartner Cyswllt, Daft Springer, sydd i gyd yn rhoi cymorth sy’n ychwanegu gwerth i Gyfranogwyr POWER UP.

Daeth mwy nag 80 o swyddogion gweithredol a chreawdwyr cerddoriaeth Du ynghyd i gyfrannu a gosod y cyfeiriad ar gyfer POWER UP. Sefydlwyd Grŵp Llywio Gweithredol yn hwyr yn 2020 a oedd yn cynnwys rhai o’r gweithwyr proffesiynol Du mwyaf dylanwadol yn niwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Ochr yn ochr â’r Grŵp Llywio Gweithredol, ymchwiliodd saith grŵp ffocws a oedd yn canolbwyntio ar feysydd Recordio a Chyhoeddi, Byw, Platfformau, Rhywedd, Rhywioldeb, Menter a Rhanbarthiaeth yn ddyfnach i’r rhwystrau y mae creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du wedi’u profi ar draws y sector a sut gellid mynd i’r afael â nhw.

Mae POWER UP wedi cael dros 1,200 o geisiadau ers iddo gael ei lansio ym mis Chwefror 2021. Mae’r galw am ddiwydiant cerddoriaeth tecach a chydradd yn enfawr erbyn hyn, ac mae POWER UP yn profi i fod yn fenter allweddol. Gofynnwyd am fwy na £12.8m o gymorth grant trwy POWER UP yn unig ar draws ei dri therfyn amser blynyddol blaenorol – ac mae Sefydliad PRS a phartneriaid cyllido wedi buddsoddi dros £1.1m ym mhrosiectau’r cyfranogwyr ochr yn ochr â chymorth holistig amhrisiadwy.

Mae POWER UP wedi cynnal nifer o sesiynau allgymorth, gan gynnwys gweminarau a digwyddiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd mwy o sesiynau’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau i ddod ar sianeli cymdeithasol POWER UP @TimeToPOWERUP_ .