This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > POWER UP yn cyhoeddi manylion partneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru

POWER UP yn cyhoeddi manylion partneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru

  • 10x dosbarth meistr ar gyfer creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant yng Nghymru mewn partneriaeth â Believe ym mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023 
  • Yn ogystal, mae nifer o’r dosbarthiadau meistr hefyd ar gael i greawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant y tu allan i Lundain 
  • Grŵp Gweithredu ar Gerddoriaeth Ddu Cymru i’w sefydlu i gyfrannu at weithredu’r Mudiad POWER UP yng Nghymru a’i sbarduno

Mae POWER UP, y fenter arobryn yn y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo talent Ddu gyffrous yn y wlad ac yn mynd i’r afael â hiliaeth wrth-Ddu a gwahaniaethau hiliol yn y sector cerddoriaeth, yn cyhoeddi heddiw fanylion cyffrous y bartneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru a sut gall pobl gymryd rhan.

Rhwng 12 a 19 Medi 2022, bydd POWER UP a Chyngor Celfyddydau Cymru yn dod â dosbarthiadau meistr digidol, mewn partneriaeth â’r dosbarthwr annibynnol arweiniol Believe, i greawdwyr cerddoriaeth Du yng Nghymru a chreawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol du y diwydiant sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Bydd arbenigwyr yn nhîm Believe yn cynnal y dosbarthiadau meistr a fydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • 26/09/2022 – Rheoli ymgyrch (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  • 03/10/2022 – Dosbarthu (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  • 10/10/2022 – Marchnata (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  • 17/10/2022 – Gwledydd a rhanbarthau (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain)
  • 07/11/2022 – Cyllid (creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli y tu allan i Lundain
  • Adborth Artistiaid a Repertoire (A&R) (creawdwyr cerddoriaeth Du wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig)

 

Gall creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n gymwys gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer y dosbarthiadau meistr ar wefan Sefydliad PRS.

Yn ogystal, bydd pedair sesiwn dosbarth meistr wyneb yn wyneb arall yn cael eu trefnu ar gyfer mis Ionawr 2023 a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod.

Bydd y bartneriaeth newydd hon â Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn dechrau’r broses o sefydlu Grŵp Gweithredu ar Gerddoriaeth Ddu Cymru yn ystod y misoedd i ddod. Bydd y grŵp gweithredu, a ffurfiwyd o ganlyniad i grwpiau ffocws, yn cyfrannu at weithredu’r Mudiad POWER UP yng Nghymru a’i sbarduno, ac yn chwarae rhan ddylanwadol wrth gyflawni newid amlwg yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

 

Yn ogystal, ym mis Chwefror 2023, bydd POWER UP yn gwahodd creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli yng Nghymru i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig yn Llundain. Hefyd, drwy gydol y bartneriaeth, bydd sgyrsiau cysylltiedig â’r Mudiad POWER UP yn cael eu cynnal gyda’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu, Bywydau Du mewn Cerddoriaeth, ADD, BAFA a mentrau cysylltiedig eraill ledled y Deyrnas Unedig i alluogi cyflawni canlyniadau penodol y Mudiad POWER UP yng Nghymru.

 

Dywedodd Yaw Owusu, Uwch Reolwr y Rhaglen POWER UP yn Sefydliad PRS,

Bydd y bartneriaeth newydd gyffrous hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, a chyda chymorth gan Believe, yn galluogi POWER UP i gyrraedd a chefnogi creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du y diwydiant wedi’u lleoli yng Nghymru mewn ffyrdd pwrpasol sy’n cael effaith. Anogaf dalent Ddu yng Nghymru i gysylltu a chymryd rhan yn y gyfres werthfawr hon o gyfleoedd i helpu i lywio a datblygu gyrfaoedd mewn cerddoriaeth.

 

Dywedodd Andrew Ogun, Asiant dros Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru,

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o ffurfio partneriaeth â POWER UP a Believe yn y fenter allweddol hon sy’n ceisio cefnogi creawdwyr cerddoriaeth Du yng Nghymru. Mae ehangder y dalent Ddu sydd gennym yng Nghymru yn rhyfeddol, ac mae’n fraint gallu darparu llwyfan ac adnoddau i fynd â’r artistiaid hyn i lefel nesaf eu taith greadigol. Mae Cerddoriaeth o Darddiad Du yng Nghymru yn bair berw o dalent, ac rydym yn gyffrous i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o artistiaid sy’n dod trwodd o fewn y genres hyn.

 

Dywedodd Leigh Morgan, Cyfarwyddwr Byd-eang, Believe Electronic,

Rydym yn falch iawn o barhau i gefnogi’r rhaglen POWER UP mewn partneriaeth â’r tîm gwych yn Sefydliad PRS. Mae’n gyffrous i Believe allu helpu’r gymuned gerddoriaeth Ddu o artistiaid a gweithwyr proffesiynol ar eu taith a’u helpu i gyrraedd eu nodau. Mae cymaint o bosibiliadau, ac rydym yn credu ei bod yn fenter mor bwysig i helpu i chwalu’r rhwystrau systemig a chreu ecosystem deg a gwastad. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â phawb.”

 

Lansiwyd POWER UP yn 2021 gyda Time To Power Up, ac fe’i cyd-sefydlwyd gan Ben Wynter a Sefydliad PRS mewn partneriaeth â YouTube Music, Beggars Group, Spotify a’r Gynghrair Cerddoriaeth Ddu. Mae’r fenter yn dwyn ynghyd sawl partner yn y diwydiant cerddoriaeth ar draws pob sector i gyflymu newid, gyda chefnogwyr yn cynnwys Creative Scotland, Believe, Simkins, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal ag AIM, y BPI, yr FAC, Academi Ivors, yr MMF, yr MPA, MPG, Undeb y Cerddorion, PPL, PRS ar gyfer Cerddoriaeth a Chronfa Aelodau PRS, yn ogystal â’r Partner Cyswllt, Daft Springer, sydd oll yn ychwanegu at y gefnogaeth i Gyfranogwyr POWER UP.

Mae mwy nag 80 o weithredwyr a chreawdwyr cerddoriaeth Du wedi dod ynghyd i gyfrannu at POWER UP a gosod y cyfeiriad ar ei gyfer. Sefydlwyd Grŵp Llywio Gweithredol yn hwyr yn 2020 yn cynnwys rhai o’r gweithwyr proffesiynol Du mwyaf dylanwadol yn niwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig. Ochr yn ochr â’r Grŵp Llywio Gweithredol, treiddiodd saith grŵp ffocws a oedd yn ymdrin â Recordio a Chyhoeddi, Byw, Platfformau, Rhywedd, Rhywioldeb, Menter a Rhanbarthiaeth yn ddyfnach i’r rhwystrau y mae creawdwyr cerddoriaeth a gweithwyr proffesiynol Du wedi’u profi ar draws y sector a sut gellid mynd i’r afael â nhw.

 

Cydnabuwyd 12 mis cyntaf gwaith dylanwadol POWER UP yn ddiweddar gan y Wobr Changemaker gan IMPALA sydd newydd ei lansio, sy’n ceisio amlygu prosiectau sy’n hyrwyddo newid yn y sector annibynnol ac ysbrydoli pobl eraill i weithredu.

 

Mae rhwydwaith Cyfranogwyr POWER UP, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, yn rhwydwaith cryf o 80 o bobl, gan gynnwys Cyfranogwyr wedi’u lleoli yng Nghymru, Lekan Latinwo, Mace the Great a Tumi Williams, sy’n dod â phrofiadau amrywiol ac arbenigedd sylweddol i’r rhwydwaith Cyfranogwyr y Rhaglen a’r Mudiad POWER UP ehangach. Maen nhw eisoes wedi sbarduno talent sydd wedi ennill gwobrau a’r rhai hynny sy’n dominyddu rhestrau chwarae a pherfformwyr ac yn ymgymryd â swyddi uwch a Bwrdd ar draws y diwydiant.

Dysgwch fwy am POWER UP a sut gallwch gymryd rhan ar wefan Sefydliad PRS.