This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here OK
This site uses cookies. By continuing to browse this site, you are agreeing to our use of cookies. To find out more about our use of cookies click here. OK

Home > Sefydliad PRS yn cyhoeddi’r 21 o artistiaid a’r 7 gweithiwr proffesiynol gyrfa gynnar yn y diwydiant sy’n derbyn cymorth arloesol Cerddoriaeth Momentwm PPL a Sbardun Momentwm PPL wedi’i dargedu yn y rownd ddiweddaraf

Sefydliad PRS yn cyhoeddi’r 21 o artistiaid a’r 7 gweithiwr proffesiynol gyrfa gynnar yn y diwydiant sy’n derbyn cymorth arloesol Cerddoriaeth Momentwm PPL a Sbardun Momentwm PPL wedi’i dargedu yn y rownd ddiweddaraf

 

  • Mae 9 artist dawnus gan gynnwys Dea Matrona, The Gentle Good, Still Shady a Bina yn cael y rownd ddiweddaraf o gymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL
  • Mae 5 creawdwr cerddoriaeth a 4 gweithiwr proffesiynol y diwydiant yn cael cymorth Sbardun Momentwm PPL Dinas-Ranbarth Lerpwl ac mae 7 creawdwr cerddoriaeth a 3 gweithiwr proffesiynol y diwydiant yn cael cymorth Sbardun Momentwm PPL

 

Mae Sefydliad PRS, y brif elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n ariannu cerddoriaeth newydd a datblygu talent, yn cyhoeddi heddiw yr artistiaid diweddaraf ledled y Deyrnas Unedig a ddewiswyd gan rwydwaith o arbenigwyr y diwydiant i gael cymorth gan y Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL arloesol a’r artistiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn Ninas-Ranbarth Lerpwl a Chymru sy’n cael cymorth Sbardun Momentwm PPL wedi’i dargedu.

 

Dyma’r 9 artist a ddewiswyd i gael cymorth gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn y rownd ddiweddaraf:

 

  • ARXX – Teithio gyda Fletcher ledled y Deyrnas Unedig
  • BINA. – Recordio, teithio, marchnata ar gyfer yr EP newydd ‘Chaos is a necessary part of rebirth’
  • Dea Matrona – Teithio a marchnata ar gyfer eu halbwm cyntaf ‘For Your Sins’
  • Ili – Recordio, teithio, marchnata ar gyfer EP newydd
  • Kehina – Marchnata a ffilm fer ar gyfer yr EP newydd ‘If A Tree Falls’
  • The Gentle Good – Marchnata a datblygu sioe fyw ar gyfer yr albwm newydd, ‘Elan’
  • Lusaint – Costau stiwdio, cynhyrchydd a cherddor sesiwn ar gyfer ei hail EP
  • Still Shadey – Recordio, teithio a marchnata ar gyfer ei albwm cyntaf ‘Glorious News’
  • Toya Delazy – Cynhyrchu, gwesteion arbennig, sioeau byw a delweddau ar gyfer ei halbwm newydd, ‘AFRODAVE Vol 2’

 

Dywedodd BINA. sy’n cael cymorth gan Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, “Bydd Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL o gymorth mawr i mi greu prosiect bythol rydw i’n falch ohono ac yn fy helpu i fynd â’m straeon a’m gyrfa i’r lefel nesaf.”

 

 

Dyma’r 5 artist a’r 4 gweithiwr proffesiynol y diwydiant sy’n cael cymorth Sbardun Momentwm PPL ar gyfer Dinas-Ranbarth Lerpwl:

 

Creawdwyr Cerddoriaeth:

  • Bandit – Datblygu ansawdd cerddoriaeth a sain a chynyddu marchnata ar gyfer EP newydd
  • Ex-Easter Island Head – Teithio a chymorth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr albwm newydd ‘Norther’
  • Pet Snake – Cynyddu cwmpas recordio ar gyfer ei halbwm cyntaf
  • SSJ – Amser i greu a rhyddhau cerddoriaeth newydd
  • Tonia – Datblygu perfformiad byw a threfnu taith newydd


Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant:

  • Connor Di Leo – Cyd-sylfaenydd MusicSeen, datblygu’r wefan a datblygu cynnwys deunydd hyrwyddo ar gyfer sesiynau byw.
  • Jenny Coyle – Datblygiad personol, sgiliau ac entrepreneuriaeth ac archwilio cyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr proffesiynol y diwydiant
  • Nina Himmelreich – Cyd-sylfaenydd MusicSeen, hyfforddiant cynnal gwefan, cynhyrchu sesiynau byw ar gyfer y safle a mynychu Cynhadledd leol i hyrwyddo MusicSeen
  • Oliver Cash – Datblygu’r label recordio PLUSH i lwyfannu a hyrwyddo cymuned cerddoriaeth ddawns danddaearol Lerpwl

 

Dywedodd Nat Waters o Bandit, sy’n cael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL Lerpwl, “Bydd Cronfa Sbardun Momentwm PPL yn allweddol i’n gyrfa oherwydd bydd yn ein galluogi i greu cerddoriaeth o ansawdd uchel a chanolbwyntio ar ymdrechion marchnata mwy proffesiynol ar gyfer ein EP nesaf. Mae’r awydd i ddatblygu ein sain flaenorol yn rhan enfawr o’n camau nesaf ac mae’r cyllid wedi rhoi’r cyfle i ni wneud hyn.”

 

 

Dyma’r 7 artist a’r 3 gweithiwr proffesiynol y diwydiant yng Nghymru sy’n cael cymorth Sbardun Momentwm PPL:

 

Creawdwyr Cerddoriaeth:

  • Aderyn – Recordio EP newydd mewn stiwdios yng Nghymru, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo ar y radio, a chynyddu dyddiadau’r daith bresennol
  • CHROMA – Amser i greu a recordio ail albwm
  • Cynefin – Amser i greu a recordio’r albwm iaith Gymraeg ‘Shimli’ a chymorth marchnata
  • Douvelle19 – Cydweithio ag artistiaid ar gyfer celfwaith rhyddhau, nwyddau, costau recordio a datblygu a theithio’r noson ‘Locally Sauced’
  • Lucas Alexander – Ehangu’r ‘Let’s Get Jazzy & the Popty Ping Up Tour’ i fwy o drefi a dinasoedd yng Nghymru
  • THE NIGHTMARES – Recordio albwm newydd yn West Sound Studios yng Nghasnewydd, gyda’r cynhyrchydd Richard Jackson
  • Ynys – Cymysgu a meistroli’r albwm newydd a hyrwyddo a marchnata’r record

 

Gweithwyr Proffesiynol y Diwydiant:

  • David Acton – Datblygiad personol a chynyddu gwybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth trwy addysg
  • Elan Evans – Sefydlu a chynnal label recordiau a chyhoeddwr cerddoriaeth yng Nghymru i helpu artistiaid o Gymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd
  • Yasmine Davies – Mentora a hyfforddiant i gynyddu sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth a’u datblygu ymhellach

 

Dywedodd Dave Acton, sy’n cael cymorth gan Sbardun Momentwm PPL, “Mae cael cymorth Sbardun Momentwm PPL ar yr adeg hon yn fy nhaith bersonol mewn cerddoriaeth nid yn unig wedi rhoi hwb mawr i’m hyder a rhoi sicrwydd i mi fod gwaith blaenorol wedi cael ei gydnabod, bydd hefyd yn caniatáu i mi gael yr addysg y mae ei hangen arna’ i i ymhelaethu ar fy ngwaith a gwella fy ngwybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth a fydd, gobeithio, yn caniatáu i mi gynorthwyo artistiaid ymhellach yn eu gyrfaoedd.”

 

 

Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yw’r cymorth arloesol i artistiaid sydd wedi cyrraedd cam  tyngedfennol, sydd eisoes â thîm ar waith ac sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sy’n cael ei rheoli gan Sefydliad PRS, yn dyfarnu grantiau o £5,000-£15,000 gan ddefnyddio arian o Sefydliad PRS, PPL, Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.

 

Mae cyllid Sbardun Momentwm PPL yn cefnogi artistiaid cyffrous sy’n denu mwy a mwy o gefnogwyr ac sy’n gweithio i sefydlu tîm yn y diwydiant cerddoriaeth. Gall artistiaid dderbyn hyd at £5,000 yn ogystal â mentora gan arbenigwyr rhanbarthol a chenedlaethol. Gall gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa, sy’n chwarae rôl allweddol yn y sîn leol, gael cymorth ar ffurf cyfuniadau o grantiau bach, mentora neu gymorth cyfannol arall. Mae cronfa Sbardun Momentwm PPL Dinas-Ranbarth Lerpwl yn cael ei chynnal gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Bwrdd Cerddoriaeth Dinas-Ranbarth Lerpwl, Culture Liverpool ac Awdurdod Cyfunol Dinas-Ranbarth Lerpwl ac mae cronfa Sbardun Momentwm PPL mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Dywedodd John Hendrickse, Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad PRS: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r artistiaid a’r gweithwyr proffesiynol y diwydiant diweddaraf i dderbyn ein cymorth trwy Gronfa Gerddoriaeth a Sbardun Momentwm PPL. Llongyfarchiadau mawr i’r 28 o dderbynyddion grantiau. Mae’n wych gweld cymaint o dalent ledled y Deyrnas Unedig, p’un a ydynt eisoes wedi’u sefydlu ac yn barod i gymryd y cam nesaf, neu’n datblygu sylfaen gyrfa gynnar yn raddol. Rydym hefyd yn falch o allu cydnabod a chynnig cymorth i weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa sy’n gwneud cyfraniad pwysig at y sîn gerddoriaeth leol yn Ninas-Ranbarth Lerpwl a Chymru. Mae’r syniadau creadigol, y cyfleoedd a’r entrepreneuriaeth maen nhw’n eu cyfrannu nid yn unig yn chwarae rôl allweddol yn yr ecosystem gerddoriaeth leol a chenedlaethol, ond hefyd yn natblygiad ehangach gyrfaoedd creawdwyr cerddoriaeth.

 

Dywedodd Kate Reilly, Prif Swyddog Aelodaeth a Phobl yn PPL, “Llongyfarchiadau i’r holl dderbynyddion yn y rownd gyllido ddiweddaraf. Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent gerddorol ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau yw un o ddaliadau craidd Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL. Rydym yn falch o gefnogi creadigrwydd a dyfeisgarwch rhai o’r artistiaid a’r gweithwyr proffesiynol y diwydiant mwyaf addawol ledled y Deyrnas Unedig ac yn Lerpwl a Chymru trwy Sbardun Momentwm PPL.”

 

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: “Rydym mor falch bod wyth cerddor dawnus arall o Gymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid Momentwm PPL. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r artistiaid yn defnyddio’r cyllid hwnnw i ddatblygu a marchnata eu cerddoriaeth ymhellach a, gobeithio, eu gwylio’n torri trwodd i gam nesaf eu gyrfaoedd. Mae’r cymorth ariannol a mentora a ddarperir i weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa yn newyddion gwych hefyd, nid yn unig i’r tri derbynnydd, ond i sîn gerddoriaeth llawr gwlad Cymru yn ehangach wrth iddi barhau i gryfhau a thyfu.”

 

Dywedodd Ciaran Scullion, Pennaeth Cerddoriaeth ac Opera yng Nghyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, “Mae Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn falch o fod yn bartner gyda Sefydliad PRS ar Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL, sef menter allweddol sy’n galluogi ein hartistiaid i gymryd y cam hollbwysig hwnnw yn natblygiad eu gyrfaoedd cerddoriaeth proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr, ystyrlon i’n hartistiaid ddatblygu a chyrraedd eu potensial llawn. Llongyfarchiadau i’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan yn y rownd bresennol ac i Dea Matrona o Ogledd Iwerddon, a fydd yn elwa’n fawr o’r cymorth hwn tuag at deithio a marchnata eu halbwm cyntaf ‘For Your Sins’.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Wharton, Deiliad Portffolio Datblygu Economaidd a Busnes ar gyfer Dinas-Ranbarth Lerpwl 2023/24, “Mae artistiaid o Ddinas-Ranbarth Lerpwl wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol am y 60 mlynedd diwethaf, ond mae’n dod yn fwyfwy anodd i artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg dorri trwodd a datblygu gyrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.

 

“Dyna pam rydw i wedi cefnogi Bwrdd Cerddoriaeth Dinas-Ranbarth Lerpwl i weithio gyda Culture Liverpool i gefnogi twf cynhwysol y sector cerddoriaeth a datblygu ein talent leol. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu parhau i weithio gyda Sefydliad PRS ar raglen Sbardun Momentwm PPL.

 

 

Daeth PPL yn brif noddwyr Cronfa Gerddoriaeth Momentwm ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae 193 o greawdwyr cerddoriaeth dawnus ar gam tyngedfennol yn eu gyrfaoedd wedi cael y cymorth hollbwysig hwn i dorri trwodd i’r lefel nesaf. Mae cymorth o’r math hwn yn allweddol i yrfaoedd creawdwyr cerddoriaeth a’r diwydiant ehangach, fel y canfu’r adroddiad 10 Mlynedd o Fomentwm (2013-23). Hyd yma, mae’r gronfa wedi bod yn drawsnewidiol trwy ddyfarnu dros £5.2 miliwn i artistiaid ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan arwain at:

 

  • Helpu i gynhyrchu £22 miliwn ar gyfer diwydiant cerddoriaeth y Deyrnas Unedig
  • Dyfarnu cymorth Cronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL i fwy na 500 o artistiaid
  • Creu 275 o albymau (gan gynnwys albymau a enwebwyd am Wobr Mercury a dwsinau o rai a gyrhaeddodd yr ugain uchaf yn y siartiau)
  • Cefnogi dros 300 o deithiau yn y Deyrnas Unedig a dros 1,600 o berfformiadau byw
  • Derbyn mwy na 7,300 o geisiadau dros 40 o rowndiau cyllido gyda chyfradd lwyddo 7% o ran dyfarnu arian

 

Trwy werthusiad o Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL yn 2018 a thystiolaeth o filoedd o geisiadau y mae Sefydliad PRS yn eu derbyn bob blwyddyn, amlygwyd bylchau yn y llif talent ledled y Deyrnas Unedig. Mae llawer o greawdwyr cerddoriaeth yn dangos potensial cerddorol cryf ond nid ydynt yn gallu manteisio arno oherwydd rhwystrau ariannol, bylchau mewn seilwaith rhanbarthol, gwybodaeth, cyngor, a mynediad at lwyfannau’r diwydiant.

 

Wedi hynny, lansiwyd Sbardun Momentwm PPL fel cynllun wedi’i dargedu i gefnogi datblygiad artistiaid a bandiau rhagorol sy’n cyfansoddi eu cerddoriaeth eu hunain, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd ar gam cynnar o’u gyrfa, y tu allan i Lundain sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cyrraedd pwynt tyngedfennol yn eu gyrfa oherwydd eu lleoliad. Lansiwyd Sbardun Momentwm PPL fel cynllun peilot yn Lerpwl yn 2019, ac mae bellach yn cael ei gynnal yn Ninas-Ranbarth Lerpwl, Cymru a Swydd Efrog.

 

Cychwynnodd Sefydliad PRS a Chyngor Celfyddydau Lloegr Gronfa Gerddoriaeth Momentwm yn 2013. Sefydlodd Cyngor Celfyddydau Lloegr yr angen am y gronfa benodol hon yn wreiddiol a chefnogodd y rhaglen o 2013-18.

 

 

I gael gwybod pwy sydd wedi cael ei gefnogi trwy Gronfa Gerddoriaeth Momentwm PPL a Sbardun Momentwm PPL hyd yma, a’r holl ddyddiadau cau diweddaraf i ymgeisio, ewch i wefan Sefydliad PRS. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus o ddyddiad cau 20 Mai yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd i ddod.